BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2008 No. 2162 (Cy. 192)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082162_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2008

Gwnaed

12 Awst 2008

Yn dod i rym

2 Medi 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn, drwy arfer y pwerau sydd wedi'u breinio ynddynt hwy(1) gan adrannau 121(5) a 122(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(2):

Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2008 a daw i rym ar 2 Medi 2008.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhychwantu Cymru a Lloegr ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005

2. Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005(3), hepgorer y geiriau "Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot".

Rosemary Thomas

Pennaeth yr Is-adran Gynllunio ar ran y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

12 Awst 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r trefniadau trosiannol a wnaed o dan Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 ("Gorchymyn Rhif 4") i ben o ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ("y Cyngor").

O dan y trefniadau hynny, mae pob awdurdod cynllunio lleol a restrir yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 yn gallu parhau â'r broses sy'n arwain yn y pendraw at fabwysiadu ei gynllun datblygu unedol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn hytrach na gorfod dechrau ar y gwaith o baratoi cynllun datblygu lleol o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.

Mae'r Gorchymyn hwn yn tynnu'r Cyngor oddi ar y rhestr o awdurdodau cynllunio lleol yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 ac felly yn gosod y Cyngor o dan ddyletswydd i baratoi cynllun datblygu lleol ar gyfer ei ardal.

(1)

Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [1]

(2)

2004 p.5. Back [2]

(3)

O.S. 2005/2722 (Cy.193) (C.110) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/842 (Cy.72), 2006/1700 (Cy.162), 2006/3119 (Cy.289), 2007/546 (Cy.48), 2007/1023 (Cy.92), 2007/2371 (Cy.194), 2007/2447(Cy.203), 2007/2449 (Cy.205), a 2008/10(Cy.4). Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082162_we_1.html