BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (Uchafsymiau a Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2008 No. 2370 (Cy. 205)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082370_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (Uchafsymiau a Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2008

Gwnaed

6 Medi 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Medi 2008

Yn dod i rym

2 Hydref 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 23(1)(l), 33 a 146 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (Uchafsymiau a Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 2 Hydref 2008.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Uchafswm y grant ar gyfer cyfleusterau i'r anabl

2. Pan fo raid i awdurdod tai lleol gymeradwyo cais am grant ar gyfer cyfleusterau i'r anabl yn rhinwedd adran 23(1) o'r Ddeddf (grantiau: dibenion y mae'n rhaid rhoi grant ar eu cyfer neu ddibenion y caniateir rhoi grant ar eu cyfer), £36,000 yw'r uchafswm y caiff yr awdurdod ei dalu o ran y cais.

Dibenion y caniateir rhoi grant ar eu cyfer

3.–(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf, rhaid cymeradwyo cais am grant ar gyfer cyfleusterau i'r anabl pan fo'r cais yn gais at ddiben a bennir ym mharagraff (2).

(2) Dyma'r dibenion––

(a) hwyluso mynediad i ardd ac o ardd gan feddiannydd anabl(3); neu

(b) gwneud mynediad i ardd yn ddiogel i feddiannydd anabl.

(3) At ddibenion paragraff (2) ystyr "gardd" yw gardd sy'n perthyn i annedd neu a fwynheir fel arfer ynghyd ag annedd(4), carafán(5) neu fflat(6) a feddiennir gan feddiannydd anabl ac mae'n cynnwys–

(i) balconi sy'n cyffinio ag annedd meddiannydd anabl;

(ii) buarth, tŷ allan neu atodyn arall o fewn ffiniau'r tir lle y mae annedd neu garafán meddiannydd anabl wedi ei leoli ac sy'n perthyn iddo neu a fwynheir fel arfer gydag ef;

(iii) buarth, tŷ allan, neu atodyn arall o fewn ffiniau'r tir lle y mae'r adeilad y mae annedd neu, yn ôl y digwydd, fflat meddiannydd anabl wedi ei leoli ac sy'n perthyn iddo neu a fwynheir fel arfer gydag ef; a

(iv) y tir cyfagos i angorfa cwch preswyl cymwys y meddiannydd anabl(7).

(4) Os ym marn yr awdurdod tai lleol y mae'r gwaith perthnasol yn fwy neu lai helaeth na'r hyn sy'n angenrheidiol i gyflawni diben a osodir ym mharagraff (2), caiff, gyda chydsyniad y ceisydd, drin y cais fel petai wedi ei amrywio fel bod y gwaith perthnasol yn gyfyngedig i'r gwaith hwnnw sydd ym marn yr awdurdod tai lleol yn angenrheidiol at y diben hwnnw neu yn cynnwys y cyfryw waith.

(5) Yn yr erthygl hon ystyr "ceisydd" yw'r person sy'n gwneud y cais am grant o dan Bennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf.

Darpariaethau sy'n peidio â bod yn effeithiol yng Nghymru

4. Mae erthyglau 2 a 3 o Orchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996(8) yn peidio â bod yn effeithiol o ran Cymru.

Jocelyn Davies

O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru.

6 Medi 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn (sy'n gymwys o ran Cymru) yn rhagnodi uchafswm y grant ar gyfer cyfleusterau gorfodol i'r anabl y gall fod yn ofynnol i awdurdod tai lleol ei dalu o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladau ac Adfywio 1996 ("y Ddeddf"). Yn unol ag erthygl 2, £36,000 yw'r uchafswm.

Mae adran 23(1) o'r Ddeddf yn pennu'r dibenion, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf, y mae'n rhaid cymeradwyo cais am grant ar eu cyfer. Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn pennu dibenion ychwanegol y mae'n rhaid cymeradwyo cais am grant ar eu cyfer, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf gael eu bodloni. Y dibenion penodedig yw ei gwneud yn hwylus i feddiannydd anabl fynd i ardd (a ddiffinnir yn erthygl 3(3)) ac o ardd, a'i gwneud yn ddiogel i'r meddiannydd anabl fynd i ardd a dod ohoni.

Mae erthyglau 2 a 3 o Orchymyn Grantiau Cyfleusterau a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996 sy'n gymwys i Gymru a Lloegr, yn gosod uchafswm y grant at gyfleusterau gorfodol i'r anabl yn £30,000 o ran Cymru. Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn darparu i'r erthyglau hynny beidio â bod yn effeithiol o ran Cymru.

(1)

1996 p. 53. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) mae'r swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru. Back [2]

(3)

Am ystyr "meddiannydd anabl" gweler "disabled occupant" yn adran 20 o'r Ddeddf. Back [3]

(4)

Am ystyr "annedd" gweler "dwelling" yn adran 101 o'r Ddeddf. Back [4]

(5)

Am ystyr "carafán" gweler "caravan" yn adran 58 o'r Ddeddf. Back [5]

(6)

Am ystyr "fflat" gweler "flat" yn adran 58 o'r Ddeddf. Back [6]

(7)

Am ystyr "cwch preswyl cymwys" gweler "qualifying houseboat" yn adran 58 o'r Ddeddf. Back [7]

(8)

O.S. Rhif 1996/2888. Back [8]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082370_we_1.html