BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2008 No. 2845 (Cy. 255)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082845_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2008

Gwnaed

2 Tachwedd 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Tachwedd 2008

Yn dod i rym

25 Tachwedd 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Iawndal Tir 1973(1) ("y Ddeddf") ac sy'n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 25 Tachwedd 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Symiau diwygiedig y taliad colli cartref

2. Pan fo'r dyddiad dadleoli ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ei ôl–

(a) £47,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf;

(b) £4,700 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf; ac

(c) £4,700 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o'r Ddeddf.

Dirymu ac arbed

3.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2007(3).

(2) Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i fod yn effeithiol o ran dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

2 Tachwedd 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 ("y Ddeddf") i'r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Maent yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy'n daladwy mewn unrhyw achos arall.

Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o'r Ddeddf i gael taliad colli cartref. Cafodd y sail bresennol ar gyfer asesu swm y taliad colli cartref ei sefydlu drwy ddiwygiadau a wnaed i'r Ddeddf yn Neddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

Mewn achosion pan fo gan berson sy'n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o'r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny'n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.

Mae adran 30(2) yn rhagnodi swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.

Mae Rheoliad 2(a) o'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r uchafswm sy'n daladwy o dan adran 30(1) o'r Ddeddf o £44,000 i £47,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu'r isafswm o £4,400 i £4,700. Mae Rheoliad 2(c) yn cynyddu'r taliad colli cartref sy'n daladwy, o dan adran 30(2) o'r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall o £4,400 i £4,700.

Dim ond uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref a newidir ac nid oes unrhyw newid yn y ganran sy'n daladwy o werth ar y farchnad o fuddiant y person a ddadleolir.

Mae'r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo'r dadleoli'n digwydd ar 25 Tachwedd 2008 neu ar ôl hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2007 yn parhau i fod yn effeithiol o ran dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ond ar wahân i hynny fe'u dirymir.

(1)

1973 p.26; amnewidiwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34) gydag effaith o 25 Medi 1991 ymlaen (gweler O.S. 1991/ 2067, erthygl 3). Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2; ac Atodlen 1. Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y cyfryw adran eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 2007/2372 (Cy.195). Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082845_we_1.html