BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Cefnffordd Llundain I Abergwaun (YR A40) (Gwelliant Penblewin I Barc Slebets) 2008 No. 3138 (Cy. 277)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20083138_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Cefnffordd Llundain I Abergwaun (YR A40) (Gwelliant Penblewin I Barc Slebets) 2008

Gwnaed

8 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym

17 Rhagfyr 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 10, 12 a 106 o Ddeddf Priffyrdd 1980(1) a phob pwer galluogi arall (2)–

1. Daw'r briffordd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadau ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.

2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

3. Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog llydan ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd ac yn dod yn ffordd ddosbarthiadol neu'n ffordd ddiddosbarth fel y dangosir yn yr Atodlen honno o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Benfro mai ef fydd yr awdurdod priffyrdd cyfrifol am y darnau hynny o ffordd.

4. Mae Gweinidogion Cymru wedi'u hawdurdodi i adeiladu'r bont newydd a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn fel rhan o'r gwelliannau i'r gefnffordd.

5. Yn y Gorchymyn hwn:

6. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Rhagfyr 2008. Enw'r Gorchymyn hwn yw ''Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 2008''.

Llofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru

S. C. SHOULER

Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

8 Rhagfyr 2008

YR ATODLENNI

ATODLEN 1 LLWYBR Y GEFNFFORDD NEWYDD

O bwynt ar y gefnffordd 58 o fetrau i'r de ddwyrain o'i chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i Lawhaden ac sy'n dwyn y cyfeirnod A ar y plan a adneuwyd, ac sy'n cynnwys cylchfan 292 o fetrau i'r de ddwyrain o'i chyffordd â'r A4075, ac ail gylchfan 278 o fetrau i'r de ddwyrain o'i cyffordd â'r B4313, am bellter o 2.67 o gilometrau, hyd at bwynt ar y gefnffordd 420 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r B4314 ac sy'n dwyn y cyfeirnod B ar y plan a adneuwyd.

ATODLEN 2 DARNAU O GEFNFFORDD YR A40 SY'N PEIDIO Å BOD YN GEFNFFORDD

Y darnau hynny o gefnffordd yr A40 sy'n peidio â bod yn gefnffordd yw'r darnau hynny rhwng ei chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i Lawhaden a'i chyffordd â Flimstone Lane rhwng Penblewin a Slebets yn Sir Benfro sef:

(i) o bwynt ar y gefnffordd 53 o fetrau i'r de ddwyrain o'i chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i Lawhaden ac sy'n dwyn y cyfeirnod C ar y plan a adneuwyd, pellter cyfan o 0.53 o gilometrau hyd at bwynt ar y gefnffordd 305 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 ac sy'n dwyn y cyfeirnod D ar y plan a adneuwyd fydd yn dod yn ffordd ddiddosbarth, a

(ii) o bwynt ar y gefnffordd 337 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 ac sy'n dwyn y cyfeirnod E ar y plan a adneuwyd, am bellter cyfan o 1.91 o gilometrau hyd at bwynt ar y gefnffordd 245 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r B4314 ac sy'n dwyn y cyfeirnod F ar y plan a adneuwyd fydd yn dod yn ffordd ddosbarthiadol.

ATODLEN 3 MANYLEBION PONT DROS GWRS DW^R MORDWYOL

Pont newydd dros y cwrs dwr mordwyol a elwir afon Cleddau Ddu yng nghymuned Llawhaden yn gyfagos i adeiledd y bont bresennol dros yr A40 yn Canaston Bridge a phellter clir o 12 o fetrau i'r de ohoni, 1.8 o gilometrau i'r gorllewin o Robeston Wathen, y dangosir ei lleoliad a'i dyluniad cyffredinol ar blan y bont.

View a larger version of this image

(1)

1980 p.66. Back [1]

(2)

Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac atodlen 1, a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r pwerau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o ran Cymru. Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20083138_we_1.html