BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2008 No. 3171 (Cy. 284) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20083171_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
12 Rhagfyr 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 83(5)(a) o'r Ddeddf Iechyd 2006(1).
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Iechyd 2006.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. 13 Rhagfyr 2008 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf–
(a) Pennod 1 o Ran 3 o'r Ddeddf fel y mae'n gymwys o ran Cymru, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym(2); a
(b) adrannau 76, 77 a 78 i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 3 (gan gynnwys tramgwyddau a grëir mewn rheoliadau o dan y Bennod honno).
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Rhagfyr 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r ail Orchymyn Cychwyn sy'n cael ei wneud o dan Ddeddf Iechyd 2006 ("Deddf 2006"). Mae'n dwyn i rym Bennod 1 o Ran 3 o Ddeddf 2006 o ran Cymru. Mae'n cynnwys mesurau ynghylch rheoli a defnyddio cyffuriau a reolir yn ddiogel mewn sefydliadau iechyd a gofal penodol. Yn benodol, mae'n darparu ar gyfer penodi swyddogion atebol y mae'n rhaid iddynt sicrhau bod gan gyrff penodedig drefniadau priodol ar gyfer trafod cyffuriau a reolir yn ddiogel ac yn effeithiol, ac mae'n cynnwys dyletswyddau o gydweithredu rhwng cyrff cyfrifol a hawliau i gael mynediad ac i archwilio mangreoedd perthnasol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn Cychwyn canlynol wedi'i wneud o dan Ddeddf Iechyd 2006 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru:
Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/204 (Cy.18) (C.9)).
Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi'u gwneud o dan Ddeddf Iechyd 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd o ran Cymru a Lloegr:
Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) 2006 (O.S. 2006/2603 (C.88)),
Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/3125 (C.108)) (mae rhannau ohono hefyd yn ymwneud â'r Alban),
Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 3) 2007 (O.S. 2007/1375 (C.57)).
Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 5) 2008 (O.S. 2008/1972 (C.96)).
Mae'r Gorchymyn Cychwyn canlynol wedi'i wneud o dan Ddeddf Iechyd 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd o ran Lloegr a'r Alban:
Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 4) (O.S. 2008/1147 (C.50)).
Y ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 1 i 3 | 2 Ebrill 2007 (o ran Cymru) a 1 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr) | 2007/204 (Cy.18) (C.9) 2007/1375 (C.57) |
Adran 4 | 1 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr) | 2007/1375 (C.57) |
Adran 5 | 2 Ebrill 2007 (o ran Cymru) | 2007/204 (Cy.18) (C.9) |
Adran 5 (heblaw adran 5(4)) | 1 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr) | 2007/1375 (C.57) |
Adran 5(4) | 1 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) | 2007/1375 (C.57) |
Adrannau 6 i 12 | 2 Ebrill 2007 (o ran Cymru) a 1 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr) | 2007/204 (Cy.18) (C.9) 2007/1375 (C.57) |
Adran 13 | 1 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr a Chymru) | 2007/1375 (C.57) |
Adrannau 14 i 16 | 1 Hydref 2006 | 2006/2603 (C.88) |
Adrannau 17 i 25 | 1 Ionawr 2007 (yn rhannol o ran Lloegr) a 1 Mawrth 2007 (o ran yr Alban) | 2006/3125 (C.108) 2006/3125 (C.108) |
Adran 33 | 1 Hydref 2006 | 2006/2603 (C.88) |
Adrannau 34 a 35 | 28 Chwefror 2007 (yn rhannol) | 2006/3125 (C.108) |
Adrannau 37 i 42 | 1 Awst 2008 | 2008/1972 (C.96) |
Adran 43 | 1 Mai 2008 | 2008/1147 (C.50) |
Adrannau 44 i 55 | 1 Chwefror 2007 (o ran Cymru) a 22 Ebrill 2008 (o ran Lloegr) | 2007/204 (Cy.18) (C.9) 2008/1147 (C.50) |
Adran 56 | 1 Chwefror 2007 (o ran Cymru) a 1 Hydref 2006 (o ran Lloegr, yn rhannol) | 2007/204 (Cy.18) (C.9) 2006/2603 (C.88) |
Adran 57 | 1 Hydref 2006 | 2006/2603 (C.88) |
Adrannau 58 i 62 | 28 Medi 2006 (yn rhannol) | 2006/2603 (C.88) |
Adrannau 58 i 62 | 1 Hydref 2006 (y gweddill) | 2006/2603 (C.88) |
Adrannau 63 i 69 | 1 Hydref 2006 | 2006/2603 (C.88) |
Adran 70 | 28 Medi 2006 (yn rhannol) | 2006/2603 (C.88) |
Adran 70 | 1 Hydref 2006 (y gweddill) | 2006/2603 (C.88) |
Adran 71 | 28 Medi 2006 (yn rhannol) | 2006/2603 (C.88) |
Adran 71 | 1 Hydref 2006 (y gweddill) | 2006/2603 (C.88) |
Adran 72 | 28 Ebrill 2008 | 2008/1147 (C.50) |
Adran 73 | 29 Ionawr 2007 (ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Alban) a 29 Ionawr 2007 (o ran yr Alban) | 2006/3125 (C.108) OSA 2007/9 (C.1) |
Adrannau 76 a 77 | 1 Chwefror 2007 (Cymru, i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 3 o Ran 4) a 2 Ebrill 2007 (Cymru, i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 1) | 2007/204 (Cy.18) (C.9) 2007/204 (Cy.18) (C.9) |
Adrannau 76 a 77 | 1 Gorffennaf 2007 (Lloegr, i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Ran 1) a 22 Ebrill 2008 (Cymru, i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 3 o Ran 4) a 22 Ebrill 2008 (Lloegr a'r Alban, i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 3) | 2007/1375 (C.57) 2008/1147 (C.50) 2008/1147 (C.50) |
Adran 78 | 1 Chwefror 2007 (Cymru, i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 3 o Ran 4) a 2 Ebrill 2007 (Cymru, i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 1) | 2007/204 (Cy.18) (C.9) 2007/204 (Cy.18) (C.9) |
Adran 78 | 22 Ebrill 2008 (Lloegr, i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 3 o Ran 4) a | 2008/1147 (C.50) |
22 Ebrill 2008 (Lloegr, i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 3) | 2008/1147 (C.50) | |
Adran 80(1) | 1 Hydref 2006 (yn rhannol) 29 Ionawr 2007 (yn rhannol o ran yr Alban) 1 Chwefror 2007 (yn rhannol o ran Cymru) | 2006/2603 (C.88) OSA 2007/9 (C.1) 2007/204 (Cy.18) (C.9) |
Adran 80(2) | 1 Hydref 2006 (yn rhannol) a 1 Chwefror 2007 (yn rhannol, o ran Cymru) | 2006/2603 (C.88) 2007/204 (Cy.18) (C.9) |
Atodlenni 1 a 2 | 2 Ebrill 2007 (o ran Cymru) a 1 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr) | 2007/204 (Cy.18) (C.9) 2007/1375 (C.57) |
Atodlen 3 | 1 Hydref 2006 (yn rhannol) 1 Chwefror 2007 (o ran Cymru) | 2006/2603 (C.88) 2007/204 (Cy.18) (C.9) |
Atodlen 4 | 1 Hydref 2006 | 2006/2603 (C.88) |
Atodlenni 5 a 6 | 28 Medi 2006 (yn rhannol) a 1 Hydref 2006 (y gweddill) | 2006/2603 (C.88) 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 7 | 1 Hydref 2006 | 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 8, paragraffau 1 i 5 | 1 Hydref 2006 | 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 8, paragraff 24(a) | 1 Hydref 2006 (yn rhannol) a 1 Chwefror 2007 (o ran Cymru) | 2006/2603 (C.88) 2007/204 (Cy.18) (C.9) |
Atodlen 8, paragraffau 26 i 28 | 1 Hydref 2006 (yn rhannol) | 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 8, paragraff 31 | 1 Hydref 2006 | 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 8, paragraffau 32–34 | 1 Awst 2008 | 2008/1972 (C.96) |
Atodlen 8, paragraff 35 | 1 Hydref 2006 | 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 8, paragraffau 39–42 | 1 Hydref 2006 (yn rhannol) | 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 8, paragraff 43 | 1 Chwefror 2007 (o ran Cymru) | 2007/204 (Cy.18) (C.9) |
Atodlen 8, paragraff 44 | 1 Hydref 2006 (ac eithrio o ran Cymru) a 1 Chwefror 2007 (o ran Cymru) | 2006/2603 (C.88) 2007/204 (Cy.18) (C.9) |
Atodlen 8, paragraff 45(1) | 1 Hydref 2006 (yn rhannol) | 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 8, paragraff 45(3) | 1 Hydref 2006 | 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 8, paragraff 46 | 1 Awst 2008 | 2008/1972 (C.96) |
Atodlen 8, paragraffau 47 a 48 | 1 Hydref 2006 | 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 8, paragraff 49 | 1 Hydref 2006 (yn rhannol) | 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 8, paragraffau 51 a 52 | 1 Hydref 2006 | 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 8, paragraff 55 | 29 Ionawr 2007 (o ran yr Alban) | OSA 2007/9 (C.1) |
Atodlen 8, paragraffau 56 i 61 | 1 Hydref 2006 | 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 8, paragraff 62 | 1 Chwefror 2007 (o ran Cymru) | 2007/204 (Cy.18) (C.9) |
Atodlen 9 | 1 Hydref 2006 (yn rhannol) | 2006/2603 (C.88) |
Atodlen 9 | 1 Chwefror 2007 (yn rhannol o ran Cymru) | 2007/204 (Cy.18) (C.9) |
2006 p.28. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Iechyd 2006 (p.28) ("y Deddf") i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]
I'r graddau y mae unrhyw darpariaeth yn y Ddeddf yn rhoi pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau neu'n diffinio unrhyw ymadrodd sy'n berthnasol wrth arfer unrhyw bŵer o'r fath wedi dod i rym pan basiwyd y Ddeddf yn rhinwedd adran 83(1)(e) o'r Ddeddf. Back [2]