BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2009 No. 267 (Cy. 30)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090267_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2009

Gwnaed

10 Chwefror 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Chwefror 2009

Yn dod i rym

28 Chwefror 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9), 33(4), 43(7), 44(4) a 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau yng Nghymru.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2009.

(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Deddf 1992" ("the 1992 Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Cyfrifo anghenion cyllideb (awdurdodau bilio)

2. Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai–

(a) yn is-adran (3)(a)(3), y geiriau "or relevant special grant" wedi eu hepgor; a

(b) ar ôl is-adran (12), yr is-adran ganlynol wedi ei mewnosod(4)–

"(12A) In this section and section 33 below–

(a) references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.1) 2009–2010 (Final Settlement – Councils) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2)(5) of, and paragraph 11B(1)(6) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 13 January 2009; and

(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.".

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (awdurdodau bilio)

3. Mae adran 33(1) o Ddeddf 1992(7) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau "or relevant special grant" yn eitem P wedi eu hepgor.

Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio)

4. Mae adran 43 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai–

(a) yn is-adran (3)(a)(i)(8)–

(i) y geiriau "relevant special grant" wedi eu hepgor; a

(ii) y geiriau "floor funding" wedi eu mewnosod o flaen "or police grant;"; a

(b) ar ôl is-adran (6D) yr is-adrannau a ganlyn wedi eu mewnosod(9)–

"(6E) In this section and section 44 below–

(a) references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.2) 2009–2010 (Final Settlement – Police Authorities) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2) of, and paragraph 11B(1) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 10 February 2009; and

(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.

(6F) In this section and section 44 below, "floor funding" means grant payable to a major precepting authority by the Secretary of State in addition to the police grant referred to in subsection (6C).".

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (prif awdurdodau praeseptio)

5. Mae adran 44(1) o Ddeddf 1992(10) yn effeithiol fel pe bai yn eitem P–

(a) y geiriau "relevant special grant" wedi eu hepgor; a

(b) y geiriau "floor funding" wedi eu mewnosod o flaen "or police grant;".

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

10 Chwefror 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") yn nodi, yn y drefn honno, sut y mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio i gyfrifo'u hanghenion cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol. Mae adrannau 33 a 44 o'r Ddeddf honno yn nodi, yn y drefn honno, sut y mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2009.

Mae rheoliadau 2(a), 3, 4(a)(i) a 5(a) o'r Rheoliadau hyn yn hepgor cyfeiriadau at "relevant special grant" o adrannau 32, 33, 43 a 44 o Ddeddf 1992 gan nad oes unrhyw grantiau arbennig yn cael eu diffinio yn grantiau arbennig perthnasol am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2009.

Mae rheoliadau 2(b) a 4(b) yn mewnosod diffiniadau o'r symiau sy'n daladwy o ran ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a grant cynnal refeniw yn adrannau 32 a 43 o Ddeddf 1992. Diben hyn yw sicrhau nad yw symiau'r ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a'r grant cynnal refeniw a gedwir allan o'r cyfrifiad ar gyfer gofynion cyllideb yn yr adrannau hynny ond yn ymwneud â'r cyfryw symiau sy'n daladwy o dan yr Adroddiadau Cyllid Llywodraeth Leol yn eu trefn am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2009. Mae'r un diffiniadau yn gymwys hefyd i adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992. Mae rheoliad 4(b) hefyd yn diffinio "floor funding" yn adran 43 drwy fewnosod is-adran (6F) ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2009.

Mae rheoliadau 4(a)(ii) a 5(b) yn diwygio ymhellach adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992 fel bod prif awdurdodau praeseptio yng Nghymru yn gorfod ystyried unrhyw gyllid gwaelodol a geir oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2009 wrth wneud y cyfrifiad gofynnol ar gyfer y flwyddyn honno.

(1)

1992 p.14; diwygiwyd adran 32(9) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19). Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]

(3)

Diwygiwyd adran 32(3)(a) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1994 (O.S. 1994/246) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234). Fe'i diwygiwyd hefyd mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2008–2009 gan reoliad 2(a) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/476 (Cy.42)). Back [3]

(4)

Mewnosodwyd adran 32(12A) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2008–2009 gan reoliad 2(b) o O.S. 2008/476 (Cy.42). Back [4]

(5)

1988 p.41; amnewidiwyd adran 84H (am adran 84H fel y'i mewnosodwyd gan adran 40(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26) ac Atodlen 2 iddi) gan erthygl 3 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 (O.S. 2007/1388) ac Atodlen 1 iddo. Back [5]

(6)

Amnewidiwyd paragraff 11B(1) (am baragraff 11B(1) fel y'i mewnosodwyd gan adran 40(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, ac Atodlen 2 iddi) gan erthygl 3 o O.S. 2007/1388, ac Atodlen 1 iddo. Back [6]

(7)

Diwygiwyd adran 33(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i diwygiwyd hefyd mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2008–2009 gan reoliad 3 o O.S. 2008/476 (Cy.42). Back [7]

(8)

Diwygiwyd adran 43(3)(a) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i diwygiwyd hefyd mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2007–2008 gan reoliad 4(a) o O.S. 2008/476 (Cy.42). Back [8]

(9)

Mewnosodwyd is-adrannau 43(6E) a (6F) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2008–2009 gan reoliad 4(b) o O.S. 2008/476 (Cy.42). Back [9]

(10)

Diwygiwyd adran 44(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i diwygiwyd hefyd mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2008–2009 gan reoliad 5 o O.S. 2008/476 (Cy.42). Back [10]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090267_we_1.html