BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Sir Ynys Môn (Cymunedau Caergybi, Trearddur, Cwm Cadnant, Penmynydd, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf) 2009 No. 367 (Cy. 37)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090367_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Sir Ynys Môn (Cymunedau Caergybi, Trearddur, Cwm Cadnant, Penmynydd, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf) 2009

Gwnaed

23 Chwefror 2009

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) i (4)

Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), adroddiad dyddiedig Ebrill 2008 ar ei adolygiad o gymunedau mewn rhan o Sir Ynys Môn a'i gynigion ar eu cyfer.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2):

Enwi a chychwyn

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ynys Môn (Cymunedau Caergybi, Trearddur, Cwm Cadnant, Penmynydd, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf) 2009.

(2) At unrhyw ddiben a ddisgrifir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl diwrnod ei wneud.

(3) Mae erthyglau 6, 9 ac 11 yn dod i rym–

(a) at ddibenion gweithrediadau sy'n dod cyn unrhyw etholiad sydd i'w gynnal, neu sy'n ymwneud ag unrhyw etholiad o'r fath, ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2012, ar 15 Hydref 2011;

(b) at bob diben arall, ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2012.

(4) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2009, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn–

3. Mae newidiadau wedi'u gwneud yn ardal llywodraeth leol Sir Ynys Môn yn unol â darpariaethau canlynol y Gorchymyn hwn.

Trearddur a Chaergybi – newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

4. Mae'r rhan o gymuned Trearddur a ddangosir fel darn rhesog "A" ar Fap A–

(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Caergybi;

(b) yn rhan o ward Ffordd Llundain cymuned Caergybi; ac

(c) yn rhan o adran etholiadol Ffordd Llundain.

5. Mae'r rhan o gymuned Trearddur a ddangosir fel darn rhesog "B" ar Fap A–

(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Caergybi;

(b) yn rhan o ward Kingsland yng nghymuned Caergybi; ac

(c) yn rhan o adran etholiadol Kingsland.

6. Yng nghymuned Caergybi 2 yw nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Kingsland, 2 yw'r nifer ar gyfer ward Ffordd Llundain, 2 yw'r nifer ar gyfer ward Morawelon a 3 yw'r nifer ar gyfer ward Porthyfelin.

Cwm Cadnant a Phenmynydd – newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

7. Mae'r rhan o gymuned Cwm Cadnant a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap B –

(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Penmynydd; a

(b) yn rhan o adran etholiadol Llanfihangel Ysgeifiog.

Cwm Cadnant a Phentraeth – newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

8. Mae'r rhan o gymuned Cwm Cadnant a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap C–

(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Pentraeth; a

(b) yn rhan o adran etholiadol Pentraeth.

9. Mae wardiau cymunedol cymuned Cwm Cadnant wedi'u diddymu a 12 yw nifer y cynghorwyr cymunedol sydd i'w hethol ar gyfer cymuned Cwm Cadnant.

Llanfair Mathafarn Eithaf a Phentraeth – newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

10. Mae'r rhan o gymuned Llanfair Mathafarn Eithaf a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap D–

(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Pentraeth; a

(b) yn rhan o adran etholiadol Pentraeth.

11. Yng nghymuned Llanfair Mathafarn Eithaf 2 yw nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Llanbedr-goch.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

23 Chwefror 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

View a larger version of this image

View a larger version of this image

View a larger version of this image

View a larger version of this image

Mae'r Gorchymyn hwn wedi'i wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'n rhoi eu heffaith i gynigion y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ("y Comisiwn"), a gyflwynodd adroddiad yn Ebrill 2008 ar ei adolygiad o ffiniau cymunedol mewn rhan o Sir Ynys Môn. Yn adroddiad y Comisiwn argymhellwyd gwneud newidiadau i ffiniau cymunedau Caergybi, Trearddur, Cwm Cadnant, Penmynydd, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eu heffaith i argymhellion y Comisiwn heb eu haddasu.

Mae printiau o'r mapiau yn dangos y ffiniau wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a gweithredu'r gorchmynion hynny.

(1)

1972 p.70. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent wedi'u breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol nad yw'r diwygiadau iddynt yn berthnasol i'r offeryn statudol hwn). Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090367_we_1.html