BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009 No. 631 (Cy. 57)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090631_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009

Gwnaed

11 Mawrth 2009

Yn dod i rym

6 Ebrill 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 170(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a Chymhwyso

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y Diwrnod Penodedig

2. 6 Ebrill 2009 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dyfod i rym y darpariaethau canlynol o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 –

(a) adran 147 (diddymu atebolrwydd perthnasau am dâl cynnal);

(b) Atodlen 13 (darpariaethau trosiannol yn ymwneud ag adran 147); ac

(c) Rhan 5 o Atodlen 15 (diddymiadau a dirymiadau) ac adran 166 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Rhan honno.

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Mawrth 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau Adran 147 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14) (a darpariaethau cysylltiedig) i rym ar 6 Ebrill 2009. Mae adran 147 yn symud ymaith atebolrwydd priod neu riant i gyfrannu tuag at gost llety a ddarperir gan awdurdod lleol ar gyfer y person dan sylw o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14).

Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi cael eu gwneud o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14) o ran Cymru a Lloegr:

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 1) 2008 (O.S. 2008/2214) (P.100).

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 2) 2008 (O.S. 2008/2497) (P.106).

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 3) 2008 (O.S. 2008/2717) (P.120).

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 4) 2008 (O.S. 2008/2994) (P.129).

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 5) 2008 (O.S. 2008/3137) (P.136).

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2008 (O.S. 2008/3168) (P.143).

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 7) 2008 (O.S. 2008/3244) (P.148).

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 8) 2009 (O.S. 2009/270) (P.12).

(1)

2008 p.14. Back [1]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090631_we_1.html