BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2009 No. 1024 (Cy. 87)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091024_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2009

Gwnaed

18 Ebrill 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Ebrill 2009

Yn dod i rym

1 Mehefin 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 61(1), 62 a 69 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru(2).

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.-"(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Mehefin 2009.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995

2.-"(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995(3) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle erthygl 4D (Datganiadau mynediad: Cymru) rhodder-"

-�Design and access statements: Wales

4D.-"(1) This article applies to an application for planning permission which is not an application for planning permission for-"

(a) engineering or mining operations;

(b) development of an existing dwellinghouse, or development within the curtilage of such a dwellinghouse for any purpose incidental to the enjoyment of the dwellinghouse as such; or

(c) a material change in the use of land or buildings, provided that if the new use will necessitate access by an employee or involves the provision of services to the public or to a section of the public, with or without payment, then this article applies to the application as if-"

(i) in paragraph (3), for -�a design and access statement-� there were substituted -�an access statement-�;

(ii) in paragraph (5), for -�A design and access statement must, in relation to access,-� there were substituted -�An access statement must-�; and

(iii) paragraphs 3(a), (4) and (6) were omitted.

(2) For the purposes of paragraph (1)(c) -�the provision of services-� includes the provision of any goods or facilities.

(3) An application for planning permission to which this article applies must be accompanied by a statement (-�a design and access statement-�) explaining-"

(a) the design principles and concepts that have been applied to the development; and

(b) how issues relating to access to the development have been dealt with.

(4) A design and access statement must, in relation to design-"

(a) explain the design principles and concepts that have been applied to the following aspects of the development-"

(i) environmental sustainability;

(ii) movement to, from and within the development;

(iii) character; and

(iv) community safety; and

(b) demonstrate the steps taken to appraise the context of the development and how the design of the development takes that context into account in relation to its proposed use and each of the aspects specified in sub-paragraph (a).

(5) A design and access statement must, in relation to access, explain-"

(a) the policy or approach adopted as to access and how policies relating to access in the development plan(4) have been taken into account;

(b) how any specific issues which might affect access to the development have been addressed; and

(c) how features which ensure access to the development will be maintained.

(6) In this article-"

(3) Ym mharagraff (4)(a) o erthygl 25 (cofrestr ceisiadau), ar ôl -�accompanying-� mewnosoder -�design and access statement or-�.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

18 Ebrill 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (-�Gorchymyn 1995-�) yn pennu'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â cheisiadau cynllunio, apelau i Weinidogion Cymru a materion cysylltiedig i'r graddau nad yw'r rhain wedi'u gosod yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 1995 o ran Cymru.

Mae erthygl 2(1) yn rhoi erthygl 4D newydd yn lle'r hen un yng Ngorchymyn 1995. Mae'r erthygl 4D newydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer datganiadau dylunio a mynediad y mae'n ofynnol eu bod yn mynd gyda cheisiadau penodedig am ganiatâd cynllunio. Mae paragraff (1)(c) o'r erthygl 4D newydd yn darparu, ar gyfer categorïau cyfyngedig o geisiadau, ei bod yn ofynnol darparu datganiad sy'n ymdrin â materion mynediad yn unig.

Mae'r erthygl 4D newydd yn disodli erthygl 4D fel y'i mewnosodwyd yng Ngorchymyn 1995 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3390 (Cy.310)), a wnaeth ddarpariaeth ar gyfer datganiadau mynediad.

Mae erthygl 2(3) yn gwneud diwygiad canlyniadol i Orchymyn 1995.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol a gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1990 p.8. Amnewidiwyd adran 62 gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5), adran 42. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan yr adrannau perthnasol o Ddeddf 1990, i'r graddau yr oeddynt yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Gweler y cofnod ar gyfer Deddf 1990 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw, fel y'i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy.5) ac Atodlen 3 iddo ac fel y'i diwygiwyd gan adran 118(3) o Ddeddf 2004. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru. Back [2]

(3)

O.S. 1995/419. Gwnaethpwyd diwygiadau perthnasol gan O.S. 1997/2971, 2004/3156 (Cy.273) a 2006/3390 (Cy.310). Back [3]

(4)

Gweler adran 38(4) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) i gael ystyr -�development plan-� a'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn erthygl 3 o Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 (O.S. 2005/2847) (C.118). Back [4]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091024_we_1.html