[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2009 No. 1218 (Cy. 103) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091218_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
8 Mai 2009
Yn dod i rym
1 Mehefin 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(3) a (4) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), fel y'u cymhwysir mewn perthynas ag ysgolion annibynnol gan adran 124B(1)(2) o'r Ddeddf honno, ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(3).
Wrth wneud y Gorchymyn hwn mae Gweinidogion Cymru wedi dilyn y weithdrefn a bennwyd yn Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003(4).
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2009, a daw i rym ar 1 Mehefin 2009.
2. Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol" ("the relevant religion or religious denomination") yw'r grefydd neu'r enwad crefyddol y caiff addysg yn yr ysgol ei darparu neu'r ysgol ei rheoli yn unol â'i daliadau neu â'i ddaliadau (neu, yn ôl y digwydd, pob enwad crefyddol o'r fath).
3.–(1) Dynodir yr Ysgolion a restrir yng ngholofn (1) yn yr Atodlen yn ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.
(2) Mewn perthynas ag ysgol a restrir yng ngholofn (1) yn yr Atodlen, pennir yng ngholofn (2) y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol i'r ysgol honno.
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Mai 2009
Erthygl 3
(1) | (2) |
---|---|
Enw a Chod Post yr Ysgol | Y Grefydd Berthnasol neu'r Enwad Crefyddol Perthnasol |
Bangor | |
Ysgol Hillgrove, LL57 2TW | Cristnogaeth |
St Gerards, LL57 2EL | Cristnogaeth |
Aberhonddu | |
Coleg Crist, LD3 8AF | Cristnogaeth |
Caerffili | |
Ysgol Wycliff, CF83 8PU | Cristnogaeth |
Caerdydd | |
Coleg St John's, CF3 5YX | Catholigiaeth Rufeinig |
Ysgol y Gadeirlan, CF5 2YH | Cristnogaeth |
Aberteifi | |
Ysgol Gristnogol Aberteifi, SA43 1HU | Cristnogaeth |
Cross Keys | |
Ysgol Gristnogol Emmanuel, NP11 5AJ | Cristnogaeth |
Bae Colwyn | |
Ysgol Rydal Penrhos, LL29 7BT | Cristnogaeth |
Llandudno | |
Coleg Dewi Sant, LL30 1RD | Cydenwadaeth |
Trefynwy | |
Ysgol Agincourt, NP25 3SY | Cristnogaeth |
Ysgol Trefynwy i Fechgyn, NP25 3XP | Cristnogaeth |
Ysgol Trefynwy i Ferched, NP25 5XT | Cristnogaeth |
Porth-cawl | |
Ysgol Gwfaint St Clare's, CF36 5NR | Catholigiaeth Rufeinig |
Powys | |
Ysgol Ridgeway, SY16 4EW | Cristnogaeth |
Abertawe | |
Ymddiriedolaeth Addysg Keystone, SA5 4DH | Cristnogaeth |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ysgolion annibynnol a enwir yn ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.
O dan adran 124A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, caniateir i ysgolion annibynnol sydd wedi eu dynodi felly roi sylw i ystyriaethau crefyddol penodol pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ynghylch cyflogaeth benodedig mewn perthynas â staff sy'n addysgu.
Nid yw dynodiad gan y Gorchymyn hwn yn fodd ynddo'i hun i ennill cymeriad crefyddol neu newid cymeriad crefyddol. Yr hyn a wnaiff dynodiad yw cydnabod nodweddion presennol penodol yr ysgol neu ei chorff llywodraethu fel y'u disgrifir yn Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Cymru) 2003.
1998 p.31. Diwygiwyd adran 69(1) gan baragraff 104(1) a (2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Diwygiwyd adran 69(2) gan baragraff 104(1) a (3) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002. Back [1]
Mewnosodwyd adran 124B gan Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyflogi Athrawon mewn Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol) 2003 (O.S. 2003/2037). Back [2]
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [3]
O.S. 2003/3233. Back [4]