BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 1225 (Cy. 108)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091225_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

13 Mai 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Mai 2009

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 34 a 60 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1), a thrwy arfer y pŵer a roddir yn adran 62 o'r Ddeddf honno ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â'r personau yr ystyriant yn briodol yn unol ag adran 34(5) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2009.

(2) Yn yr erthygl hon, ystyr "y Cynllun" ("the Scheme") yw Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru), a welir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(3).

(3) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 9 Mehefin 2009 ond, yn ddarostyngedig i baragraff (4) mae'n effeithiol o 1 Ebrill 2007 ymlaen.

(4) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Atodlen, a chymaint o erthygl 2 ag sy'n ymwneud â'r darpariaethau hynny, yn effeithiol o 1 Gorffennaf 2007 ymlaen–

(a) paragraff 4(d), i'r graddau y mae'n ymwneud â'r rheol newydd 7B o Ran 3 o'r Cynllun (budd pensiwn ychwanegol: datblygiad proffesiynol parhaus), a chymaint o'r rheol newydd 7C ag sy'n ymwneud â'r rheol newydd 7B, a

(b) paragraff 9(a)(i) a (b)(i).

(5) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

2. Diwygir Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(4) yn unol â'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Brian Gibbons

Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

13 Mai 2009

Erthygl 2

ATODLEN DIWYGIO ATODLEN 1 I ORCHYMYN CYNLLUN PENSIWN Y DIFFODDWYR TÅN (CYMRU) 2007

1. Yn Rhan 1 (enwi a dehongli), yn rheol 2 (dehongli), ym mharagraff (1) yn y diffiniad o "plentyn", yn lle "aelod o'r cynllun", rhodder "aelod-ddiffoddwr tân, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr".

2. Yn Rhan 2 (aelodaeth o'r cynllun, diweddu ac ymddeol), yn rheol 1 (aelodaeth o'r cynllun)–

(a) ym mharagraff (1)–

(i) ar ddiwedd is-baragraff (b)(i), ychwaneger y gair "a"; a

(ii) hepgorer is-baragraff (b)(iii) a'r gair "a" yn union cyn yr is-baragraff hwnnw;

(b) ym mharagraff (5), yn is-baragraffau (a), (b) ac (c), ar ôl "aelod-ddiffoddwr tân" mewnosoder ", aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr";

(c) yn lle paragraff (6) rhodder–

"(6) At ddibenion paragraff (5), caiff aelod-ddiffoddwr tân, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr (y cyfeirir ato yn y paragraff hwn fel "yr aelod o'r cynllun") enwebu person ("partner enwebedig")–

(a) sydd wedi bod yn byw gyda'r aelod o'r cynllun, mewn ffordd heblaw fel priod neu bartner sifil yr aelod o'r cynllun; a

(b) ar y dyddiad y mae'r cwestiwn o statws y partner enwebedig mewn perthynas â'r aelod o'r cynllun i fod i gael ei ystyried–

(i) nad yw'n briod nac yn bartner sifil i unrhyw berson arall,

(ii) sydd wedi ei gofrestru gyda gweinyddydd y cynllun fel partner enwebedig yr aelod o'r cynllun,

(iii) sy'n dibynnu yn ariannol ar yr aelod o'r cynllun, neu sydd, gyda'r aelod o'r cynllun, yn dibynnu'n ariannol ar ei gilydd, a

(iv) sydd mewn perthynas hirdymor â'r aelod o'r cynllun,

ond y mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (8).";

(ch) ym mharagraff (7), yn y diffiniad o "berthynas hirdymor"–

(i) yn lle "am y cyfnod o ddwy flynedd", rhodder "am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf"; a

(ii) ar ôl "aelod-ddiffoddwr tân", mewnosoder ", aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr";

(d) ym mharagraff (8), ar ôl "aelod-ddiffoddwr tân", mewnosoder ", aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr";

(dd) ym mharagraff (10) yn lle "yn aelod o'r Cynllun hwn", rhodder "yn aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun hwn".

3. Yn Rhan 2 (aelodaeth o'r cynllun, diweddu ac ymddeol)–

(a) yn rheol 2 (amodau cymhwyster), ym mharagraff (1), yn lle is-baragraff (b) rhodder–

"(b) os oes y cyfryw daliad gwerth trosglwyddo wedi ei wneud i'r Cynllun mewn perthynas â hawliau pensiwn personol yr aelod o dan gynllun pensiwn personol, ag a fyddai'n gwneud yr aelod yn gymwys am fuddion o dan y Cynllun; neu"; a

(b) yn rheol 5 (dewis peidio â gwneud cyfraniadau pensiwn), ar ôl paragraff (1) mewnosoder–

"(1A) Ni cheir gwneud dewisiad cyfraniadau mewn perthynas, yn unig, â chyfraniadau sy'n berthnasol i fudd pensiwn ychwanegol o dan reol 7B o Ran 3 (budd pensiwn ychwanegol: datblygiad proffesiynol parhaus).".

4. Yn Rhan 3 (dyfarndaliadau personol)–

(a) yn rheol 2 (dyfarndal yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd)–

(i) ym mharagraff (3), ar ôl "haen uwch", mewnosoder "a gyfrifir, yn ddarostyngedig i baragraff (4),"; a

(ii) ar ôl paragraff (3), ychwaneger–

"(4) Swm y pensiwn afiechyd haen uwch i aelod-ddiffoddwr tân, sydd â hawlogaeth i ddau bensiwn yn rhinwedd rheol 7, yw pa un bynnag yw'r mwyaf o'r canlynol–

(a) swm pensiwn afiechyd haen is yr aelod-ddiffoddwr tân (a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Atodiad 1) ynghyd â'r pensiwn afiechyd haen uwch y byddai gan yr aelod-ddiffoddwr tân hawlogaeth iddo pe na bai paragraff (3) yn ddarostyngedig i'r paragraff hwn (wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff 2 neu 3 o Atodiad 1); a

(b) swm y pensiwn sengl y byddai gan yr aelod-ddiffoddwr tân hawlogaeth iddo o dan baragraff (7) o reol 7,

ac at ddibenion y paragraff hwn, rhagdybir bod yr aelod-ddiffoddwr tân wedi rhoi'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (6) o reol 7.";

(b) yn rheol 4 (dileu pensiwn gohiriedig), ym mharagraff (2), yn lle "y gyflogaeth" rhodder "cyflogaeth yr awdurdod";

(c) yn rheol 5 (pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod), ym mharagraff (5)(a), yn lle "pensiynadwy", yn yr ail fan lle mae'r gair hwnnw yn ymddangos, rhodder "cyfeirio";

(ch) yn rheol 7 (yr hawlogaeth i gael dau bensiwn) ym mharagraff (4), yn lle "y diwrnod hwnnw", rhodder "ar y diwrnod olaf o aelodaeth yr aelod o'r Cynllun";

(d) ar ôl rheol 7 mewnosoder–

"Budd pensiwn ychwanegol: gwasanaeth hir

7A.–(1) Rhaid i aelod-ddiffoddwr tân–

(a) sydd â hawlogaeth, mewn perthynas â chyfnod sy'n cynnwys 30 Mehefin 2007, i gynyddiad gwasanaeth hir neu daliad interim neu drosiannol mewn cysylltiad â gwasanaeth hir, a

(b) ar neu ar ôl 1 Hydref 2007–

(i) sy'n ymddeol o gyflogaeth fel diffoddwr tân rheolaidd, neu

(ii) sy'n dod yn un â hawlogaeth ganddo i bensiwn gohiriedig o dan reol 3,

gael ei gredydu â swm o fudd pensiwn ychwanegol.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheol 7C(5), swm y budd pensiwn ychwanegol yw hwnnw a geir drwy gymhwyso'r fformiwla–

lle mae–

  • A yn dynodi'r nifer o flynyddoedd (gan drin rhan o flwyddyn fel y ffracsiwn priodol) o wasanaeth pensiynadwy dros ben 15 ond nid dros ben 20, a oedd gan yr aelod hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2007; a

  • B yn dynodi'r nifer o flynyddoedd (gan drin rhan o flwyddyn fel y ffracsiwn priodol) o wasanaeth pensiynadwy sydd gan yr aelod dros ben 20 ond nid dros ben 30.

(3) Pan fo'r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer y mis Medi cyn y flwyddyn dreth berthnasol yn uwch nag ydoedd ar gyfer Medi 2007, rhaid cynyddu swm y budd pensiwn ychwanegol (fel y'i cyfrifir yn unol â pharagraff (2), a phan fo'n gymwys, â'r paragraff hwn) o'r un ganran â'r cynnydd canran yn y Mynegai Prisiau Manwerthu.

(4) Rhaid i unrhyw gynnydd a wneir yn unol â pharagraff (3) gael effaith o'r dydd Llun cyntaf ymlaen yn y flwyddyn dreth berthnasol.

(5) Ym mharagraff (3)–

ac ystyr "blwyddyn dreth berthnasol" ("relevant tax year") yw blwyddyn dreth–

(a) y cyfrifir swm buddion pensiwn aelod-ddiffoddwr tân mewn perthynas â hi at ddibenion y Cynllun hwn; a

(b) nad yw'r aelod-ddiffoddwr tân, mewn perthynas â hi, yn aelod-bensiynwr nac yn aelod gohiriedig.

Buddiant pensiwn ychwanegol: datblygiad proffesiynol parhaus

7B.–(1) Rhaid i unrhyw aelod-ddiffoddwr tân, sy'n cael taliadau DPP yn ystod unrhyw flwyddyn DPP, gan gychwyn ar 1 Gorffennaf 2007, gael ei gredydu â swm o fudd pensiwn ychwanegol mewn perthynas â'r flwyddyn honno.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheol 7C(3) a (5), rhaid dyfarnu swm y budd pensiwn ychwanegol mewn perthynas â blwyddyn DPP ar 1 Gorffennaf yn union ar ôl y flwyddyn dan sylw, yn unol â chanllawiau a thablau a ddarperir gan Actiwari'r Cynllun.

(3) Pan fo'r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer y mis Medi cyn y flwyddyn dreth berthnasol yn uwch nag ydoedd ar gyfer y mis Medi yn y flwyddyn DPP dan sylw, rhaid cynyddu swm y budd pensiwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn DPP honno (fel y'i cyfrifir yn unol â pharagraff (2)) o'r un ganran â'r cynnydd canran yn y Mynegai Prisiau Manwerthu.

(4) Rhaid i unrhyw gynnydd a wneir yn unol â pharagraff (3) gael effaith o'r dydd Llun cyntaf ymlaen yn y flwyddyn dreth berthnasol.

(5) Yn y rheol hon–

Buddion pensiwn ychwanegol: darpariaethau atodol

7C.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae budd pensiwn ychwanegol o dan reol 7A neu 7B yn daladwy ar yr oedran ymddeol arferol.

(2) Pan fo aelod-ddiffoddwr tân yn ymddiswyddo neu'n cael ei ddiswyddo neu'n gwneud dewisiad cyfraniadau, mae budd pensiwn ychwanegol yn daladwy ar yr oedran buddion arferol; a rhaid cymhwyso paragraffau (4) i (6) o reol 3 (pensiwn gohiriedig) mewn perthynas â'r budd hwnnw, fel pe bai'n bensiwn gohiriedig y mae gan yr aelod-ddiffoddwr tân hawlogaeth iddo o dan y rheol honno.

(3) Pan fo'r aelod-ddiffoddwr tân yn gadael cyflogaeth yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd, mae budd pensiwn ychwanegol yr aelod-ddiffoddwr tân yn daladwy ar unwaith.

(4) Pan fo'r aelod-ddiffoddwr tân yn cymryd ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod neu ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod, mae budd pensiwn ychwanegol yr aelod-ddiffoddwr tân yn daladwy yr un pryd â phensiwn yr aelod-ddiffoddwr tân o dan reol 5 (pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod), neu, yn ôl fel y digwydd, rheol 6 (pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod).

(5) Pan fo paragraff (4) yn gymwys, rhaid lleihau budd pensiwn ychwanegol yr aelod-ddiffoddwr tân yn actiwaraidd, drwy gymhwyso'r ffactor lleihau actiwaraidd priodol a bennir gan Actiwari'r Cynllun, i'r swm a ddyfernir yn unol â rheol 7A neu 7B (yn ôl fel y digwydd).

(6) At ddibenion rheolau 9 a 10 (cymudo), rhaid trin budd pensiwn ychwanegol fel pe bai'n bensiwn sy'n daladwy o dan y Rhan hon.

(7) At ddibenion dyfarnu swm unrhyw bensiwn goroeswr o dan Ran 4 neu gredyd pensiwn o dan Ran 6, rhaid trin budd pensiwn ychwanegol fel pe bai'n bensiwn taladwy o dan y Rhan hon.";

(dd) yn rheol 9 (cymudo: cyffredinol)–

(i) ar ôl paragraff (8), mewnosoder–

"(8A) Mae paragraff (8B) yn gymwys pan fo–

(a) hysbysiad cymudo wedi cael effaith mewn perthynas ag–

(i) pensiwn afiechyd person, a

(ii) y pensiwn wedi ei atal o dan reol 2(3) o Ran 9 (canlyniadau'r adolygu); neu

(b) hysbysiad cymudo wedi cael effaith mewn perthynas ag–

(i) pensiwn gohiriedig person sydd wedi ei dalu cyn yr oedran buddion arferol ("y pensiwn a dalwyd yn gynnar"), a

(ii) y pensiwn a dalwyd yn gynnar wedi ei atal o dan reol 2(5) o Ran 9.

(8B) Os daw'r person yn un sydd â hawlogaeth ganddo i bensiwn arall, ac eithrio pensiwn anaf o dan y Cynllun Iawndal, a hawl ganddo at ddibenion y pensiwn arall hwnnw i gyfrif y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy a oedd yn gyfrifadwy at ddibenion y pensiwn afiechyd neu'r pensiwn a dalwyd yn gynnar (yn ôl fel y digwydd), rhaid lleihau'r pensiwn arall hwnnw o'r swm y byddai'r pensiwn afiechyd neu'r pensiwn a dalwyd yn gynnar wedi ei leihau pe na bai wedi ei atal.

(8C) Pan fo paragraff (8B) yn gymwys, a hysbysiad cymudo wedi ei roi mewn perthynas â'r pensiwn arall, mae'r gyfran ohono y caniateir ei chymudo yn lleihau o swm y gostyngiad o dan y paragraff hwnnw."; a

(ii) ym mharagraff (9)(b), yn lle'r geiriau o "Ran 7" hyd at y diwedd, rhodder "Ran 7A o'r Cynllun Iawndal mewn dyfarndal i berson wrth gefn."(5);

(e) yn rheol 11 (dyrannu pensiwn), ym mharagraff (4), yn lle "Ran 7 o'r Cynllun Iawndal (dyfarndaliadau i filwyr, neu yn sgil eu marwolaeth)", rhodder "Ran 7A o'r Cynllun Iawndal (dyfarndaliadau i bersonau wrth gefn, neu yn sgil eu marwolaeth)".

5. Yn Rhan 5 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth)–

(a) yn rheol 1 (grant marwolaeth)–

(i) ym mharagraff (4), ar ôl "rhan-amser", mewnosoder ", wrth gefn neu wirfoddol";

(ii) ym mharagraff (8), yn lle is-baragraff (b), rhodder–

"(b) sy'n marw heb dalu yn llawn y cyfraniadau sy'n ddyledus i'r awdurdod cyflogi o dan y rheol honno,";

(iii) ym mharagraff (9), ar ôl "swm", mewnosoder "neu, os gwnaed taliad rhannol, y balans"; a

(b) yn rheol 2 (grant marwolaeth ar ôl ymddeol), ym mharagraff (1)(b)–

(i) ym mharagraff (i), ar ôl "mlynedd", mewnosoder "(heb gynnwys unrhyw gyfandaliad y gallai'r pensiynwr fod wedi ei gael yn sgil cymudiad o dan reol 9 o Ran 3)"; a

(ii) ym mharagraff (ii), yn lle "gan", rhodder "heb" a hepgorer "neu 10".

6. Yn Rhan 6 (rhannu pensiwn yn sgil ysgaru)–

(a) yn rheol 3 (cymudo rhan o fuddion credyd pensiwn), yn lle paragraff (2), rhodder–

"(2) Rhaid i'r gyfran a gymudwyd beidio â bod yn fwy nag un chwarter o swm y pensiwn.";

(b) yn rheol 5 (grant marwolaeth ar ôl ymddeol: aelodau â chredyd pensiwn), ym mharagraff (1)(b), yn lle paragraff (ii), rhodder–

"(ii) y rhandaliadau pensiwn sydd wedi eu talu,"; ac

(c) ar ôl rheol 5 ychwaneger–

"Grantiau marwolaeth pan fo farw aelod â chredyd pensiwn cyn bo buddion credyd pensiwn yn daladwy

6.–(1) Os bydd farw aelod â chredyd pensiwn cyn bo unrhyw fuddion sy'n deillio o bensiwn yr aelod wedi dod yn daladwy i'r aelod o dan y Cynllun hwn, rhaid talu grant marwolaeth mewn cyfandaliad i gynrychiolwyr personol yr aelod.

(2) Rhaid i swm y grant fod yn hafal i luoswm 2.25 a chyfradd flynyddol y pensiwn y byddai'r aelod wedi bod â hawlogaeth i'w gael o dan reol 1(2) o'r Rhan hon.".

7. Yn Rhan 7 (personau wrth gefn)–

(a) yn rheol 2 (parhad cyflogaeth)–

(i) ym mharagraff (2), yn lle "pensiynadwy", rhodder "ychwanegol";

(ii) yn lle paragraff (3) rhodder–

"(3) At ddibenion cyfrifo swm cyfraniadau pensiwn person wrth gefn o dan reol 3 o Bennod 1 o Ran 11–

(a) os oedd y person wrth gefn yn ddiffoddwr tân rheolaidd yn union cyn y cyfnod dan sylw yn y lluoedd, rhaid ystyried y tâl y byddai'r person wrth gefn wedi'i gael oddi wrth ei gyn awdurdod yn ystod ei gyfnod yn y lluoedd yn dâl y person wrth gefn am y cyfnod hwnnw ("tâl rheolaidd tybiannol" y person wrth gefn); a

(b) os oedd y person wrth gefn yn ddiffoddwr tân wrth gefn neu'n ddiffoddwr tân gwirfoddol yn union cyn y cyfnod dan sylw yn y lluoedd, rhaid ystyried mai'r swm a geir drwy luosi tâl pensiynadwy cyfartalog y person wrth gefn am y cyfnod o 12 mis yn union cyn cyfnod y person wrth gefn yn y lluoedd (a fynegir fel cyfradd ddyddiol) â nifer y diwrnodau yng nghyfnod y person wrth gefn yn y lluoedd yw tâl y person wrth gefn am y cyfnod hwnnw ("tâl wrth gefn neu wirfoddol tybiannol" y person wrth gefn),

ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (4).

(4) Mewn perthynas ag unrhyw gyfnod yn ystod cyfnod y person wrth gefn yn y lluoedd pan fo cyfanred–

(a) tâl gwirioneddol y person wrth gefn, a

(b) unrhyw daliadau y mae'r person wrth gefn yn eu cael o dan adran 4 o Ddeddf 1996,

yn llai na thâl rheolaidd tybiannol y person wrth gefn neu, yn ôl fel y digwydd, tâl wrth gefn neu wirfoddol tybiannol y person wrth gefn, am y cyfnod hwnnw a grybwyllwyd gyntaf, rhaid ymdrin â'r person wrth gefn fel un nad oes ganddo unrhyw dâl pensiynadwy (nac unrhyw atebolrwydd, felly, i wneud cyfraniadau pensiwn)(6)."; a

(b) yn rheol 3 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth neu anabledd parhaol), yn lle paragraff (2) rhodder–

"(2) Pan fo farw person wrth gefn–

(a) yn ystod cyfnod y person wrth gefn yn y lluoedd; neu

(b) tra bo'n cael pensiwn o dan baragraff (1),

mae dyfarndal yn daladwy yn unol â pharagraffau (3) a (4).".

8. Yn Rhan 10 (gwasanaeth cymhwysol a gwasanaeth pensiynadwy)–

(a) yn rheol 1 (gwasanaeth cymhwysol), ym mharagraff (b)(iv) yn lle "reol 4(2)", rhodder "reol 4";

(b) yn rheol 2 (cyfrif gwasanaeth pensiynadwy)–

(i) ym mharagraff (1)(ch), ar ôl "afiechyd", rhodder "haen is" a hepgorer ", ac eithrio unrhyw gyfnod sydd wedi'i gynnwys fel gwelliant,"; a

(ii) ym mharagraff (6)(b), ar ôl "dan", mewnosoder "rheol 1 o"; ac

(c) yn rheol 4 (cyfrif cyfnod o absenoldeb di-dâl)–

(i) ym mharagraff (1), yn lle "Rhan 11", rhodder "Rhannau 11 a 13"; a

(ii) ym mharagraff (2), yn lle "seibiant", rhodder "absenoldeb".

9. Yn Rhan 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol)–

(a) yn rheol 1 (tâl pensiynadwy)–

(i) ym mharagraff (1), yn lle'r geiriau o "ac eithrio" hyd at ddiwedd is-baragraff (a), rhodder "ac eithrio unrhyw lwfans neu enillion a delir dros dro i'r aelod-ddiffoddwr tân, heblaw taliadau mewn cysylltiad â datblygiad proffesiynol parhaus yr aelod-ddiffoddwr tân (gweler rheol 7B o Ran 3), a"; a

(ii) ym mharagraff (5), yn lle "Rhagfyr" (yn y ddau le), rhodder "Medi";

(b) yn rheol 2 (tâl pensiynadwy terfynol)–

(i) ar ôl paragraff (1), mewnosoder–

"(1A) Pan fo'r tâl pensiynadwy a gafwyd gan aelod-ddiffoddwr tân mewn perthynas â'r 365 o ddiwrnodau tâl pensiynadwy y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cynnwys swm mewn cysylltiad â datblygiad proffesiynol parhaus yr aelod-ddiffoddwr tân (gweler rheol 7B o Ran 3), rhaid anwybyddu'r swm hwnnw at y diben o ddyfarnu tâl pensiynadwy terfynol yr aelod-ddiffoddwr tân.";

(ii) ym mharagraff (2)(a)(i), hepgorer y geiriau ar ôl "gyfradd uwch";

(iii) ar ôl paragraff (5) mewnosoder–

"(5A) Rhaid i dâl pensiynadwy terfynol aelod-ddiffoddwr tân sydd–

(a) â hawlogaeth i gael cynyddiad gwasanaeth hir; a

(b) yn ymddeol ar ôl 30 Medi 2006 a chyn 1 Hydref 2007, neu'n dod yn un â hawlogaeth ganddo i bensiwn gohiriedig o dan reol 3 o Ran 3 o fewn y cyfnod hwnnw,

gael ei gyfrifo–

(i) fel pe bai cynyddiad gwasanaeth hir yr aelod-ddiffoddwr tân wedi cronni yn ôl y gyfradd o £990 y flwyddyn (gan anwybyddu'r gostyngiad a fu'n effeithiol mewn perthynas ag adegau ar ac ar ôl 1 Hydref 2006), a

(ii) gan anwybyddu unrhyw daliad perthynol i GH.

(5B) Rhaid i dâl pensiynadwy terfynol aelod-ddiffoddwr tân sydd–

(a) yn ymddeol neu'n dod yn un â hawlogaeth ganddo i bensiwn gohiriedig ar neu ar ôl 1 Hydref 2007, a

(b) â hawlogaeth ganddo i fudd pensiwn ychwanegol o dan reol 7A o Ran 3 (budd pensiwn ychwanegol: gwasanaeth hir),

gael ei gyfrifo gan gymryd i ystyriaeth pa un bynnag o'r paragraffau canlynol sy'n rhoi'r swm mwyaf–

(i) gwneud y cyfrifiad gan ystyried y swm a gredydir i'r aelod-ddiffoddwr tân o dan reol 7A o Ran 3 ond heb ystyried cynyddiad gwasanaeth hirdymor yr aelod-ddiffoddwr tân nac unrhyw daliad perthynol i GH, neu

(ii) gwneud y cyfrifiad gan ystyried cynyddiad gwasanaeth hirdymor yr aelod-ddiffoddwr tân ac unrhyw daliad perthynol i GH ond heb ystyried y swm a gredydir i'r aelod-ddiffoddwr tân o dan reol 7A o Ran 3.

(5C) Ym mharagraffau (5A) a (5B) ystyr "taliad perthynol i GH"("LS-related payment") yw taliad interim neu drosiannol sy'n gysylltiedig â gwasanaeth hir yr aelod-ddiffoddwr tân.";

(c) yn lle paragraff (6), rhodder–

"(6) Rhaid dyfarnu tâl pensiynadwy terfynol diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol drwy gyfeirio at dâl pensiynadwy terfynol diffoddwr tân rheolaidd a gyflogir mewn rôl gyffelyb ac sydd â gwasanaeth cymhwysol cyffelyb.".

10. Yn Rhan 12 (trosglwyddiadau i mewn ac allan o'r Cynllun)–

(a) yn rheol 4 (ceisiadau am daliadau gwerth trosglwyddo), ym mharagraff (6)(a), yn lle "gymwys i fod yn aelod-ddiffoddwr tân y", rhodder "aelod, neu y caiff yr hawl i fod yn aelod, o'r";

(b) yn rheol 9 (y weithdrefn ar gyfer ceisiadau o dan reol 8), ym mharagraff (2)(a), hepgorer ", neu unrhyw gyfnod hwy y bydd yr awdurdod yn ei ganiatáu";

(c) yn rheol 10 (derbyn taliadau gwerth trosglwyddo), ym mharagraff (3), hepgorer is-baragraff (a);

(ch) yn rheol 12 (trosglwyddo hanes pensiwn o un awdurdod Cymreig i un arall)–

(i) ym mharagraff (1)–

(aa) ar ddiwedd is-baragraff (a), mewnosoder "a"; a

(bb) hepgorer is-baragraff (c) a'r gair ", ac" yn union o flaen yr is-baragraff hwnnw; a

(ii) ar ôl "gwasanaeth pensiynadwy", mewnosoder "a'r gwasanaeth cymhwysol".

11. Yn Rhan 13 (Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân)–

(a) yn rheol 2 (taliadau a throsglwyddiadau i mewn i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân), yn lle paragraff (5) rhodder–

"(5) Mewn perthynas â phob diffoddwr tân a gyflogir gan yr awdurdod, sydd yn ymddeol â hawlogaeth i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen is o dan reol 2 o Ran 3, rhaid i'r awdurdod drosglwyddo i mewn i'r CBDT y cyfryw swm ag y bydd Gweinidogion Cymru yn dyfarnu yw'r ffi afiechyd haen is cymwys mewn perthynas â'r pensiwn hwnnw ac yn hysbysu'r awdurdod ohono."; a

(b) yn rheol 3 (trosglwyddiadau o Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân), yn lle paragraffau (4) a (5), rhodder–

"(4) Pan fo pensiwn afiechyd haen uwch, neu bensiwn afiechyd haen is person yn cael ei atal yn gyfan gwbl ac yn barhaol o dan unrhyw ddarpariaeth o Ran 9, rhaid anwybyddu paragraff (4) neu (5) o reol 2 o'r Rhan hon (yn ôl y digwydd) yn achos y person hwnnw (i'r graddau nad ydys eisoes wedi cydymffurfio â'r paragraff hwnnw); a rhaid i'r awdurdod drosglwyddo o'r CBDT i unrhyw gronfa arall a gynhelir ganddo swm sy'n hafal i gyfanred y rhandaliadau a drosglwyddwyd i'r CBDT mewn perthynas â'r pensiwn a ataliwyd".

12. Yn Rhan 14 (talu dyfarndaliadau), yn rheol 1 (yr awdurdodau sy'n gyfrifol am dalu dyfarndaliadau), ym mharagraff (1), hepgorer "rheolaidd".

13. Yn Atodiad 1 (pensiynau afiechyd), ym mharagraff 1, yn is-baragraff (2)–

(a) ar ôl "person", mewnosoder "sy'n ddiffoddwr tân wrth gefn neu'n ddiffoddwr tân gwirfoddol"; a

(b) ar ôl "cyfeirio", mewnosoder "terfynol".

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007. Mae rhai o'r diwygiadau yn cywiro gwallau yng Nghynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) ("y Cynllun") a welir yn yr Atodlen honno. Mae eraill yn cyflwyno darpariaethau newydd.

Ac eithrio fel a grybwyllir isod, mae'r Gorchymyn yn effeithiol o 1 Ebrill 2007, sef y dyddiad y daw'r Cynllun yn effeithiol. Rhoddir pŵer i roi effaith ôl-weithredol i'r Gorchymyn gan adran 34 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Mae'r diwygiadau a bennir ym mharagraffau 8(a) ac 8(c)(i) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cywiro croesgyfeiriadau.

Mae diwygiadau eraill, ac eithrio'r rhai a wneir gan baragraffau 3(b), 4(d) a 9(a)(i) a (b)(i) a (iii) o'r Atodlen, yn cywiro gwallau, gan gynnwys gwallau drwy anwaith. Mae rhai o'r diwygiadau cywiro hynny wedi achosi mewnosod rheolau neu baragraffau newydd. Yn benodol–

Mae'r diwygiadau a wneir gan baragraffau 3(b), 4(d) a 9(a)(i) a (b)(i) a (iii) o'r Atodlen yn adlewyrchu newidiadau polisi er pan gyflwynwyd y Cynllun. Mae'r rhai a wneir gan baragraffau 3(b), 4(d), yn rhannol, a 9(b)(iii) yn effeithiol o 1 Ebrill 2007. Mae'r lleill yn effeithiol o 1 Gorffennaf 2007.

Mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 4(d) o'r Atodlen, i'r graddau y mae'n mewnosod rheol 7A newydd, a chymaint o'r rheol 7C newydd ag sy'n ymwneud â'r rheol 7A, yn Rhan 3 o'r Cynllun, yn ymwneud â therfynu, o ddiwedd Mehefin 2007 ymlaen, y cynyddiadau am wasanaeth hir a oedd yn daladwy i ddiffoddwyr tân gydag o leiaf 15 mlynedd o wasanaeth di-dor ar yr adeg honno. Roedd swm y cynyddiad, a oedd yn bensiynadwy, wedi ei rewi o 7 Tachwedd 2003 ymlaen ar gyfradd flynyddol o £990, ac yna wedi ei ostwng, o 1 Hydref 2006 ymlaen, i gyfradd flynyddol o £495 (gyda rhai taliadau interim a throsiannol). Effaith y diwygiad yw y bydd gan aelod-ddiffoddwr tân, a oedd â hawl i gynyddiad gwasanaeth hir (neu daliad digolledu interim neu drosiannol) mewn perthynas â chyfnod sy'n cynnwys 30 Mehefin 2007 ac sydd naill ai'n ymddeol neu'n dod yn un sydd â hawlogaeth ganddo i bensiwn gohiriedig ar neu ar ôl 1 Hydref 2007, yr hawl i gredyd pensiwn ychwanegol am wasanaeth hir, a gyfrifir heb ystyried y gostyngiad yn y gyfradd flynyddol.

Effaith y diwygiad cysylltiedig a wneir gan baragraff 9(b)(iii) o'r Atodlen, sy'n mewnosod rheol 2(5A) newydd yn Rhan 11 o'r Cynllun, yw y cyfrifir pensiwn aelod-ddiffoddwr tân, sydd â hawl i fuddiant pensiwn ychwanegol o dan y rheol 7A newydd o Ran 3, naill ai gan ystyried y budd pensiwn ychwanegol a gredydwyd i'r aelod-ddiffoddwr tân a heb ystyried cynyddiad gwasanaeth hir gwirioneddol yr aelod-ddiffoddwr tân (ac unrhyw daliad digolledu interim neu drosiannol), neu gan ystyried cynyddiad gwasanaeth hir gwirioneddol yr aelod-ddiffoddwr tân (ac unrhyw daliad digolledu interim neu drosiannol) a heb ystyried y swm a gredydir i'r aelod-ddiffoddwr tân o dan y rheol 7A newydd o Ran 3, yn ôl pa reol bynnag sy'n rhoi'r canlyniad mwyaf buddiol i'r diffoddwr tân.

Mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 4(d) o'r Atodlen, i'r graddau y mae'n mewnosod rheol 7B newydd, a chymaint o'r rheol 7C newydd ag sy'n ymwneud â'r rheol 7B, yn Rhan 3 o'r Cynllun, yn ganlyniad cynllun newydd o wneud taliadau mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus a gyflwynwyd gan y Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub Awdurdodau Lleol ac a fu'n effeithiol o 1 Gorffennaf 2007. O dan y cynllun hwnnw, mae'r taliadau yn ddarostyngedig i adolygiadau blynyddol ac felly yn daliadau dros dro o ran eu natur. Am y rheswm hwnnw ni fyddent, fel arfer, yn cael eu hystyried yn bensiynadwy at ddibenion y Cynllun. Fodd bynnag, effaith y diwygiad a wneir gan baragraff 9(a)(i) yw gwneud y taliadau hyn yn rhan o'r tâl pensiynadwy. Mae hyn yn cysylltu â darpariaethau eraill, gan gynnwys darpariaethau rheol 3 o Ran 11 o'r Cynllun, sy'n gwneud talu cyfraniadau pensiwn yn ofynnol mewn perthynas â thâl pensiynadwy. Mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 9(b)(i), fodd bynnag, yn darparu y ceir anwybyddu taliadau a wneir mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus at y diben o ddyfarnu swm y tâl pensiynadwy terfynol (y seilir swm y pensiwn cyffredin arno).

Mae'r diwygiad i reol 2(5) yn Rhan 2 o'r Cynllun, a wneir gan baragraff 3(b) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yn sicrhau na all person wneud dewisiad i atal talu cyfraniadau pensiwn mewn perthynas, yn unig, â'r budd pensiwn ychwanegol o dan y rheol 7B.

Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol a baratowyd mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn oddi wrth y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 01685 729227.

(1)

2004 p.21. Back [1]

(2)

Breiniwyd pwerau o dan adrannau 34 a 60 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, mewn perthynas â Chymru, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno. Back [2]

(3)

O.S. 2007/1072 (Cy.110). Back [3]

(4)

O.S. 2007/1072 (Cy.110). Back [4]

(5)

Mewnosodwyd Rhan 7A gan O.S. 2007/1073 (Cy.111). Back [5]

(6)

Gweler, o ran taliadau pensiwn, reoliad 5 o Reoliadau Lluoedd wrth Gefn (Galw ac Adalw) (Cymorth Ariannol) 2005 (O.S. 2005/859). Back [6]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091225_we_1.html