BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2009 No. 1351 (Cy. 127)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091351_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2009

Gwnaed

2 Mehefin 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Mehefin 2009

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2), mae Gweinidogion Cymru, gan eu bod o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, o roi sylw i'w amcanion cyffredinol, gyflawni'n briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir iddo drwy hyn ac, yn unol ag adran 7(2), ar ôl cynnal unrhyw ymgynghoriad y mae'n ymddangos iddynt ei fod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2009.

(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Gorffennaf 2009 ac eithrio erthygl 2(2)(a) a (3)(b) a ddaw i rym ar 12 Hydref 2009 ac erthygl 2(2)(b) a (3)(a) a ddaw i rym ar 26 Gorffennaf 2010.

Diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000

2.–(1) Mae Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000(3) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Rhan 1 o'r Atodlen,

(a) ym mharagraff 2 yn lle "adran 3(3)(a) i (c)" rhodder "adran 3(3)(aa), (b)";

(b) ar ôl paragraff 3 mewnosoder y canlynol –

"3A. Athrawon cymwysedig y mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi'r gorau i'w monitro yn y modd a grybwyllir yn adran 24 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(4) yn unol ag adran 26 o'r Ddeddf honno.".

(3) Yn Rhan 2 o'r Atodlen,

(a) ar ôl paragraff 19 mewnosoder y canlynol –

"19A. A yw'r person yn ddarostyngedig i fonitro'n unol ag adran 24 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, ac os na, a yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi'r gorau i fonitro'n unol ag adran 26 o'r Ddeddf honno.";

(b) ar ôl paragraff 22 mewnosoder y canlynol –

"22A. Os yw'r person wedi'i wahardd o weithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006), datganiad i'r perwyl hwnnw.

(c) ar ôl paragraff 23B mewnosoder y canlynol –

"23C. Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person o ganlyniad i gamau disgyblu a gymerwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.

23D. Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person o ganlyniad i gamau disgyblu a gymerwyd gan An Chomhairle Mhúinteoireacht neu'r Cyngor Addysgu a sefydlwyd o dan adran 5 o Ddeddf y Cyngor Addysgu, 2001(5) (corff y mae ganddo swyddogaethau sy'n cyfateb i rai'r Cyngor mewn perthynas â Gweriniaeth Iwerddon).".

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

2 Mehefin 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000. Mae'r Gorchymyn hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor") gynnal cofnodion sy'n ymwneud â chategorïau penodedig o bersonau.

Mae'r diwygiadau fel a ganlyn–

(1)

1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys o ran Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911). Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 2000/1941 (Cy.139), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2497 (Cy.201), O.S. 2005/68 (Cy.6) ac O.S. 2006/1341 (Cy.132). Back [3]

(4)

2006 p.47. Back [4]

(5)

Rhif 8, 2001. Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091351_we_1.html