BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2009 No. 1558 (Cy. 153) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091558_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
24 Mehefin 2009
Yn dod i rym
1 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 18 a 203 (9) a (10) o baragraff 29 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) ar ôl cwblhau ymgynghoriad statudol fel y'i rhagnodir o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2) yn gwneud Gorchymyn hwn.
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn;
ystyr "Bwrdd newydd perthnasol" ("relevant new Board") yw mewn perthynas â hen ymddiriedolaeth a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen, y Bwrdd newydd a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;
ystyr "Byrddau newydd" ("new Boards") yw'r Byrddau Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen;
ystyr "dyddiad trosglwyddo" ("transfer date") yw 1 Hydref 2009; ac
ystyr "hen ymddiriedolaethau" ("old trusts") yw Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen.
2.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r Bwrdd newydd perthnasol ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw yn effeithiol fel petai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogwyd felly a'r Bwrdd newydd perthnasol.
(2) Heb leihau effaith paragraff (1) uchod –
(a) trosglwyddir pob hawl, pŵer, dyletswydd a rhwymedigaeth o dan neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddo, yn rhinwedd yr erthygl hon, i'r Bwrdd newydd perthnasol ar y dyddiad trosglwyddo;
(b) bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan, neu mewn perthynas â'r hen ymddiriedolaeth o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r Bwrdd newydd perthnasol.
(3) Nid yw paragraffau (1) na (2) yn lleihau effaith hawl unrhyw gyflogai i ddod â'i gontract cyflogaeth i ben os gwneir newid sylweddol er gwaeth i'w amodau gwaith, ond ni fydd y cyfryw hawl yn codi yn unig ar sail y newid o ran cyflogwr y mae'r erthygl hon yn ei beri.
3. Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir pob eiddo, ac i'r graddau na chyfeirir atynt yn erthygl 2, bob hawl a rhwymedigaeth sydd gan yr hen ymddiriedolaethau i'r Byrddau newydd perthnasol, gan gynnwys heb gyfyngiad y ddyletswydd i lunio cyfrifon gweddilliol yr hen ymddiriedolaethau ac i gyflawni pob dyletswydd statudol sy'n perthyn i'r cyfrifon hynny.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2009
Erthygl 1(2)
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Hen Ymddiriedolaeth | Bwrdd Newydd(3) |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf(4) | Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda(5) | Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg(6) | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru(7) | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-orllewin Cymru(8) | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Gwent(9) | Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro(10) | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo ar 1 Hydref 2009 staff, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau o Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a ddiddymwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diddymu) (Cymru) (O.S. 2009/1306 (Cy.117)) i'r Byrddau Iechyd Lleol newydd a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/778 (Cy. 66)).
2006. p.42. Back [1]
Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996 (O.S. 1996/653 sy'n parhau i gael ei effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006. Back [2]
Sefydlwyd yn rhinwedd Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/ 778 (Cy. 66 )). Back [3]
O.S. 2008/717 (Cy. 76). Back [4]
O.S. 2008/712 (Cy. 73). Back [5]
O.S. 2008/716 (Cy. 75). Back [6]
O.S. 2008/1648 (Cy. 160). Back [7]
O.S. 1998/3314. Back [8]
O.S. 1998/3321. Back [9]
O.S. 1999/3451. Back [10]