BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Cod Derbyniadau Ysgol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2009 No. 1844 (Cy. 168) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091844_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
6 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 85(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(1) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Derbyniadau Ysgol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Y diwrnod a bennir fel y diwrnod y daw'r Cod Derbyniadau Ysgol (y gosodwyd copi o ddrafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 18 Mai 2009) i rym yw 15 Gorffennaf 2009.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
6 Gorffennaf 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 15 Gorffennaf 2009 fel y diwrnod y daw'r Cod Derbyniadau Ysgol ("y Cod") a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 84 a 85 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("DSFfY 1998") i rym. Mae'r Cod yn gymwys o ran Cymru. Mae'r Cod yn disodli Cod Ymarfer y Swyddfa Gymreig ar Dderbyniadau Ysgol a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1999.
Mae'r Cod yn gosod gofynion ac yn cynnwys canllawiau sy'n pennu nodau, amcanion neu faterion eraill ynglŷn â'r trefniadau ar gyfer derbyn i ysgolion. O dan adran 84(3) o DSFfY 1998, dyletswydd awdurdodau addysg lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, fforymau derbyn a phaneli apêl, wrth arfer swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 3 o DSFfY 1998, yw gweithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol o'r Cod. Yn ychwanegol, rhaid i unrhyw berson arall, wrth arfer unrhyw swyddogaeth at y diben o gyflawni, gan awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, swyddogaethau o dan y Bennod honno, weithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol o'r Cod.
Mae'r fersiwn ddiwygiedig o'r Cod yn adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith a wnaed gan adrannau 150, 152 a 153 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 ("DAS 2008"):
Mae adran 150 o DAS 2008 yn mewnosod adran 86A yn DSFfY 1998. Mae hon yn gosod dyletswydd newydd ar awdurdodau addysg lleol i wneud trefniadau i blant fynegi dewis ynglŷn â pha ysgol y dymunant gael addysg chweched dosbarth ynddi, neu i blant sydd dros yr oedran ysgol gorfodol fynegi dewis ynglŷn â pha ysgol y dymunant gael addysg ac eithrio addysg chweched dosbarth ynddi.
Mae'r Cod hefyd yn adlewyrchu newidiadau a wnaed yn y categorïau o ddisgyblion y ceir eu cyfrif yn ddisgyblion a eithrir er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd o dan adran 1 o DSFfY 1998. Cyflwynwyd y categorïau newydd a diwygiedig gan Reoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) (Diwygio) 2009 O.S. 2009/828 (Cy.75).
Mae'r Cod hefyd yn amlygu ac yn gosod dyletswyddau newydd ar awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethu mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol o ganlyniad i Reoliadau Addysg (Derbyn Plant sy'n Derbyn Gofal) (Cymru) 2009 O.S. 2009/821 (Cy.72).
1998 p.31. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]