BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009 No. 1921 (Cy. 175) (C. 91) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091921_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
16 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 40 a 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym yw 1 Medi 2009–
(a) adran 36 (hawl perthynas i wneud cais am orchymyn preswylio);
(b) adran 37 (hyd gorchmynion preswylio);
(c) adran 38 (hawl perthynas i wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig); ac
(ch) adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 12(5) a (6) o Deddf Plant 1989(2) ac â diddymu'n rhannol adran 91(10) o'r Ddeddf honno.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Medi 2009 adrannau 36, 37, 38 a 42 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008, ac Atodlen 4 iddi, i'r graddau a bennir yn y Gorchymyn. Mae'r cyfeiriad, yn Erthygl 2(ch) o'r Gorchymyn, at ddiddymu'n rhannol adran 91(10) o Ddeddf Plant 1989, yn gyfeiriad at hepgor y geiriau "or 12(5)" o'r adran honno.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 30 | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy.64) (C.47) |
Adran 31 | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 (C.11) |
Adran 32 | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 (C.11) |
Adran 35 | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy.64) (C.47) |
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 45(9) o Ddeddf Plant 1989 | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy.64) (C.47) |