BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009 No. 2539 (Cy. 203) (C. 105)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092539_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009

Gwnaed

15 Medi 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 245(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cychwyn

2. Mae darpariaethau canlynol Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, yn dod i rym ar 1 Hydref 2009–

(a) adran 126 (cyfeirio materion trosedd ac anhrefn at bwyllgorau trosedd ac anhrefn, etc.);

(b) y cofnod yn Rhan 6 o Atodlen 18 (diddymiadau) sy'n ymwneud â Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p.48); ac

(c) adran 241(diddymiadau) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cofnod a bennir yn (b) uchod.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 126 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p.28) ("Deddf 2007") ar 1 Hydref 2009 o ran Cymru.

Mae adran 126 yn gwneud diwygiadau i adran 19 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 ("Deddf 2006"), gan gynnwys yn benodol roi is-adrannau 19(3) i (8B) newydd yn lle'r hen rai. Mae'r darpariaethau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol sicrhau bod gan ei bwyllgor trosedd ac anhrefn (fel y cafodd ei greu o dan adran 19 o Ddeddf 2006) y pŵer i lunio adroddiad neu wneud argymhellion ynghylch materion perthnasol i'r awdurdod lleol, ac iddo sicrhau bod gan unrhyw aelod o'r awdurdod lleol nad yw'n aelod o'r pwyllgor y pŵer i gyfeirio materion perthnasol at y pwyllgor. Mae'r darpariaethau newydd hefyd yn nodi gweithdrefnau penodol y mae'n rhaid eu dilyn pan yw person yn cyfeirio mater perthnasol at yr awdurdod lleol.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn cychwyn diddymiad cysylltiedig.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaeth Dyddiad cychwyn Rhif O.S.
Rhan 1 01.11.2007 2007/3136
Adran 75 13.02.2008 2008/337
Adran 76 (yn rhannol) 01.04.2008 2008/917
77 (yn rhannol) 01.04.2008 2008/917
(y gweddill) 31.12.2008 2008/3110
Adran 78 31.12.2008 2008/3110
Adrannau 79 i 102 13.02.2008 2008/337
Adran 116 01.04.2008 2008/461
Adran 119 (yn rhannol) 12.12.2008 2008/3110
(y gweddill) 01.04.2009 2008/3110
Adran 120 01.04.2009 2008/3110
Adran 121 01.04.2009 2008/3110
Adran 122 01.04.2009 2008/3110
Adran 123 01.04.2009 2008/3110
Adran 124 01.04.2009 2008/3110
Adran 125 12.12.2008 2008/3110
Adran 127 01.04.2009 2008/3110
Adran 128 01.04.2009 2008/3110
Adran 136 01.04.2008 2008/917
Adran 137 (yn rhannol) 01.04.2008 2008/917
(y gweddill) 01.04.2008 2008/591 (Cy.60)
Adran 138 01.04.2009 2008/917
Adran 139 01.04.2008 2008/917
Adran 140 (yn rhannol) 01.04.2008 2008/917
(y gweddill) 01.04.2008 2008/591 (Cy.60)
Adran 144 01.04.2008 2008/917
Adran 145 01.08.2009 2008/3110
Adrannau 146 a 147 01.04.2008 2008/172
Adran 148 31.03.2008 2008/172
Adran 149 31.01.2008 2008/172
Adran 150 01.04.2008 2008/172
Adran 151 31.01.2008 2008/172
Adran 152 01.04.2008 2008/172
Adrannau 153 i 155 31.01.2008 2008/172
Adrannau 156 a 157 01.04.2008 2008/172
Adran 158 01.08.2009 2008/3110
Adrannau 159 i 163 01.04.2008 2008/172
Adran 164 31.01.2008 2008/172
Adran 165 01.04.2008 2008/172
Adrannau 166 a 167 31.01.2008 2008/172
Adrannau 168 i 179 01.04.2008 2008/917
Adran 180 01.04.2009 2008/917
Adrannau 181 a 182 01.04.2008 2008/917
Adran 183 (yn rhannol) 31.01.2008 2008/172
Adran 184 31.01.2008 2008/172
Adran 185 (yn rhannol) 31.01.2008 2008/172
(y gweddill) 08.05.2008 2008/1265
Adran 186 08.05.2008 2008/1265
Adran 187 01.04.2008 2008/172
Adrannau 188 i 190 31.01.2008 2008/172
Adran 191 (yn rhannol) 31.01.2008 2008/172
(y gweddill) 01.04.2008 2008/172
Adran 192 (yn rhannol) 31.01.2008 2008/172
(y gweddill) 12.12.2008 2008/3110
Adrannau 193 i 195 31.01.2008 2008/172
Adran 196 01.04.2008 2008/172
Adran 197 12.12.2008 2008/3110
Adran 198 (yn rhannol) 31.01.2008 2008/172
(y gweddill) 12.12.2008 2008/3110
Adran 199 12.12.2008 2008/3110
Adrannau 200 a 201 01.04.2008 2008/172
Adran 202 (yn rhannol) 31.01.2008 2008/172
(y gweddill) 01.04.2008 2008/172
Adran 203 01.04.2008 2008/172
Adran 204 31.01.2008 2008/172
Adrannau 205 i 209 01.04.2008 2008/917
Adran 210 01.04.2008 2008/591 (Cy.60)
Adran 211 01.04.2008 2008/917
Adran 219 (yn rhannol) 01.04.2008 01.04.2008 2008/917 2008/3110
12.12.2008 2008/3110
(y gweddill) 01.10.2009 2008/3110
Adran 220 (yn rhannol) 01.04.2008 2008/917
(y gweddill) 01.10.2009 2008/3110
Adrannau 221 a 222 01.04.2008 2008/461
Adrannau 223 a 224 21.02.2008 2008/461
Adran 225 31.01.2008 2008/172
Adran 226 (yn rhannol) 21.02.2008 2008/461
(y gweddill) 01.04.2008 2008/461
Adran 227 (yn rhannol) 10.03.2008 2008/461
(y gweddill) 01.04.2008 2008/461
Adran 228 (yn rhannol) 21.02.2008 2008/461
(y gweddill) 01.04.2008 2008/461
Adran 229 31.01.2008 2008/172
Adrannau 230 a 231 01.04.2008 2008/461
Adran 232 (yn rhannol) 01.04.2008 2008/461
(y gweddill) 30.06.2008 2008/461
Adran 233 (yn rhannol) 26.09.2008 2008/2434
(y gweddill) 03.11.2008 2008/2434
Adran 234 03.11.2008 2008/2434
Adran 236 (yn rhannol) 12.12.2008 2008/3110
(y gweddill) 01.04.2009 2008/3110
Adran 237 12.12.2008 2008/3110
Adran 238 31.01.2008 2008/172
Adran 239 01.04.2008 2008/917
Adran 241 (yn rhannol) 01.11.2007 2007/3136
31.01.2008 2008/172
13.02.2008 2008/337
01.04.2008 2008/172
01.04.2008 2008/461
01.04.2008 2008/591 (Cy.60)
01.04.2008 2008/917
30.06.2008 2008/461
Adran 243 21.02.2008 2008/461
Atodlen 1 01.11.2007 2007/3136
Atodlen 5 (yn rhannol) 13.02.2008 2008/337
(y gweddill) 31.12.2008 2008/3110
Atodlenni 7 ac 8 01.04.2008 2008/917
Atodlen 9 01.04.2008 2008/172
Atodlen 10 31.03.2008 2008/172
Atodlen 11 31.01.2008 2008/172
Atodlenni 12 ac 13 01.04.2008 2008/917
Atodlen 15 (yn rhannol) 01.04.2008 2008/917
12.12.2008 2008/3110
01.10.2009 2008/3110
Atodlen 16 (yn rhannol) 01.04.2008 2008/917
01.10.2009 2008/3110
Atodlen 18 (yn rhannol) 01.11.2007 2007/3136
13.02.2008 2008/337
31.01.2008 2008/172
01.04.2008 2008/172
01.04.2008 2008/461
01.04.2008 2008/917
30.06.2008 2008/461
01.06.2008 2008/591 (Cy.60)
(1)

2007 p.28. Back [1]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092539_we_1.html