BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2009 No. 2545 (Cy. 207) (C. 107)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092545_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2009

Gwnaed

17 Medi 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2009.

2. Yn y Gorchymyn hwn ystyr "Deddf 2006" ("the 2006 Act") yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

Y diwrnodau penodedig

3.–(1) Daw darpariaethau canlynol Deddf 2006 i rym ar 12 Hydref 2009:

(a) adran 169 (gwahardd cymryd rhan mewn gwaith rheoli ysgol annibynnol);

(b) adran 170 (gwahardd cymryd rhan mewn gwaith rheoli: atodol);

(c) adran 171 (gwahardd cymryd rhan mewn gwaith rheoli: darpariaeth drosiannol).

(2) Daw darpariaethau canlynol Deddf 2006 i rym ar 1 Ionawr 2010:

(a) adran 89 ac eithrio is-adran (4);

(b) adran 96(b) i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu is-adrannau (4) i (7) o adran 61 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

(c) adran 184 (diddymu) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a nodir ym mharagraff (ch);

(ch) yn Rhan 6 o Atodlen 18 y diddymiad yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 o adran 61(4) i (7).

Darpariaeth drosiannol

4.–(1) Hyd nes y bydd adran 88 o Ddeddf 2006 yn cychwyn–

(a) mae'r cyfeiriad yn adran 89(2)(a) yn Neddf 2006 at adran 88(2)(a) i gael effaith fel pe bai'n gyfeiriad at adran 61(2)(a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; a

(b) mae'r cyfeiriad yn adran 89(2)(b) yn Neddf 2006 at adran 88(2)(b) i gael effaith fel pe bai'n gyfeiriad at adran 61(2)(b) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2) Hyd nes y cychwynnir adran 89(4) o Ddeddf 2006 caniateir i'r mesurau y bydd pennaeth yn eu penderfynu o dan adran 89(1) o Ddeddf 2006 gynnwys gwneud rheolau a darpariaeth ar gyfer eu gorfodi.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

17 Medi 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 169, 170, a 171 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 i rym ar 12 Hydref 2009.

Mae adran 169 yn mewnosod adran 167A, 167B, 167C a 167D newydd yn Neddf Addysg 2002. Mae'r adrannau hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddyd yn gwahardd neu'n cyfyngu ar gyfranogiad person yng ngwaith rheoli ysgol annibynnol. Mae'r adrannau hyn hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n disgrifio'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan Weinidogion Cymru wrth wneud cyfarwyddiadau o'r fath.

Mae adran 170 yn diwygio adran 169 o Ddeddf Addysg 2002, yn mewnosod paragraff (e) yn is-adran (2) o adran 113BA o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac yn mewnosod paragraff (ba) newydd yn is-adran (2) o adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999.

Mae adran 171 yn darparu ar gyfer darpariaeth drosiannol pan ddaw adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 i rym.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym ar 1 Ionawr 2010 adran 89 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn rhannol, ynghyd â diddymu'n rhannol adran 61 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym yn ailddeddfu adran 61(4) i (7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol. Cychwynnir adran 89 o Ddeddf 2006 yn rhannol yn y dull hwn er mwyn caniatáu diwygiadau a wnaed i'r adran honno gan adran 13 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a bydd hyn yn golygu y bydd y cod ymddygiad wrth deithio a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwnnw yn cael ei ymgorffori ym mholisi ymddygiad ysgol.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaeth Y dyddiad cychwyn O.S. Rhif
Adran 1 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 4 1 Medi 2009 2009/1027 (Cy.89)
Adran 37(1) a (2)(a) 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 38 1 Medi 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 39 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 40 1 Medi 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adrannau 43 – 45 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 47 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 53 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 55 9 Chwefror 2009 2009/49 (Cy.17)
Adran 156 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 164 1 Medi 2009 2009/1027 (Cy.89)
Adran 166 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 175 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 184 yn rhannol 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 184 yn rhannol 1 Medi 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 184 yn rhannol 1 Medi 2009 2009/1027 (Cy.89)
Atodlen 17 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Atodlen 18 yn rhannol 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Atodlen 18 yn rhannol 1 Medi 2008 2008/1429 (Cy.148)
Atodlen 18 yn rhannol 1 Medi 2009 2009/1027 (Cy.89)

Mae darpariaethau amrywiol yn Neddf 2006 wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan yr offerynnau statudol canlynol: O.S. 2006/2990 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.

Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Ionawr 2007 (deufis wedi hynny).

(1)

2006 p.40. Mae adran 181 wedi ei diwygio gan adran 23 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (2008 mccc 2). Back [1]

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092545_we_1.html