BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Conwy (Llandudno a Chonwy) 2009 No. 2717 (Cy. 229)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092717_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Conwy (Llandudno a Chonwy) 2009

Gwnaed

4 Hydref 2009

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), adroddiad dyddiedig Chwefror 2009 ar ei adolygiad o ffiniau cymunedol o fewn rhan o Fwrdeistref Sirol Conwy a'i gynigion ar eu cyfer.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2):

Enwi a chychwyn

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Conwy (Llandudno a Chonwy) 2009.

(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2009.

(3) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn–

mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol ym Mwrdeistref Sirol Conwy.

3. Mae newidiadau wedi eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Bwrdeistref Sirol Conwy yn unol â darpariaethau canlynol y Gorchymyn hwn.

Newidiadau mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

4. Mae'r rhan o gymuned Conwy a ddangosir fel yr ardal resog ar Fap A–

(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandudno;

(b) yn rhan o ward Tudno cymuned Llandudno; ac

(c) yn rhan o adran etholiadol Tudno.

5. Mae'r rhan o gymuned Conwy a ddangosir fel ardal "a" â chroeslinellau ar Fap B–

(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandudno;

(b) yn rhan o ward Craig y Don cymuned Llandudno; ac

(c) yn rhan o adran etholiadol Craig y Don.

6. Mae'r rhan o ward Penrhyn cymuned Llandudno a ddangosir fel ardal resog "b" ar Fap B–

(a) wedi ei throsglwyddo i ward Craig y Don cymuned Llandudno; a

(b) yn rhan o adran etholiadol Craig y Don.

7. Mae'r rhan o gymuned Conwy a ddangosir fel ardal resog "c" ar Fap B–

(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandudno;

(b) yn rhan o ward Penrhyn cymuned Llandudno; ac

(c) yn rhan o adran etholiadol Penrhyn.

8. Mae'r rhan o gymuned Llandudno a ddangosir fel ardal "a" â chroeslinellau ar Fap C–

(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Conwy;

(b) yn rhan o ward Deganwy cymuned Conwy; ac

(c) yn rhan o adran etholiadol Deganwy.

9. Mae'r rhan o gymuned Llandudno a ddangosir fel ardal resog "b" ar Fap C–

(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Conwy;

(b) yn rhan o ward Marl cymuned Conwy; ac

(c) yn rhan o adran etholiadol Marl.

10. Mae'r rhan o ward Marl cymuned Conwy a ddangosir fel ardal resog "c" ar Fap C–

(a) wedi ei throsglwyddo i ward Deganwy cymuned Conwy; a

(b) yn rhan o adran etholiadol Deganwy.

11. Mae'r rhan o gymuned Llandudno a ddangosir fel ardal resog "a" ar Fap D–

(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Conwy;

(b) yn rhan o ward Pen-sarn cymuned Conwy; ac

(c) yn rhan o adran etholiadol Pen-sarn.

12. Mae'r rhan o gymuned Conwy a ddangosir fel ardal resog "b" ar Fap D–

(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandudno;

(b) yn rhan o ward Penrhyn cymuned Llandudno; ac

(c) yn rhan o adran etholiadol Penrhyn.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Hydref 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'n rhoi eu heffaith i gynigion y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ("y Comisiwn") a gyflwynodd adroddiad yn Chwefror 2009 ar ei adolygiad o ffiniau cymunedol mewn rhan o Fwrdeistref Sirol Conwy. Argymhellodd adroddiad y Comisiwn newidiadau i ffiniau cymunedau Llandudno a Chonwy a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eu heffaith i argymhellion y Comisiwn heb eu haddasu.

Mae printiau o'r mapiau sy'n dangos y ffiniau wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Conwy, ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru (Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol) ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Mae Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y Gorchymyn hwn a gweithredu'r gorchmynion hynny.

View a larger version of this image

View a larger version of this image

View a larger version of this image

View a larger version of this image

(1)

1972 p.70. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [2]

(3)

O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol ond nad yw'r diwygiadau hynny'n berthnasol i'r offeryn statudol hwn). Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092717_we_1.html