BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009 No. 2818 (Cy. 244)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092818_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009

Wedi'i wneud

20 Hydref 2009

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 11(2), (4), (5) a (6) o Ddeddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007(1).

Yn unol ag adran 11(7) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet, Gweinidogion yr Alban, Adran Cyllid a Phersonél Gogledd Iwerddon a'r Bwrdd Ystadegau.

Yn unol ag adran 65(7) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009 a daw i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn–

Ystadegau y mae'r rheolau a'r egwyddorion ynghylch gweld ystadegau cyn eu rhyddhau yn gymwys iddynt

3.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r Atodlen yn gymwys i'r ystadegau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).

(2) At ddibenion y Cod, mae'r Atodlen yn darparu ar gyfer rheolau ac egwyddorion ynglŷn â chaniatáu i'r ystadegau hynny gael eu gweld cyn eu rhyddhau(2).

(3) Yr ystadegau yw ystadegau swyddogol(3) sydd yn gyfan gwbl yn ystadegau datganoledig Cymru(4) ac–

(a) sydd wedi'u dynodi'n "Ystadegau Gwladol" o dan adran 12(2) o'r Ddeddf, heb i'r dynodiad hwnnw gael ei ddileu;

(b) y bernir yn rhinwedd adran 12(8) o'r Ddeddf eu bod wedi'u dynodi'n "Ystadegau Gwladol", heb i'r dynodiad hwnnw gael ei ddileu; neu

(c) y mae cais o dan adran 12(1) o'r Ddeddf wedi'i wneud mewn perthynas â hwy, heb i benderfyniad gael ei wneud o dan adran 12(2) o'r Ddeddf.

(4) Nid yw'r Atodlen yn gymwys pan gaiff yr ystadegau eu rhyddhau dim ond er mwyn i gyhoeddiad electronig neu gyhoeddiad copi caled y bwriedir cyhoeddi'r ystadegau ynddo gael ei gynhyrchu.

Andrew Davies

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

20 Hydref 2009

Erthygl 3

ATODLEN Rheolau ac egwyddorion ynglŷn â gweld ystadegau cyn eu rhyddhau

Unigolion y gellir rhoi caniatâd iddynt weld ystadegau cyn eu rhyddhau, ac o dan ba amgylchiadau

1.–(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, caiff y person cyfrifol(5) roi caniatâd i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau dim ond i'r graddau y mae o'r farn ei bod yn angenrheidiol rhoi caniatâd i unigolyn adnabyddadwy penodol eu gweld er mwyn–

(a) galluogi unigolyn a grybwyllir yn is-baragraff (3) i gyflwyno sylwadau cyhoeddus ar yr ystadegau ar sail dealltwriaeth gywir ohonynt;

(b) galluogi unigolyn a grybwyllir yn is-baragraff (3) i bwyso a mesur goblygiadau'r ystadegau ar gyfer polisïau a rhaglenni Gweinidogion Cymru er mwyn sicrhau bod unrhyw sylwadau cyhoeddus a gyflwynir gan unigolyn a grybwyllir yn is-baragraff (3) am y polisïau a'r rhaglenni hynny adeg cyhoeddi'r ystadegau neu ar ôl eu cyhoeddi yn adlewyrchu dealltwriaeth gywir ohonynt;

(c) sicrhau na fydd unigolyn a grybwyllir yn is-baragraff (3) yn dibynnu ar ystadegau eraill sydd ar gael iddo, am yr un pwnc â'r ystadegau y gellir caniatáu iddynt gael eu gweld cyn eu rhyddhau ar draul y canlynol-

(i) arfer unrhyw rai o swyddogaethau Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru, neu

(ii) unrhyw sylw cyhoeddus a gyflwynir gan unigolyn a grybwyllir yn is-baragraff (3) ynglŷn â'r ystadegau eraill hynny,

heb iddo gael gwybod am yr ystadegau y gellir caniatáu iddynt gael eu gweld cyn eu rhyddhau;

(ch) sicrhau, pan fo cyhoeddiad neu ddeunydd arall yn cael ei baratoi gan neu ar ran unrhyw gorff cyhoeddus, swyddfa gyhoeddus neu ddeiliad swydd o'r fath i'w gyhoeddi yr un pryd neu yn fuan ar ôl yr ystadegau y gellir caniatáu iddynt gael eu gweld cyn eu rhyddhau, fod unrhyw ystadegau a gynhwysir yn y cyhoeddiad neu'r deunydd hwnnw yn gywir neu fod y cyhoeddiad neu'r deunydd wedi'i fwydo'n briodol fel arall gan yr ystadegau y gellir caniatáu iddynt gael eu gweld cyn eu rhyddhau;

(d) galluogi un o'r canlynol i gyflwyno sylwadau cyhoeddus mewn cysylltiad â chyhoeddi'r ystadegau ar sail dealltwriaeth gywir ohonynt-

(i) un o Weinidogion y Goron;

(ii) pennaeth adran o lywodraeth y Deyrnas Unedig;

(iii) aelod o Weithrediaeth yr Alban;

(iv) un o Is-weinidogion yr Alban;

(v) un o Weinidogion Gogledd Iwerddon, gan gynnwys Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon;

(vi) aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon a benodwyd yn Is-weinidog o dan adran 19 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998(6);

(vii) unigolyn sy'n cynghori unrhyw rai o'r rhai a grybwyllir yn is-baragraffau (i) i (vi).

(dd) galluogi corff cyhoeddus, swyddfa gyhoeddus neu ddeiliad swydd o'r fath, y mae'r ystadegau yn berthnasol i'w swyddogaethau, i gyflwyno sylwadau cyhoeddus ar yr ystadegau ar sail dealltwriaeth gywir ohonynt;

(e) galluogi corff sy'n cynrychioli corff cyhoeddus, swyddfa gyhoeddus neu ddeiliad swydd o'r fath y mae'r ystadegau yn berthnasol i'w swyddogaethau i gyflwyno sylwadau cyhoeddus ar yr ystadegau ar sail dealltwriaeth gywir ohonynt;

(f) cyflawni unrhyw ddiben arall os yw'r person cyfrifol o'r farn bod budd y cyhoedd yn cael ei ateb gryn dipyn yn well drwy roi caniatâd i weld yr ystadegau cyn eu rhyddhau (yn hytrach na thrwy beidio â'i roi) at y diben hwnnw gan roi sylw i unrhyw niwed y byddai gweld yr ystadegau cyn eu rhyddhau yn debyg o'i beri i'r canlynol–

(i) ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngonestrwydd ystadegau swyddogol yn gyffredinol; neu

(ii) ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngonestrwydd ystadegau swyddogol penodol.

(2) Dim ond os yw'n fodlon bod trefniadau wedi'u gwneud i roi gwybod am yr wybodaeth ganlynol i unigolyn y mae'n rhoi caniatâd iddo weld ystadegau cyn eu rhyddhau y caiff y person cyfrifol roi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau–

(a) ar ba sail yn is-baragraff (1) y rhoddir caniatâd; a

(b) gofynion paragraff 5.

(3) Yr unigolion a grybwyllir yn yr is-baragraff hwn yw–

(a) un o Weinidogion Cymru a benodwyd o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(7);

(b) Prif Weinidog Cymru;

(c) Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru;

(ch) un o Ddirprwy Weinidogion Cymru a benodwyd o dan adran 50 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

(d) unigolyn sy'n cynghori unrhyw rai o'r rhai a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (ch).

Caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau i'w roi i unigolion adnabyddadwy penodol

2. Pan fo'r person cyfrifol yn rhoi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau rhaid iddo roi'r caniatâd hwnnw i unigolyn adnabyddadwy penodol.

Gwybodaeth i gyd-fynd ag ystadegau y rhoddwyd caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau

3. Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau bod yr wybodaeth ganlynol yn cyd-fynd â rhyddhau'r ystadegau y mae wedi rhoi caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau-

(a) yn achos ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad, mai "Ystadegau Cyfrinachol" ydynt;

(b) yn achos ystadegau nad ydynt yn ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad, mai "Ystadegau Cyfyngedig" ydynt;

(c) ym mhob achos–

(i) bod caniatâd i weld yr ystadegau cyn eu rhyddhau wedi'i roi o dan y Gorchymyn hwn;

(ii) bod paragraff 5 o'r Atodlen hon yn cynnwys gofynion penodol; a

(iii) manylion am sut i roi gwybod i'r person cyfrifol os caiff yr ystadegau eu datgelu neu os gallent gael eu datgelu heblaw fel y'i caniateir gan y Gorchymyn hwn.

Amseru'r cyfle i weld ystadegau

4.–(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (6)–

(a) yn achos ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad, wrth roi caniatâd i weld yr ystadegau cyn eu rhyddhau rhaid i'r person cyfrifol beidio â rhoi caniatâd i'r ystadegau hynny gael eu gweld fwy na 24 awr cyn yr amser y bwriedir eu cyhoeddi;

(b) yn achos ystadegau eraill, wrth roi caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau rhaid i'r person cyfrifol beidio â rhoi caniatâd i'r ystadegau hynny gael eu gweld fwy na phum diwrnod cyn y dyddiad y bwriedir eu cyhoeddi;

(c) ym mhob achos rhaid i'r person cyfrifol beidio â rhoi caniatâd i'r ystadegau gael eu gweld yn gynt nag y mae'n credu ei bod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r diben y mae'n rhoi caniatâd i'w gweld ar ei gyfer.

(2) Pan fo'r person cyfrifol yn rhoi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar y sail ym mharagraff 1(1)(ch), nid yw is-baragraffau (1)(a) a (b) yn gymwys.

(3) Wrth roi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau caiff y person cyfrifol roi caniatâd i'w gweld yn gynt na'r hyn y darperir ar ei gyfer yn is-baragraffau (1)(a) a (b) ar yr amod bod yr amodau canlynol wedi'u bodloni–

(a) ei fod o'r farn bod gweld yr ystadegau yn gynt fel hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r diben y mae'n rhoi caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau ar ei gyfer; a

(b) ei fod o'r farn bod budd y cyhoedd yn cael ei ateb gryn dipyn yn well drwy roi caniatâd i weld yr ystadegau yn gynt fel hyn (yn hytrach na thrwy beidio â'i roi) gan roi sylw i unrhyw niwed y byddai gweld yr ystadegau yn gynt fel hyn yn debyg o'i beri i'r canlynol–

(i) ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngonestrwydd ystadegau swyddogol yn gyffredinol; neu

(ii) ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngonestrwydd ystadegau swyddogol penodol.

(4) Pan fo'r person cyfrifol yn rhoi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau yn gynt na'r hyn y darperir ar ei gyfer yn is-baragraffau (1)(a) a (b) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi gwybod am y canlynol i'r Bwrdd Ystadegau(8)–

(a) y ffaith ei fod wedi gwneud hynny;

(b) enw'r ystadegau y rhoddwyd caniatâd i'w gweld yn gynt fel hyn;

(c) enw a swydd yr unigolyn y rhoddwyd caniatâd i'w gweld yn gynt fel hyn;

(ch) o ba ddyddiad ac amser y rhoddwyd caniatâd i'w gweld;

(d) ar ba sail ym mharagraff 1(1) y rhoddwyd caniatâd i'w gweld; ac

(dd) esboniad o'r rheswm dros roi caniatâd i'w gweld yn gynt fel hyn.

(5) Mae'r gofynion a nodir yn is-baragraff (4) yn gymwys mewn achosion lle mae'r person cyfrifol wedi rhoi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar y sail ym mharagraff 1(1)(ch) fel pe na bai'r cyfyngiadau yn is-baragraff (1) yn gymwys i ganiatâd a roddir ar y sail honno.

(6) Nid yw'r cyfnodau amser a grybwyllir yn is-baragraff (1) ("24 awr" a "diwrnod") yn cynnwys unrhyw gyfnod o amser sy'n syrthio ar ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, neu ddiwrnod sy'n Ŵ yl Banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(9) mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

Gofynion lle rhoddwyd caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau

5.–(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo caniatâd wedi'i roi i unigolyn i weld ystadegau cyn eu rhyddhau o dan baragraff 1, neu pan fo ystadegau wedi'u datgelu i unigolyn o dan baragraff 6.

(2) Heb ragfarnu paragraff 6, rhaid i'r unigolyn beidio â datgelu'r ystadegau, na'r un awgrym o'r hyn y maent yn ei gynnwys neu'r hyn y gallent ei ddangos.

(3) Yn achos unigolyn y rhoddwyd caniatâd iddo weld ystadegau cyn eu rhyddhau o dan baragraff 1, rhaid i'r unigolyn hwnnw ddefnyddio'r ystadegau at y diben y rhoddwyd y caniatâd ar ei gyfer yn unig.

(4) Yn achos unigolyn y mae'r ystadegau wedi'u datgelu iddo o dan baragraff 6 gan berson y rhoddwyd caniatâd iddo i'w gweld cyn eu rhyddhau o dan baragraffau 1(1)(a) i (e), rhaid i'r unigolyn hwnnw ddefnyddio'r ystadegau er mwyn rhoi cymorth gweinyddol neu dechnegol i'r person hwnnw yn unig.

(5) Rhaid i'r unigolyn gymryd camau rhesymol tuag at sicrhau–

(a) na chaiff yr ystadegau eu datgelu heblaw fel y'i caniateir gan y Gorchymyn hwn; a

(b) na ddatgelir yr un awgrym o'r hyn y maent yn ei gynnwys neu'r hyn y gallent ei ddangos.

(6) Rhaid i'r unigolyn beidio â defnyddio'r ystadegau i sicrhau enillion personol.

(7) Os oes gan yr unigolyn sail resymol dros gredu-

(a) bod yr ystadegau wedi'u datgelu heblaw fel y'i caniateir gan y Gorchymyn hwn; neu

(b) bod awgrym o'r hyn y mae'r ystadegau'n ei gynnwys, neu o'r hyn y gallent ei ddangos, wedi'i ddatgelu; neu

(c) bod yna berygl y ceir datgeliad a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b),

rhaid i'r unigolyn gydymffurfio ag is-baragraff (8).

(8) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol rhaid i'r unigolyn gymryd pob cam rhesymol ymarferol i roi gwybod i'r person cyfrifol am y datgeliad neu'r datgeliad posibl.

(9) Rhaid i'r unigolyn beidio â cheisio newid fformat, cynnwys nac amser cyhoeddi'r ystadegau, ac eithrio yn unol ag is-baragraff (10).

(10) Os bydd yr unigolyn yn gweld gwallau yn fformat, cynnwys neu amser cyhoeddi'r ystadegau, neu os yw'n dymuno cyflwyno sylwadau arnynt, caiff yr unigolyn fynegi hynny i'r person cyfrifol.

Datgelu ystadegau er mwyn sicrhau cymorth gweinyddol neu dechnegol

6. Caiff unigolyn y rhoddwyd caniatâd iddo weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar un o'r seiliau ym mharagraffau 1(1)(a) i (e) ddatgelu i unigolyn adnabyddadwy penodol arall yr ystadegau y rhoddwyd caniatâd i'w gweld iddo mewn perthynas â hwy, ar yr amod bod angen eu datgelu er mwyn galluogi'r unigolyn arall hwnnw i roi cymorth gweinyddol neu dechnegol iddo yn unig.

Hysbysu'r Bwrdd Ystadegau pan roddir caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar y sail ym mharagraff 1(1)(f)

7. Pan roddir caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar y sail ym mharagraff 1(1)(f) rhaid i'r person cyfrifol roi gwybod i'r Bwrdd Ystadegau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol am y canlynol–

(a) enw'r ystadegau y rhoddwyd caniatâd i'w gweld;

(b) enw a swydd yr unigolyn y rhoddwyd y caniatâd i'w gweld iddo;

(c) o ba ddyddiad ac amser y rhoddwyd caniatâd i'w gweld i'r unigolyn hwnnw; ac

(ch) esboniad o'r rheswm dros roi caniatâd i'w gweld.

Torri gofynion paragraff 5

8. Wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd o dan y Gorchymyn hwn neu beidio i unigolyn weld ystadegau cyn eu rhyddhau, rhaid i'r person cyfrifol gymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth y mae'n ymwybodol ohoni sydd, yn ei farn ef, yn awgrymu unrhyw rai o'r canlynol–

(a) bod yr unigolyn wedi methu â chydymffurfio â gofynion paragraff 5, neu y gallai fod wedi methu â chydymffurfio â hwy o'r blaen;

(b) bod unigolyn arall y mae'r unigolyn hwnnw wedi datgelu ystadegau iddo o'r blaen o dan baragraff 6 wedi methu â chydymffurfio â gofynion paragraff 5, neu y gallai fod wedi methu â chydymffurfio â hwy;

(c) bod caniatâd blaenorol a roddwyd i'r unigolyn hwnnw o dan y Gorchymyn hwn i weld ystadegau cyn eu rhyddhau wedi arwain at ddatgelu'r ystadegau hynny mewn modd na roddwyd caniatâd ar ei gyfer gan y Gorchymyn hwn, neu y gallai fod wedi arwain at hynny;

(ch) bod caniatâd blaenorol a roddwyd i'r unigolyn hwnnw o dan y Gorchymyn hwn i weld ystadegau cyn eu rhyddhau wedi arwain at ddatgelu awgrym o'r hyn yr oedd yr ystadegau hynny'n ei gynnwys neu o'r hyn y gallent fod wedi'i ddangos neu y gallai fod wedi arwain at hynny.

Cadw cofnodion

9.–(1) O ran unrhyw ystadegau y mae'r person cyfrifol wedi rhoi caniatâd o dan y Gorchymyn hwn i'w gweld cyn eu rhyddhau, rhaid i'r person cyfrifol wneud cofnodion o'r canlynol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol–

(a) enw'r ystadegau;

(b) enw, swydd a manylion cysylltu unrhyw unigolyn y mae wedi rhoi caniatâd i'w gweld iddo;

(c) o ba ddyddiad ac amser y rhoddwyd caniatâd i'w gweld i'r unigolyn hwnnw;

(ch) ar ba sail ym mharagraffau 1(1)(a) i (f) y rhoddwyd caniatâd i'w gweld;

(d) pan fo caniatâd i'w gweld wedi'i roi ar y sail ym mharagraff 1(1)(f), y diben a oedd i'w gyflawni drwy roi'r caniatâd;

(dd) unrhyw drafodaethau neu ohebiaeth gyda'r unigolyn ynghylch fformat, cynnwys neu amser cyhoeddi'r ystadegau;

(e) unrhyw wybodaeth y mae wedi'i hysbysu i'r Bwrdd Ystadegau o dan baragraffau 4(4) neu 7;

(f) unrhyw wybodaeth a roddwyd iddo o dan baragraff 5(8), ynghyd â manylion pa bryd y rhoddwyd yr wybodaeth honno iddo a chan bwy;

(ff) unrhyw wybodaeth a gafodd am fethiant posibl gan unrhyw unigolyn i gydymffurfio â gofynion paragraff 5, ynghyd â manylion pa bryd y rhoddwyd yr wybodaeth honno iddo a chan bwy;

(g) unrhyw wybodaeth a gafodd am unrhyw ddatgeliad o'r ystadegau a oedd heb ei ganiatáu gan y Gorchymyn hwn, ynghyd â manylion pa bryd y rhoddwyd yr wybodaeth honno iddo a chan bwy; ac

(ng) unrhyw wybodaeth a gafodd am unrhyw ddatgeliad sy'n rhoi awgrym o'r hyn yr oedd yr ystadegau'n ei gynnwys neu o'r hyn y gallent fod wedi'i ddangos, ynghyd â manylion pa bryd y rhoddwyd yr wybodaeth honno iddo a chan bwy.

(2) Rhaid i'r cofnodion gael eu cadw gan y person cyfrifol am gyfnod o nid llai na saith mlynedd o ddyddiad cyhoeddi'r ystadegau y maent yn ymwneud â hwy.

Cyhoeddi

10.–(1) Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau cyhoeddi bob blwyddyn, ar 1 Ionawr neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw, restr o enwau'r ystadegau y mae wedi rhoi caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau yn y deuddeng mis yn union cyn y dyddiad hwnnw.

(2) Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau bod trefniadau wedi'u gwneud tuag at sicrhau bod ystadegau y mae'n berson cyfrifol ar eu cyfer, ac y mae'r Atodlen hon yn gymwys iddynt, yn cael eu trin yn unol â'r Gorchymyn hwn.

(3) Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau cyhoeddi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, esboniad o'r trefniadau a grybwyllir yn is-baragraff (2).

(4) Os diwygir y trefniadau a grybwyllir yn is-baragraff (2), rhaid i'r person cyfrifol sicrhau cyhoeddi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r diwygiadau gael eu gwneud, esboniad o'r trefniadau diwygiedig.

Darparu gwybodaeth

11.–(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i'r person cyfrifol, os caiff gais am wybodaeth sy'n bodloni'r meini prawf yn is-baragraff (2), roi'r wybodaeth honno i'r ceisydd heb fod yn hwyrach na'r ugeinfed diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y caiff y cais.

(2) Y meini prawf yw bod yr wybodaeth wedi'i chynnwys mewn cofnodion y mae'r person cyfrifol wedi'u gwneud at ddibenion unrhyw rai o baragraffau 9(1)(a) i (e) ac nid yn fanylion cysylltu sydd wedi'u cofnodi at ddibenion paragraff 9(1)(b).

(3) At ddibenion y paragraff hwn, ystyr cais yw cais sydd–

(a) mewn ysgrifen;

(b) yn dod i law ar ffurf ddarllenadwy;

(c) yn datgan enw'r ceisydd a chyfeiriad gohebu; ac

(ch) yn rhoi disgrifiad digonol o'r wybodaeth a geisir.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi rheolau ac egwyddorion sydd i'w dilyn mewn perthynas â chaniatáu i bobl benodol weld mathau penodol o ystadegau ymlaen llaw cyn eu cyhoeddi'n swyddogol. Cyfeirir at y math hwn o gyfle i weld ystadegau yn y Gorchymyn hwn, ac yn y Ddeddf y mae'r Gorchymyn yn cael ei gwneud odani, fel gweld ystadegau cyn eu rhyddhau.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud o dan adran 11 o Ddeddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 (p.18) ("y Ddeddf"). Mae'r adran honno'n caniatáu i'r "awdurdod priodol" ddarparu, at ddibenion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau o dan adran 10 o'r Ddeddf, ar gyfer rheolau ac egwyddorion ynglŷn â chaniatáu i ystadegau swyddogol gael eu gweld cyn eu rhyddhau.

Mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau o dan adran 10 o'r Ddeddf yn cael ei baratoi a'i gyhoeddi gan y Bwrdd Ystadegau ("The Statistics Board"). Effaith adran 11(1) o'r Ddeddf yw na chaniateir i'r Cod ei hun ymdrin â rheolau ac egwyddorion ynglŷn â chaniatáu i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau. Mae'r rheolau a'r egwyddorion hynny i'w pennu drwy i'r awdurdod priodol wneud Gorchymyn o dan adran 11.

Mae adran 11(6)(c) o'r Ddeddf yn darparu mai Gweinidogion Cymru yw'r "awdurdod priodol" o ran ystadegau swyddogol sydd yn gyfan gwbl yn ystadegau datganoledig Cymru. Diffinnir "ystadegau swyddogol" yn adran 6(1) o'r Ddeddf a diffinnir "ystadegau datganoledig Cymru" yn adran 66(3).

Diffinnir "gweld ystadegau cyn eu rhyddhau" o ran ystadegau swyddogol yn adran 11(8) ac mae'n golygu cael gweld yr ystadegau yn eu ffurf derfynol cyn eu cyhoeddi.

Mae'r rheolau a'r egwyddorion y darperir ar eu cyfer gan y Gorchymyn wedi'u nodi yn yr Atodlen. Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn darparu, yn ddarostyngedig i'r eithriad a nodir yn erthygl 3(4), fod yr Atodlen yn gymwys i ystadegau sy'n bodloni pob un o'r meini prawf, sef eu bod yn ystadegau swyddogol, yn gyfan gwbl yn ystadegau datganoledig Cymru a naill ai wedi'u dynodi'n Ystadegau Gwladol neu'n disgwyl penderfyniad a ydynt wedi'u dynodi'n Ystadegau Gwladol neu beidio. Mae'r eithriad yn erthygl 3(4) yn gymwys pan gaiff ystadegau eu rhyddhau dim ond er mwyn i'r cyhoeddiad y maent i'w cyhoeddi ynddo gael ei gynhyrchu.

Mae gan y Bwrdd Ystadegau y swyddogaeth o dan adran 12(2) o'r Ddeddf o ddynodi ystadegau swyddogol yn Ystadegau Gwladol. Cafodd y Bwrdd ei sefydlu gan y Ddeddf. Cyn i'r Bwrdd gael ei sefydlu a chyn i adran 12 gael ei chychwyn, y Swyddfa Ystadegau Gwladol oedd yn dynodi ystadegau swyddogol yn Ystadegau Gwladol. Mae adran 12(8) o'r Ddeddf yn darparu bod ystadegau swyddogol a ddynodwyd yn Ystadegau Gwladol cyn i adran 12 gael ei chychwyn i'w hystyried at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf fel pe baent wedi'u dynodi'n Ystadegau Gwladol o dan adran 12(2).

Mae paragraff 1(1) o'r Atodlen yn darparu, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn, y caiff y person cyfrifol ganiatáu i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau dim ond i'r graddau y mae o'r farn ei bod yn angenrheidiol rhoi caniatâd i'w gweld i unigolyn adnabyddadwy penodol er mwyn cyflawni diben sy'n un o'r dibenion a grybwyllir ym mharagraffau 1(1)(a) i (f). Mae'r "person cyfrifol" wedi'i ddiffinio yn adran 67 o'r Ddeddf.

Mae paragraff 1(2) yn darparu bod rhaid i'r person cyfrifol fod wedi'i fodloni, cyn caniatáu i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau, fod trefniadau wedi'u gwneud i roi gwybod i'r unigolyn y mae'n caniatáu iddo weld yr ystadegau cyn eu rhyddhau ar ba sail ym mharagraffau 1(1)(a) i (f) y rhoddir y caniatâd iddo, a'r gofynion a nodir ym mharagraff 5 y bydd yr unigolyn yn dod odanynt.

Mae paragraff 1(3) yno at ddibenion ystyr paragraffau 1(1)(a) i (c).

Mae paragraff 2 yn darparu bod rhaid i'r person cyfrifol, pan fo'n caniatáu i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau, roi'r caniatâd i unigolyn penodol a all gael ei adnabod. Er enghraifft, byddai caniatâd i "Brif Weinidog Cymru" yn bodloni'r gofyniad, ond fyddai caniatâd i "Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru" ddim yn ei fodloni.

Mae paragraff 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol sicrhau, pan fo ystadegau yn cael eu rhyddhau ac y mae wedi rhoi caniatâd iddynt gael eu gweld cyn eu rhyddhau, fod rhaid i'r wybodaeth a nodir ym mharagraffau 3(a) i (c) gyd-fynd â'r ystadegau.

Yn ddarostyngedig i weddill y darpariaethau ym mharagraff 4, mae paragraffau 4(1)(a) a (b) yn gosod terfynau uchaf o ran pa mor bell ymlaen llaw cyn eu cyhoeddi y caiff y person cyfrifol ryddhau ystadegau o dan y Gorchymyn.

Yn achos ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad, rhaid i'r ystadegau beidio â chael eu rhyddhau fwy na 24 awr cyn yr amser y bwriedir eu cyhoeddi. Diffinnir "ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad" yn erthygl 2 o'r Gorchymyn.

Yn achos ystadegau nad ydynt yn sensitif i'r farchnad, rhaid iddynt beidio â chael eu rhyddhau yn gynt na'r pumed diwrnod cyn y dyddiad y bwriedir eu cyhoeddi.

Effaith paragraff 4(1)(c) yn achos ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad ac ystadegau nad ydynt yn sensitif i'r farchnad yw bod rhaid peidio â'u rhyddhau yn gynt na'r hyn y mae'r person cyfrifol o'r farn ei bod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r diben y caniateir iddynt gael eu gweld ar ei gyfer cyn eu rhyddhau.

Mae paragraff 4(6) yn gymwys at ddibenion cyfrifo'r adeg gynharaf y caniateir i ystadegau gael eu rhyddhau. Effaith y paragraff yw bod dyddiau penodol, megis dyddiau'r penwythnos, i'w hanwybyddu wrth gyfrifo.

Mae paragraff 4(2) yn anghymhwyso'r terfynau amser uchaf pan roddir caniatâd o dan baragraff 1(1)(ch) i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau.

Effaith paragraff 4(3) yw caniatáu i'r person cyfrifol ryddhau ystadegau yn gynt na'r cyfnodau hiraf y darperir ar eu cyfer ym mharagraffau 4(1)(a) a (b). Er hynny, dim ond os yw'r amodau a nodir ym mharagraffau 4(3)(a) a (b) wedi'u bodloni y caiff y person cyfrifol wneud hyn.

Mae paragraff 4(4) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol hysbysu'r Bwrdd Ystadegau, a rhoi gwybodaeth benodol i'r Bwrdd, os bydd y person cyfrifol yn rhoi caniatâd i ystadegau gael eu gweld yn gynt na'r cyfnodau hiraf y darperir ar eu cyfer ym mharagraffau 4(1)(a) a (b).

Effaith paragraff 4(5), os bydd y person cyfrifol yn rhoi caniatâd o dan baragraff 1(1)(ch) i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau, gan ganiatáu iddynt gael eu gweld yn gynt na'r cyfnodau hiraf y darperir ar eu cyfer ym mharagraffau 4(1)(a) a (b), yw bod rhaid i'r person cyfrifol gydymffurfio â'r gofyniad ynghylch hysbysu ym mharagraff 4(4), er bod paragraff 4(2) wedi anghymhwyso'r cyfnodau hiraf ym mharagraffau 4(1)(a) a (b) mewn achosion lle mae caniatâd wedi'i roi o dan baragraff 1(1)(ch).

Mae paragraff 5 yn gosod gofynion ar unigolion y mae'r person cyfrifol wedi rhoi caniatâd iddynt weld ystadegau cyn eu rhyddhau, ac ar y rhai y mae ystadegau wedi'u datgelu iddynt o dan baragraff 6 (datgelu er mwyn i gymorth gweinyddol a thechnegol gael ei roi). Mae'r gofynion hyn yn ymwneud yn bennaf â gwahardd rhagor o ddatgelu ar yr ystadegau, cyfyngu ar sut y caniateir eu defnyddio, ei gwneud yn ofynnol i gamau rhesymol gael eu cymryd i warchod eu diogelwch a'i gwneud yn ofynnol i bob cam rhesymol ymarferol gael ei gymryd i hysbysu'r person cyfrifol os caiff y diogelwch hwnnw ei dorri.

Mae paragraff 6 yn caniatáu i unigolyn y rhoddwyd caniatâd iddo weld ystadegau cyn cael eu rhyddhau o dan un o baragraffau 1(1)(a) i (e) ddatgelu'r ystadegau hynny i unigolyn sy'n rhoi cymorth gweinyddol neu dechnegol iddo. Er hynny, rhaid i'r datgeliad fod yn angenrheidiol er mwyn galluogi i'r cymorth hwnnw gael ei roi, a chael ei wneud at y diben hwnnw yn unig. Ni chaniateir i unigolyn y rhoddwyd caniatâd iddo weld ystadegau o dan baragraff 1(1)(f) ddatgelu'r ystadegau eto gan ddefnyddio'r ddarpariaeth hon.

Mae paragraff 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol hysbysu'r Bwrdd Ystadegau, a rhoi gwybodaeth benodol i'r Bwrdd, pan fo'r person cyfrifol wedi rhoi caniatâd o dan baragraff 1(1)(f) i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau.

Mae paragraff 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol, wrth iddo ystyried caniatáu i unigolyn penodol weld ystadegau cyn eu rhyddhau, gymryd i ystyriaeth yn ei benderfyniad unrhyw dystiolaeth y mae'n ymwybodol ohoni sydd, yn ei farn ef, yn dangos unrhyw rai o'r materion a nodir ym mharagraffau 8(a) i (ch). Mae'r materion yn ymwneud â methu â chydymffurfio o'r blaen â gofynion paragraff 5, a datgelu ystadegau neu eu cynnwys o'r blaen.

Mae paragraff 9(1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol wneud cofnodion, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ynghylch y caniatadau y maent wedi'u rhoi i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau. Rhaid i'r cofnodion hyn gynnwys gwybodaeth benodol fel y'i nodir ym mharagraffau 9(1)(a) i (ng).

Mae paragraff 9(2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol gadw'r cofnodion am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad cyhoeddi'r ystadegau y maent yn ymwneud â hwy.

Mae paragraff 10(1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol sicrhau y cyhoeddir bob blwyddyn, ar 1 Ionawr neu cyn gynted ar ôl y dyddiad hwnnw ag y bo'n rhesymol ymarferol, restr o enwau'r ystadegau y mae wedi caniatáu iddynt gael eu gweld cyn eu rhyddhau yn ystod y deuddeng mis yn union cyn y dyddiad hwnnw.

Mae paragraff 10(2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol sicrhau bod trefniadau wedi'u gwneud tuag at sicrhau bod ystadegau y mae'n berson cyfrifol ar eu cyfer, ac y mae'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt, yn cael eu trin yn unol â'r Gorchymyn hwn.

Mae paragraffau 10(3) a (4) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol sicrhau y cyhoeddir esboniad o'r trefniadau a grybwyllir ym mharagraff 10(2), a bod yr esboniad a gyhoeddir yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau yn y trefniadau hynny.

Mae paragraff 11(1) yn gosod gofyniad ar y person cyfrifol i ddarparu gwybodaeth, o fewn terfyn amser penodedig, mewn ymateb i geisiadau penodol am wybodaeth benodol a geir yn y cofnodion y mae wedi'u gwneud at ddibenion paragraff 9. Er mwyn i'r rhwymedigaeth hon ar y person cyfrifol godi, rhaid i'r wybodaeth y gofynnir amdani fodloni'r meini prawf a nodir ym mharagraff 11(2) a rhaid i'r cais fodloni'r meini prawf a nodir ym mharagraff 11(3).

(1)

2007 p. 18. Back [1]

(2)

Diffinnir "gweld ystadegau cyn eu rhyddhau" ("pre-release access") yn adran 11(8) o Ddeddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 p. 18 ("y Ddeddf"). Back [2]

(3)

Diffinnir "ystadegau swyddogol" ("official statistics") yn adran 6(1) o'r Ddeddf. Back [3]

(4)

Diffinnir "ystadegau datganoledig Cymru" ("Welsh devolved statistics") yn adran 66(3) o'r Ddeddf. Back [4]

(5)

Diffinnir "y person cyfrifol" ("the person responsible") yn adran 67 o'r Ddeddf. Back [5]

(6)

1998 p. 47. Back [6]

(7)

2006 p. 32. Back [7]

(8)

Cafodd y Bwrdd Ystadegau ("The Statistics Board") ei sefydlu gan adran 1(1) o'r Ddeddf. Back [8]

(9)

1971 p. 80. Back [9]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092818_we_1.html