BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2009 No. 3232 (Cy. 280)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093232_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2009

Gwnaed

7 Rhagfyr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), a chan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer bwriad a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2009. Daw i rym ar 31 Rhagfyr 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2) Yn y Gorchymyn hwn–

Asesu cynhwysedd cynhyrchu tir

2.–(1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael eu heffaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchu uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr paragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

(2) Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna–

(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2009, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.

(3) Os yw tir sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net pan ffermir ef dan reolaeth gymwys yn gymwys i dderbyn taliad Tir Mynydd (fel y crybwyllir yng nghofnod 4 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) neu os oedd yn hectar cymwys yn 2008 (fel y crybwyllir yng nghofnod 5 yn y golofn honno), yna–

(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2009, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.

Dirymu

3. Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2008(6).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

7 Rhagfyr 2009

Erthygl 2

YR ATODLEN UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENNU INCWM BLYNYDDOL NET

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Defnydd Ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)

NODIADAU I'R ATODLEN

a

Y ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis yw hwn. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.

b

Y ffigur ar gyfer anifeiliaid (waeth beth fo'u hoed) a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis yw hwn. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.

c

Mae'r ffigur hwn yn cynnwys y premiwm cnwd protein y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 76 o Reoliad y Cyngor 1782/2003.

1.
Da byw
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel) Buwch 416.00
Buchod bridio cig eidion
Ar dir sy'n gymwys at ddibenion taliad Tir Mynydd buwch -143.00
Ar dir arall buwch -147.00
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen -48.00a
Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 94.00b
Mamogiaid:
Ar dir sy'n gymwys at ddibenion taliad Tir Mynydd mamog -12.00
Ar dir arall mamog -10.00
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 3.50
Moch:
Hychod a banwesau torrog fanwes hwch neu 182.00
Moch porc y pen 11.30
Moch torri y pen 13.70
Moch bacwn y pen 15.70
Dofednod
Ieir dodwy aderyn 3.00
Brwyliaid aderyn 0.30
Cywennod ar ddodwy aderyn 0.60
Tyrcwn Nadolig aderyn 6.10
2.
Cnydau âr fferm
Haidd hectar -29.00
Ffa hectar -36.00c
Rêp had olew hectar 9.00
Pys sych -78.00c
Tatws:
Cynnar cyntaf hectar 2497.00
Prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 1866.00
Betys siwgr hectar 357.00
Gwenith hectar 42.00
3.
Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau'r berllan hectar 2720.00
Ffrwythau meddal hectar 6830.00
4.
Tir Porthiant
Ar dir sy'n gymwys at ddibenion taliad Tir Mynydd hectar Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006
5.
Hectarau cymwys
Tir a oedd yn 2008 yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 1782/2003, ac eithrio tir a oedd wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o'r Rheoliad hwnnw:
Tir dan anfantais ddifrifol hectar 120.40
Tir dan anfantais hectar 153.43
Pob tir arall hectar 111.87

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchu tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn gosod y swm sydd i'w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2009 i 11 Medi 2010 gan gynnwys y dyddiadau hynny at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 ("Deddf 1986"). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2008.

Mae asesiad o gynhwysedd cynhyrchu tir amaethyddol yn ofynnol ar gyfer penderfynu p'un a yw'r tir o dan sylw yn "uned fasnachol o dir amaethyddol" ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Uned o dir amaethyddol yw "uned fasnachol o dir amaethyddol" sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai nag agregiad o enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sydd yn 20 mlwydd oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn a phryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir o dan sylw, mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai'r unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd sail yr asesiad hwnnw.

Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 yn yr Atodlen yn disgrifio'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2008, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1), sy'n sefydlu'r Cynllun Taliad Sengl. Mae ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais a thir arall. Mae yna hefyd ffigurau ar wahân ar gyfer tir a oedd wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu yn 2008.

Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio ar fusnes na'r sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

1986 p.5. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p.5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]

(3)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51). Back [3]

(4)

OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 674/2008 (OJ Rhif L189, 17.7.2008, t.5). Back [4]

(5)

O.S. 2006/3343 (Cy.304). Back [5]

(6)

O.S. 2008/3200 (Cy.285). Back [6]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093232_we_1.html