BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lanconwy (yr A470) (Cwm-bach i'r Bontnewydd ar Wy) 2009 No. 3375 (Cy. 297) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093375_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
21 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
6 Ionawr 2010
1. Daw'r briffordd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadau ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.
2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom a dangosir y cynigion cysylltiedig ar gyfer ffyrdd ymyl â llinellau gwynion wedi'u torri ar y plan a adneuwyd.
3. Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, ac a ddangosir â llinellau rhesog llydan ar y plan a adneuwyd, yn peidio â bod yn gefnffordd ac yn dod yn ffyrdd dosbarthiadol ar y dyddiad pan fydd lywodraeth Cynulliad Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Powys fod y cefnffyrdd newydd ar agor ar gyfer traffig trwodd.
4. Yn y Gorchymyn hwn mesurir pob mesur pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
(i) ystyr "y plan a adneuwyd" ("the deposited plan") yw'r plan sy'n dwyn rhif HA 10/2 WAG 2 sydd wedi'i farcio "Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lanconwy (yr A470) (Cwm-bach i'r Bontnewydd ar Wy) 2009", wedi'i lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru a'i adneuo yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion Llywodraeth Cynulliad Cymru (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd;
(ii) ystyr "y gefnffordd" ("the trunk road") yw Cefnffordd Caerdydd i Lanconwy (yr A470);
(iii) "y gefnffordd newydd" ("the new trunk road") yw'r briffordd a grybwyllir yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn.
5. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ionawr 2010 a'i enw yw "Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lanconwy (yr A470) (Cwm-bach i'r Bontnewydd ar Wy) 2009"
Llofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru
Jeff Collins
Dirprwy Gyfarwyddwr Cynllunio a lywodraethu Trafnidiaeth
Llywodraeth Cynulliad Cymru
21 Rhagfyr 2009
Mae llwybr y gefnffordd newydd i'r gogledd o anfair-ym-Muallt ac ychydig i'r de o'r Bontnewydd ar Wy yn Sir Powys fel a ganlyn:–
llwybr y mae ei hyd o gwmpas 5.46 cilometr sy'n dechrau wrth bwynt ar y gefnffordd bresennol (yr A470) rhyw 150 o fetrau i'r gogledd o'i chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth, yr U1318 yn gyfagos i eiddo a elwir Gwern-yfed-fach (wedi'i farcio A ar y plan a adneuwyd) ac sydd wedyn yn ymestyn tua'r gogledd hyd at bwynt ar y gefnffordd bresennol (yr A470) wrth ei chyffordd â'r ffordd breifat sy'n arwain at yr eiddo a elwir Dolwen a Fferm Woodcastle yn y Bontnewydd ar Wy (wedi'i farcio B ar y plan a adneuwyd).
Dyma lwybrau'r darnau o gefnffordd sy'n peidio â bod yn gefnffordd yn Sir Powys:–
(1) y darn hwnnw o'r gefnffordd (yr A470) y mae ei hyd o gwmpas 250 o fetrau a leolir rhwng pwynt yn gyfagos i'r eiddo a elwir Gwern-yfed-fawr (wedi'i farcio 1 ar y plan a adneuwyd) a phwynt rhyw 100 o fetrau i'r de o'i chyffordd â'r U1326 Ffordd lanfair-ym-Muallt (wedi'i farcio 2 ar y plan a adneuwyd).
(2) y darn hwnnw o gefnffordd yr A470, y mae ei hyd o gwmpas 4.95 cilometr, a leolir rhwng pwynt sy'n gyfagos at ei chyffordd â mynedfa breifat sy'n arwain at yr eiddo a elwir Pen-y-banc (wedi'i farcio 3 ar y plan a adneuwyd) a chan gynnwys Pont Nant Dulas yng Nghwm-bach a Phont-ar-Ithon, a phwynt sy'n gyfagos i'r eiddo a elwir Dolithon, i'r de o'r Bontnewydd ar Wy (wedi'i farcio 4 ar y plan a adneuwyd).