BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw Powys a Morgannwg Ganol (Newid yn Ardaloedd) 2010 No. 48 (Cy. 13)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100048_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw Powys a Morgannwg Ganol (Newid yn Ardaloedd) 2010

Gwnaed

11 Ionawr 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Ionawr 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2010

Gan fod y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, ac yntau wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1A) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), dyddiedig Mehefin 2009 ar adolygiad o ran o'r ffin rhwng siroedd wedi'u cadw Powys a Morgannwg Ganol, ynghyd â'r cynigion a luniwyd gan y Comisiwn ar hynny;

A bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb addasiadau;

A bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru;

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) a (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw Powys a Morgannwg Ganol (Newid yn Ardaloedd) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn–

Newid yn ardaloedd siroedd wedi'u cadw

3. Trosglwyddir y rhan honno o sir wedi'i chadw Powys a ddangosir â chroeslinellau ar y map ffiniau i sir wedi'i chadw Morgannwg Ganol.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

11 Ionawr 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) ("Deddf 1994") yn darparu y bydd y siroedd yng Nghymru fel yr oeddynt yn union cyn pasio Deddf 1994 yn parhau mewn bodolaeth at ddibenion penodol. Fe'u gelwir yn "siroedd wedi'u cadw".

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) a (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi eu heffaith, heb addasiadau, i gynigion gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ("y Comisiwn") a adroddodd ym mis Mehefin 2009 ar ei adolygiad o ran o ffin siroedd wedi'u cadw Powys a Morgannwg Ganol. Argymhellodd adroddiad y Comisiwn newid i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Orchymyn Merthyr Tudful a Phowys (Ardaloedd) 2009 (O.S. Rhif 889 (Cy.78)) yn ardal Pontsticill, rhwng Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn sir wedi'i chadw Morgannwg Ganol a Sir Powys yn sir wedi'i chadw Powys.

(1)

1972 p.70. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100048_we_1.html