BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2010 No. 272 (Cy. 35)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100272_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

4 Chwefror 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Chwefror 2010

Yn dod i rym

3 Mawrth 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 45(1)(d), (9) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 3 Mawrth 2010.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2010.

Eiddo y mae rhwymedigaeth i dalu arno ardrethi eiddo heb ei feddiannu

2. Yn rheoliad 4(e) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008(3) yn lle "£2,200" rhodder "£18,000".

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Chwefror 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan adran 45 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988") mae ardrethi annomestig yn daladwy ar hereditament heb ei feddiannu os yw'r hereditament yn bodloni'r amodau a geir yn adran 45(1). Mae'r amodau hynny'n cynnwys amod bod yr hereditament yn dod o fewn dosbarth rhagnodedig.

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008 yn rhagnodi dosbarth o hereditamentau heb eu meddiannu y mae ardrethi yn daladwy arnynt. Cynnwys y dosbarth yw'r holl hereditamentau heb eu meddiannu nad oes yr un o'r amodau yn rheoliad 4 yn gymwys iddynt. Mae rheoliad 4 yn eithrio'r holl hereditamentau a geir mewn rhestr ardrethu annomestig ac y mae eu gwerth ardrethol yn llai na swm penodedig, sef £15,000 ar hyn o bryd, o rwymedigaeth i dalu arnynt ardrethi annomestig o dan adran 45 o Ddeddf 1988. Mae'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r ffigur hwnnw i £18,000 at ddibenion hereditament a welir ar y rhestr ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2010 yn unig.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi yn http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/bus-legislation-sub.

(1)

1988 p.41. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a geir yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]

(3)

O.S. 2008/2499 (Cy.217). Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100272_we_1.html