BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010 No. 289 (Cy. 38) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100289_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
9 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Chwefror 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 182(2), (3) a 203(9) a (10)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) ac Atodlen 10 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010.
2. Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "ardal Bwrdd Iechyd Lleol" ("Local Health Board area") yw'r ardal o Gymru y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer o dan erthygl 4 o Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009(2);
ystyr "ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys" ("Powys Teaching Local Health Board area") yw'r ardal y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys ar ei chyfer yn yr Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003, fel y'i diwygiwyd(3);
ystyr "ardal Cyngor Iechyd Cymuned" ("Community Health Council area") yw'r ardal o Gymru y sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned ar ei chyfer o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr "cyn Gyngor" ("former Council") yw Cyngor a ddiddymir o dan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr "y Cynghorau sy'n parhau" ("the continued Councils") yw Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn;
ystyr "y Cynghorau newydd" ("new Councils") yw'r Cynghorau a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr "y dyddiad diddymu" ("abolition date") yw 1 Ebrill 2010;
ystyr "y dyddiad sefydlu" ("establishment date") yw 1 Ebrill 2010;
ystyr "y dyddiad trosglwyddo" ("transfer date") yw 1 Ebrill 2010;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ac
ystyr "y Rheoliadau" ("the Regulations") yw Rheoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(4).
3. Sefydlir, yn effeithiol o'r dyddiad sefydlu, y chwe Chyngor Iechyd Cymuned a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac sy'n dwyn yr enwau a roddir iddynt yn yr Atodlen honno.
4.–(1) Mae pob ardal Cyngor Iechyd Cymuned yn cyfateb i ardal y Bwrdd Iechyd Lleol a neilltuir ar ei chyfer yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
(2) Os yw ardal y Bwrdd Iechyd Lleol a neilltuir ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned o dan baragraff (1) yn cael ei hamrywio, mae ardal y Cyngor Iechyd Cymuned i'w hamrywio'n unol â hynny.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i greu ardal Bwrdd Iechyd Lleol newydd, i ddiddymu ardal Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bodoli neu i gyfuno dwy ardal Bwrdd Iechyd Lleol neu fwy.
5. Dyma swyddogaethau'r Cynghorau newydd–
(i) yr hyn a osodir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 10 i'r Ddeddf:
(ii) yr hyn a osodir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 10 i'r Ddeddf; a
(iii) byddant yn cynnwys swyddogaethau'r cyn Gynghorau a drosglwyddir i'r Cynghorau newydd gan erthygl 6.
6.–(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw swyddogaethau neu hawliau oedd yn arferadwy gan gyn Gynghorau neu i rwymedigaethau oedd yn orfodadwy yn eu herbyn ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny.
(2) Mae gan y Cynghorau newydd y buddiant o unrhyw swyddogaeth oedd yn arferadwy neu unrhyw hawl oedd yn orfodadwy gan y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i Gyngor newydd.
(3) Rhaid i Gyngor newydd gymryd cyfrifoldeb dros unrhyw rwymedigaeth oedd yn orfodadwy yn erbyn y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i Gyngor newydd.
7.–(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i ddarparu adroddiadau a chyfrifon ar ran cyn Gynghorau am y cyfnod 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010.
(2) Rhaid i Gyngor newydd wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau fod adroddiadau a chyfrifon am y cyfnod 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010 y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar 31 Mawrth 2010 neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i'r Cyngor newydd, yn cael eu darparu yn unol â rheoliadau 25 a 41 o'r Rheoliadau.
8. Bydd unrhyw beth a wnaed gan y cyn Gynghorau neu mewn perthynas â hwynt wrth arfer swyddogaeth neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno sydd yn rhinwedd erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn yn dod yn swyddogaeth i Gyngor newydd yn cael effaith, i'r graddau y mae hynny'n angenrheidiol i barhau ei effaith ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, megis petai wedi ei wneud gan y Cyngor newydd neu mewn perthynas ag ef.
9. Mae'r ddau ar bymtheg o Gynghorau Iechyd Cymuned a restrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn a barhaodd mewn bodolaeth neu a sefydlwyd o dan adran 182 o'r Ddeddf yn cael eu diddymu gydag effaith o'r dyddiad diddymu.
10.–(1) Mae Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn yn parhau mewn bodolaeth.
(2) Ardal gyfunol y Cynghorau hyn sy'n parhau yw ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys.
(3) Os bydd ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn cael ei hamrywio mae ardal gyfunol y ddau gyngor hyn i gael ei hamrywio'n unol â hynny.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio'r ardal y sefydlir y naill Gyngor neu'r llall, neu'r ddau Gyngor, sy'n parhau drosti.
(5) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i greu ardal Bwrdd Iechyd Lleol newydd, i ddiddymu Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys neu i gyfuno ardal Bwrdd Iechyd Lleol Powys ag ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall, neu â fwy nag un ohonynt.
(6) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a gynhwysir o fewn yr erthygl hon, mae Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn cadarnhau'r ardaloedd y sefydlir y Cynghorau sy'n parhau drostynt ac y maent yn parhau i arfer eu swyddogaethau drostynt.
11. Dyma swyddogaethau'r Cynghorau sy'n parhau–
(i) yr hyn a osodir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 10 i'r Ddeddf: a
(ii) yr hyn a osodir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 10 i'r Ddeddf.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Chwefror 2010
Erthyglau 3 a 4
Colofn 1 | Colofn 2 | |
---|---|---|
Enwau Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydlir o dan erthygl 3 | Ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol y sefydlir y Cyngor Iechyd Cymuned ar eu cyfer | |
1 | Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan | Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
2 | Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
3 | Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr |
4 | Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a Bro Morgannwg | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
5 | Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf | Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf |
6 | Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda | Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda |
Erthygl 9
Cynghorau Iechyd Cymuned a oedd yn parhau mewn bodolaeth, neu a gafodd eu sefydlu, o dan adran 182 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 | |
---|---|
1 | Cyngor Iechyd Cymuned Dwyrain Conwy |
2 | Cyngor Iechyd Cymuned Gorllewin Conwy |
3 | Cyngor Iechyd Cymuned Clwyd |
4 | Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Gwynedd |
5 | Cyngor Iechyd Cymuned Meirionnydd |
6 | Cyngor Iechyd Cymuned Ynys Môn |
7 | Cyngor Iechyd Cymuned Gwent |
8 | Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd |
9 | Cyngor Iechyd Cymuned Bro Morgannwg |
10 | Cyngor Iechyd Cymuned Merthyr a Chwm Cynon |
11 | Cyngor Iechyd Cymuned Pontypridd a Rhondda |
12 | Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe |
13 | Cyngor Iechyd Cymuned Castell-nedd a Phort Talbot |
14 | Cyngor Iechyd Cymuned Pen-y-bont ar Ogwr |
15 | Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin |
16 | Cyngor Iechyd Cymuned Sir Benfro |
17 | Cyngor Iechyd Cymuned Ceredigion |
Erthygl 10
Enw'r Cyngor Iechyd Cymuned | Ardaloedd o fewn prif ardal llywodraeth leol Powys y sefydlir y Cyngor Iechyd Cymuned ar eu cyfer(5) | |
---|---|---|
1 | Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed | Dosbarth Maesyfed a Brycheiniog |
2 | Cyngor Iechyd Cymuned Maldwyn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn | Dosbarth Sir Drefaldwyn gan gynnwys cymunedau |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn sefydlu, o 1 Ebrill 2010, chwe Chyngor Iechyd Cymuned newydd yng Nghymru, fel y darperir ar eu cyfer yn adran 182(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn nodi'r ardaloedd y sefydlir y Cynghorau Iechyd Cymuned ar eu cyfer.
Mae erthygl 5 yn gosod y swyddogaethau sydd i'w cyflawni gan y Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydlir o dan erthygl 3.
Mae erthygl 6 yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau a hawliau oedd yn arferadwy gan y Cynghorau sy'n cael eu diddymu gan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn ac ar gyfer trosglwyddo'r rhwymedigaethau oedd yn orfodadwy yn erbyn y cyfryw Gynghorau i'r Cynghorau a sefydlir gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 7 yn sicrhau fod adroddiadau a chyfrifon y Cynghorau a ddiddymir gan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn yn cael eu darparu yn unol â rheoliadau 25 a 41 o Reoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010.
Mae erthygl 8 yn darparu ar gyfer parhâd wrth arfer swyddogaethau.
Mae erthygl 9 yn diddymu dau ar bymtheg o'r Cynghorau Iechyd Cymuned presennol yng Nghymru ar 1 Ebrill 2010.
Er mwyn eglurder, gan fod pob Cyngor Iechyd Cymuned arall yng Nghymru yn cael ei ddiddymu a Chynghorau Iechyd Cymuned newydd yn cael eu creu ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, mae erthygl 10 yn darparu'n benodol ar gyfer parhâd bodolaeth Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn.
Mae'n cadarnhau fod Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn gyda'i gilydd yn cwmpasu'r ardal y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys drosti. Mae hyn yn dangos fod Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â'u dyletswydd i sicrhau fod yr ardaloedd y sefydlir Byrddau Iechyd Cymuned ar eu cyfer ar unrhyw adeg gyda'i gilydd yn cynnwys Cymru gyfan (adran 182(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006). Nid yw'r union ardaloedd y sefydlwyd Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn ar eu cyfer, a'r union ardaloedd y maent yn eu tro yn arfer eu swyddogaethau drostynt, wedi newid, ac fe'u gosodir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 11 yn disgrifio swyddogaethau'r Cynghorau sy'n parhau.
Mewn perthynas ag aelodaeth, cyfansoddiad, a gweithdrefnau'r Cynghorau Iechyd Cymuned, gweler Rheoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/288, (Cy.37)).
2006 p.42. Back [1]
O.S. 2009/778 (Cy.66). Back [2]
O.S. 2003/148 (Cy.18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/778 (Cy.66). Back [3]
O.S. 2010/288 (Cy.37). Back [4]
Gweler Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19) adran 1(2), Atodlen1, paragraff 1. Back [5]