BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Meirion-Dwyfor (Diddymu) 2010 No. 562 (Cy. 57)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100562_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Meirion-Dwyfor (Diddymu) 2010

Gwnaed

2 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Mawrth 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2010

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) ("y Ddeddf") ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru(2).

Yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf, mae corfforaeth addysg bellach Coleg Llandrillo(3) wedi cydsynio i'r trosglwyddiad o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau corfforaeth addysg bellach Coleg Meirion-Dwyfor(4).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chorfforaeth addysg bellach Coleg Meirion-Dwyfor yn unol ag adran 27(7) o'r Ddeddf.

Gan hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Meirion-Dwyfor (Diddymu) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.

Diddymu a throsglwyddo

2. Ar 1 Ebrill 2010 diddymir corfforaeth addysg bellach Coleg Meirion-Dwyfor a throsglwyddir ei heiddo, hawliau a rhwymedigaethau i gorfforaeth addysg bellach Coleg Llandrillo, sef corff corfforaethol sy'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf â darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.

Trosglwyddo staff

3. Mae adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogid gan gorfforaeth addysg bellach Coleg Meirion-Dwyfor yn union cyn 1 Ebrill 2010 fel pe bai'r cyfeiriadau yn yr adran honno–

(a) at berson y mae'r adran honno'n gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson a gyflogid felly;

(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Ebrill 2010;

(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at gorfforaeth addysg bellach Coleg Meirion-Dwyfor; ac

(ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at gorfforaeth addysg bellach Coleg Llandrillo.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

2 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i gynnal y sefydliad addysgol a elwir Coleg Meirion-Dwyfor, ac yn cael effaith o 1 Ebrill 2010 ymlaen. Mae'n darparu ar gyfer trosglwyddo'i heiddo, ei hawliau a'i rhwymedigaethau i gorfforaeth addysg bellach Coleg Llandrillo ac yn sicrhau hawliau ei chyflogeion drwy gymhwyso adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13).

(1)

1992 p.13; diwygiwyd adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 gan erthygl 9 o Orchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238 (Cy.243)) a pharagraffau 13 ac 16(a)-(c) o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw; gan adran 29 o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddi 2007 (p. 25); a hefyd gan adrannau 15 a 30 o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddi 2007 ac Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, ond pan wnaed y Gorchymyn hwn nid oedd y darpariaethau hynny wedi eu cychwyn. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

Sefydlwyd fel "Llandrillo Technical College" gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/2097). Back [3]

(4)

Sefydlwyd gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/2097). Back [4]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100562_we_1.html