BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010 No. 618 (Cy. 60) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100618_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
4 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 15(4) ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010; mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
2.–(1) Yn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1, yn lle'r term "Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol", ym mhob man lle y mae'n ymddangos yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn, rhodder "Gweinidogion Cymru" ac, fel y bo'n briodol, yn lle'r term "Divisional Veterinary Manager", ym mhob man lle y mae'n ymddangos yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn, rhodder "Welsh Ministers".
(2) Yn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2, mae'r diffiniadau o "Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol", neu, fel y bo'n briodol, "Divisional Veterinary Manager" yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn wedi eu dirymu.
3.–(1) Mae Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 5(5), yn lle "Secretary, Ministry of Agriculture, Fisheries and Food, Hook Rise South, Tolworth, Surrey, KT6 7NF, to the Divisional Veterinary Manager" rhodder "Welsh Ministers".
(3) Hepgorer yr ail Nodyn (sy'n dechrau gyda'r geiriau "The inspector is with all practicable speed") i'r Hysbysiad a bennir yn Atodlen 2 (hysbysiad yn datgan ac yn diffinio terfynau lle heintiedig).
4.–(1) Mae Gorchymyn Clefyd Aujeszky 1983(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 19(2), yn lle "Divisional Veterinary Manager of the Ministry for that area" rhodder "Welsh Ministers".
(3) Hepgorer y Nodiadau i Ffurflenni A, B, C, D ac E yn yr Atodlen.
5. Mae Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987(4) wedi ei ddiwygio drwy hepgor y Nodiadau i Ffurflenni A, B, C a D yn Atodlen 1.
6.–(1) Mae Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006(5) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 4(1), yn lle "hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol sy'n gyfrifol am yr ardal honno am ffaith honno" rhodder "hysbysu Gweinidogion Cymru o'r ffaith honno".
(3) Yn erthygl 5(1), yn lle "hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer yr ardal lle y cymerwyd y sampl neu'r ardal lle mae'r labordy am y ffaith honno" rhodder "hysbysu Gweinidogion Cymru o'r ffaith honno".
7. Yn lle erthygl 9(5) o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006(6) rhodder–
"(5) Where notification is received under this article from a person other than the occupier of the premises where the relevant animal or carcase is located, a veterinary inspector may serve a notice on the occupier informing the occupier that–
(a) notification has been received under this article; and
(b) Schedule 1 applies in relation to the premises.".
8. Mae erthygl 9(4) o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006(7) wedi ei hepgor.
9. Mae Gorchymyn y Gorchmynion Iechyd Anifeiliaid (Diwygiad ynghylch Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) 1995(8) wedi ei ddirymu.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2010
Erthygl 2(1)
Enw | Cyfeiriad | Y darpariaethau a ddiwygiwyd |
---|---|---|
Gorchymyn Allforio Ceffylau (Archwiliad Milfeddygol) 1966 | O.S. 1966/507 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthygl 3 |
Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974 | O.S. 1974/2212 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthygl 4(3)(a) a (b) |
Gorchymyn Mewnforio Anifeiliaid 1977 | O.S. 1977/944 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthyglau 4(2), (3)(b), (4) a (5)(a) a 5(4) |
Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987 | O.S. 1987/790 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthyglau 4(1), (2)(a) a (b), (3)(a), (b) ac (c), 7 (Rheolau 8 a 9) a 9, a Rheolau 8 a 9 yn Ffurflen A yn Atodlen 1 |
Gorchymyn Twbercwlosis (Ceirw) 1989 | O.S. 1989/878 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthyglau 4(1), 5(1), a 7(b) |
Gorchymyn Anthracs 1991 | O.S. 1991/2814 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthyglau 4, 7(2) a 9 |
Gorchymyn Arteritis Feirysol Ceffylau 1995 | O.S. 1995/1755 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthyglau 4(1), (3)(i) a (ii) a (4)(a) a 6(2), paragraffau 3 a 5 o Ran I o'r Atodlen a pharagraff 7 o Ran II o'r Atodlen |
Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 | O.S. 1996/2628 | Erthygl 5(1)(a) |
Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 | O.S. 2003/1079 (Cy. 148) | Erthygl 4(1)(a) a (2) |
Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003 | O.S. 2003/2456 (Cy. 239) | Erthygl 4(1) a (2); Erthygl 13(3), paragraff 8 o Ran I o Atodlen 1, paragraff 20 o Ran II o Atodlen 1, paragraff 5 o Ran I o Atodlen 2, paragraff 9 o Ran II o Atodlen 2 |
Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003 | O.S. 2003/3273 (Cy. 323) | Erthyglau 4(1) a (2) a 13(3), paragraff 9 o Ran1 o Atodlen 1, paragraff 11 o Ran 2 o Atodlen 1, paragraff 5 o Ran 1 o Atodlen 2, paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 2 |
Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006 | O.S. 2006/179 (Cy. 30) | Erthyglau 9(1), (2), (3) a (4) a pharagraff 1 o Atodlen 7 |
Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006 | O.S. 2006/867 (Cy. 79) | Erthyglau 3(1)(b) a (2), 4(1) a 5(1) |
Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 | O.S. 2006/2927 (Cy. 262) | Erthygl 9(1), (2) a (3) |
Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006 | O.S. 2006/1053 (Cy. 109) | Erthyglau 5(1)(a) a (2), 6(1) a 9(2)(ch)(i) |
Erthygl 2(2)
Teitl | Cyfeiriad | Y ddarpariaeth y dirymwyd y diffiniad ynddi |
---|---|---|
Gorchymyn Allforio Ceffylau (Archwiliad Milfeddygol) 1966 | O.S. 1966/507 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthygl 2(1) |
Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974 | O.S. 1974/2212 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthygl 2(1) |
Gorchymyn Mewnforio Anifeiliaid 1977 | O.S. 1977/944 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthygl 2(1) |
Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987 | O.S. 1987/790 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthygl 3(1) |
Gorchymyn Twbercwlosis (Ceirw) 1989 | O.S. 1989/878 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthygl 2(1) |
Gorchymyn Anthracs 1991 | O.S. 1991/2814 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthygl 2(1) |
Gorchymyn Arteritis Feirysol Ceffylau 1995 | O.S. 1995/1755 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 | Erthygl 3 |
Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 | O.S. 1996/2628 | Erthygl 2 |
Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 | O.S. 2003/1079 (Cy. 148) | Erthygl 3(1) |
Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003 | O.S. 2003/2456 (Cy. 239) | Erthygl 2(1) |
Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003 | O.S. 2003/3273 (Cy. 323) | Erthygl 2(1) |
Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006 | O.S. 2006/179 (Cy.30) | Erthygl 3(1) |
Gorchymyn Brwselosis (Cymru) 2006 | O.S. 2006/866 (Cy.78) | Erthygl 2(1) |
Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006 | O.S. 2006/867 (Cy. 79) | Erthygl 2(1) |
Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006 | O.S. 2006/1053 (Cy. 109) | Erthygl 3(1) |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchmynion penodedig er mwyn dileu cyfeiriadau at "Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol" a disodli'r cyfeiriadau hynny â chyfeiriadau at "Gweinidogion Cymru" ac, fel y bo'n briodol, yn dileu cyfeiriadau at "Divisional Veterinary Manager" a disodli'r cyfeiriadau hynny â chyfeiriadau at "Welsh Ministers". Mae'r Gorchymyn hefyd yn dirymu diffiniadau o "Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol" a "Divisional Veterinary Manager" ym mhob Gorchymyn yr effeithir arno.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer y Gorchymyn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat, y sector cyhoeddus na'r sector gwirfoddol.
1981 p. 22. Mae swyddogaethau o dan y Ddeddf yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru), yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044); ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32). Back [1]
O.S. 1974/2212 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922. Back [2]
O.S. 1983/344, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922. Back [3]
O.S. 1987/790 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922. Back [4]
O.S. 2006/867 (Cy. 79). Back [5]
O.S. 2006/179 (Cy. 30). Back [6]
O.S. 2006/2927 (Cy. 262). Back [7]
O.S. 1995/2922. Back [8]