BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2010 No. 735 (Cy. 72) (C. 49)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100735_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2010

Gwnaed

10 Mawrth 2010

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 120(2) a 125(4) o Ddeddf Addysg 2005(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2010.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "Deddf 2005" ("the 2005 Act") yw Deddf Addysg 2005.

(3) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.

Y Diwrnod Penodedig

2. Daw'r darpariaethau canlynol o Ddeddf 2005 i rym ar 1 Ebrill 2010 o ran Cymru:

(a) adran 101 (ariannu ysgolion a gynhelir) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 16 isod,

(b) adran 117 (diwygiadau pellach) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod,

(c) adran 123 (diddymu) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 19 isod,

(ch) Atodlen 16, paragraffau 1 i 7 (ariannu ysgolion a gynhelir),

(d) Atodlen 18, paragraffau 5, 7-9, 11, 13, 14 (diwygiadau pellach),

(dd) yn Atodlen 19, yn Rhan 4, diddymu Deddf Safonau ac Fframwaith Ysgolion 1998, adran 45A(5) a (6), Deddf Addysg 2002, adrannau 41(2), 42 ac yn Atodlen 21, paragraffau 124(3) a 125(3), Deddf Llywodraeth Leol 2003, yn Atodlen 7, paragraff 66.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2010 adran 101 o Ddeddf Addysg 2005 ac Atodlen 16 iddi (a diwygiadau canlyniadol perthynol a diddymiadau yn Atodlenni 18 a 19) ynghylch ariannu ysgolion a gynhelir.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2005 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Darpariaeth Y Dyddiad Cychwyn O.S. Rhif
Adrannau 19 i 47 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adrannau 50 i 52 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 53 yn rhannol 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 54 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adrannau 55 i 57 1 Ebrill 2007 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adrannau 58 i 60 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 61 yn rhannol 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 71 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 105 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 106 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 115 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 116 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 117 yn rhannol 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 118 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 123 yn rhannol 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 123 yn rhannol 1 Ebrill 2007 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlenni 2 i 6 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlen 7 yn rhannol 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlen 8 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlen 9 yn rhannol 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlen 18 yn rhannol 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlen 19 yn rhannol 1 Medi 2006 O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlen 19 yn rhannol 1 Ebrill 2007 O.S. 2006/1338 (Cy.130)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2005 wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2005/2034, O.S. 2006/2129.

(1)

2005 p.18. Back [1]

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100735_we_1.html