BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010 No. 749 (Cy. 77) (C. 51)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100749_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010

Gwnaed

11 Mawrth 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 40 a 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.

(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y penodedig

2. 31 Mawrth 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym-

(a) adran 8(3) (darparu llety a chynhaliaeth i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol), Atodlen 2 (addasiadau darfodol o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989)(2) ac Atodlen 4 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiad ynglŷn ag adran 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(3); a

(b) adran 34.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 8 a 34 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac Atodlenni 2 a 4 iddi i rym ar 31 Mawrth 2010 i'r graddau a bennir yn y Gorchymyn.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 wedi eu dwyn i rym gan Orchmynion Cychwyn a gafodd eu gwneud cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y ddarpariaeth Y Dyddiad Cychwyn O.S. Rhif
Adran 1 o ran Lloegr (yn rhannol) 16 Chwefror 2009 2009/323
Adran 2 o ran Lloegr 16 Chwefror 2009 2009/323
Adran 3 o ran Lloegr 16 Chwefror 2009 2009/323
Adran 5 o ran Lloegr 16 Chwefror 2009 2009/323
Adran 6 o ran Lloegr (yn rhannol) 12 Chwefror 2009 2009/268
Adran 6 o ran Lloegr (y gweddill) 16 Chwefror 2009 2009/323
Adran 8 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Medi 2009 2009/2273
Adran 10 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Medi 2009 2009/2273
Adran 15 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Medi 2009 2009/2273
Adran 16 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Medi 2009 2009/2273
Adran 18 (yn rhannol) 1 Ionawr 2010 2009/3354
Adran 20 o ran Lloegr (yn rhannol) 12 Chwefror 2009 2009/268
Adran 20 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Medi 2009 2009/2273
Adran 21 o ran Lloegr (yn rhannol) 12 Chwefror 2009 2009/268
Adran 21 o ran Lloegr (y gweddill) 22 Awst 2009 2009/2273
Adran 22 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Medi 2009 2009/2273
Adran 22 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Medi 2009 2009/2273
Adran 23 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Ionawr 2010 2009/3354
Adran 25 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Medi 2009 2009/2273
Adran 26 o ran Lloegr 1 Ebrill 2010 2009/3354
Adran 27 o ran Lloegr 1 Ebrill 2010 2009/3354
Adran 28 o ran Lloegr 1 Ebrill 2010 2009/3354
Adran 29 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Medi 2009 2009/2273
Adran 31 1 Ebrill 2009 2009/628 (C.11)
Adran 32 1 Ebrill 2009 2009/628 (C.11)
Adran 33 o ran Lloegr 12 Chwefror 2009 2009/268
Adran 34 o ran Lloegr (yn rhannol) 12 Chwefror 2009 2009/268
Adran 34 o ran Lloegr (y gweddill) 1 Ebrill 2009 2009/268
Adran 35 6 Ebrill 2009 2009/728 (Cy.64) (C.47)
Adran 36 o ran Cymru 1 Medi 2009 2009/1921 (Cy.175) (C.91)
Adran 37 o ran Cymru 1 Medi 2009 2009/1921 (Cy.175) (C.91)
Adran 38 o ran Cymru 1 Medi 2009 2009/1921 (Cy.175) (C.91)
Adran 36 o ran Lloegr 1 Medi 2009 2009/2273
Adran 37 o ran Lloegr 1 Medi 2009 2009/2273
Adran 38 1 Medi 2009 2009/2273
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 45(9) o Ddeddf Plant 1989 6 Ebrill 2009 2009/728 (Cy.64) (C.47).
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 12(5) a (6) a diddymu yn rhannol adran 91(10) o Ddeddf Plant 1989 1 Medi 2009 2009/1921 (Cy.175) (C.91)
Atodlen 1 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Medi 2009 2009/2273
Atodlen 2 o ran Lloegr 12 Chwefror 2009 2009/268
Atodlen 4 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Ebrill 2009 2009/268
Atodlen 4 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Ebrill 2010 2009/3354
(1)

2008 p.23. Back [1]

(2)

1989 p.41. Back [2]

(3)

2002 p.38. Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100749_we_1.html