BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010 No. 927 (Cy. 94)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100927_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010

Gwnaed

23 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Mawrth 2010

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 124 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym yn syth ar ôl i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2010(2) ddod i rym.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989(3).

Diwygio'r prif Reoliadau

2. Yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau mewnosoder y geiriau canlynol yn y lle priodol o ran trefn yr wyddor–

Dirymu

3. Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2010(4) wedi eu dirymu.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

23 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (O.S.1989/306) ("Rheoliadau 1989"). Mae'r Rheoliadau'n ychwanegu Ynys Manaw at y rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dod i gytundeb cilyddol â hwy yn Atodlen 2 i Reoliadau 1989.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2010 (O.S.2010/730 (Cy.71)).

(1)

2006 p.42. Back [1]

(2)

O.S. 2010/ 730 (Cy.71). Back [2]

(3)

O.S. 1989/306, fel y'i diwygiwyd. Back [3]

(4)

O.S. 2010/730 (Cy.71) . Back [4]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100927_we_1.html