BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 No. 1142 (Cy. 101)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101142_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010

Gwnaed

31 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Ebrill 2010

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 162 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(1).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 a daw i rym ar y pymthegfed diwrnod ar hugain ar ôl y diwrnod y cafodd ei wneud.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "is-ddeddfwriaeth ym maes addysg" yw is-ddeddfwriaeth a wnaed yn gyfan gwbl o dan y pwerau sydd yn unrhyw un o'r Deddfau Addysg (o fewn ystyr Deddf Addysg 1996) ac mae ystyr "is-ddeddfwriaeth nad yw ym maes addysg" i'w ddehongli yn unol â hynny.

Diwygio Is-ddeddfwriaeth ym maes Addysg

2.–(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys o ran Cymru.

(2) Diwygir yr is-ddeddfwriaeth ym maes addysg a bennir yn Atodlen 1 yn unol â'r Atodlen honno.

(3) Mewn unrhyw ddarpariaeth o is-ddeddfwriaeth ym maes addysg nas pennir yn Atodlen 1 ac yn nheitlau'r cyfryw is-ddeddfwriaeth, yn lle "awdurdod addysg lleol" ac "AALl" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol" ac yn lle "awdurdodau addysg lleol" ac "AALlau" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdodau lleol" ond os yw'r testun yn Saesneg yn unig yn lle "local education authority" ac "LEA" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "local authority" ac yn lle "local education authorities" ac "LEAs" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "local authorities".

Diwygio Is-ddeddfwriaeth nad yw ym maes Addysg

3. Diwygir yr is-ddeddfwriaeth nad yw ym maes addysg ac a bennir yn Atodlen 2 (sy'n ymwneud ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru) yn unol â'r Atodlen honno.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

31 Mawrth 2010

Erthygl 2

ATODLEN 1 Diwygio Is-ddeddfwriaeth ym maes Addysg

Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994

1.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994(2) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 –

(a) hepgorer y diffiniad o "local authority";

(b) yn y diffiniad o "non-maintained special school" yn lle "local education authority" rhodder "local authority";

(c) yn lle'r diffiniad o "relevant local education authority" rhodder–

(3) Yn Atodlen 1–

(a) yn lle paragraff 5(2) rhodder–

"(2) Before any decision is taken as to whether a child is to be excluded the proprietor or head teacher shall, unless it would not be appropriate to do so in any case, give written notice to–

(a) his parents;

(b) the local authority in whose areas the school is situated; and

(c) (if different) the local authority who have arranged for the placing of the child,

stating the grounds for the proposed exclusion, and shall take into account any representation made by them.";

(b) ym mharagraffau 8 a 10(1) yn lle "local education authority" rhodder "local authority".

(4) Yn Atodlen 2–

(a) ym mharagraff 6 yn lle "the local education authority in whose area the school is situated, any local education authority or, as the case may be, local authority who have arranged the placing of a child at the school and the local authority in whose area the school is situated" rhodder "the local authority in whose area the school is situated and any other local authority who have arranged the placing of a child at the school";

(b) yn y pennawd i baragraff 8 yn lle "local education authorities" rhodder "local authorities";

(c) ym mharagraffau 8(1) a (5), 9(1) a 10(1)(b) a (3)(b) yn lle "local education authority" rhodder "local authority";

(ch) ym mharagraff 11(1) hepgorer "local education authority or";

(d) ym mharagraff 11(2) yn lle "a local authority or the relevant local education authority" rhodder "the local authority in whose area the school is situated and (if different) the relevant local authority"; ac

(dd) ym mharagraff 12(3) hepgorer "local education authority or, as the case may be".

Rheoliadau Addysg (Gorchymyn Presenoldeb yn yr Ysgol) 1995

2.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gorchymyn Presenoldeb yn yr Ysgol) 1995(3) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(4) yn lle "local education authority" rhodder "local authority".

(3) Yn yr Atodlen hepgorer "Local Education Authority" ac "Education Authority".

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997

3. Yn rheoliad 3 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997(5), ym mharagraff (c) o'r diffiniad o "school travel expenditure" yn lle "local education authority" rhodder "local authority in the exercise of education functions (within the meaning of the Education Act 1996)".

Rheoliadau Addysg (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998

4.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998(6) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 –

(a) hepgorer y diffiniad o "LEA";

(b) yn y diffiniadau o "child with a statement" a "statement" yn lle "an LEA" rhodder "a local authority".

Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001

5.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001(7) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 7 yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

(3) Yn lle rheoliad 10(2)(c) rhodder–

"(c) peidio â bod yn aelod etholedig o awdurdod lleol sy'n cynnal unrhyw ysgol yn y grŵp nac yn berson a gyflogir gan awdurdod o'r fath mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg".

(4) Yn rheoliadau 21(9), 22(5) a 24(1)(ch) ac ym mharagraff 7(6) o Atodlen 2, yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol".

Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001

6.–(1) Diwygir Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001(8) fel a ganlyn.

(2) Yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol".

(3) Yn rheoliad 15A yn lle "llywodraethwr AALl" rhodder "llywodraethwr awdurdod".

(4) Yn Atodlen 1 yn lle "local education authority" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "local authority" ac yn lle "local education authorities" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "local authorities".

Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002

7.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002(9) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1)–

(a) yn y diffiniad o "awdurdod" yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol";

(b) hepgorer y diffiniad o "Rhif AALl"; ac

(c) mewnosoder yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor–

(3) Yn rheoliad 4(6)(c) yn lle "Rhif AALl" rhodder "Rhif awdurdod".

(4) Yn Atodlen 1–

(a) yn Nhabl 1 yn lle "Enw AALl" rhodder "Enw'r Awdurdod Lleol" ac yn lle "Cod AALl" rhodder "Cod yr Awdurdod Lleol";

(b) yn y Nodiadau i Ran 1 ym mharagraffau 1, 5(b) a 15 yn lle "AALl" rhodder "awdurdod lleol".

(5) Yn Atodlen 2 yn Nhabl 2 yn lle "AALl" rhodder "Awdurdod Lleol" ac yn lle "Rhif AALl" rhodder "Rhif Awdurdod".

Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002

8.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002(10) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 –

(a) ym mharagraff (1)–

(i) yn lle'r diffiniad o "awdurdod" rhodder–

(ii) hepgorer y diffiniad o "awdurdod gwasanaethau cymdeithasol"; a

(iii) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor–

(b) ym mharagraff (3) hepgorer y geiriau "neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol" a "neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol".

(3) Yn rheoliad 6 –

(a) ym mharagraff (2) hepgorer is-baragraff (a); a

(b) ym mharagraff (4) ac ym mharagraff (5) yn lle "ym mharagraff (2)(a) i (ch)" rhodder "ym mharagraff (2)(b) i (ch)".

(4) Yn rheoliad 7(1) yn lle is-baragraff (d) rhodder-

"(d) cyngor gan weithiwr cymdeithasol,".

(5) Yn rheoliad 12–

(a) ym mharagraff (7)(d) hepgorer y geiriau "neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol", "neu (d) yn y drefn honno" a "neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol";

(b) ar ôl paragraff (7)(f) mewnosoder–

"(ff) am nad yw'r awdurdod wedi llunio neu gynnal unrhyw wybodaeth neu gofnodion gwasanaethau cymdeithasol sy'n berthnasol i asesiad y plentyn cyn y dyddiad pan gyflwynodd neu pan roddodd yr hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1), 6(4) neu 6(5) (fel y bo'n briodol).

(7A) Ym mharagraff (7)(ff) ystyr "gwybodaeth neu gofnodion gwasanaethau cymdeithasol" yw gwybodaeth neu gofnodion a luniwyd neu a gynhaliwyd gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(11)).";

(c) ym mharagraff (8) rhodder "a (10)" yn lle ", (10) ac (11)" a hepgorer "neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol", "neu (d) yn y drefn honno" a "neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol";

(ch) ym mharagraff (9)–

(i) hepgorer "neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol"; a

(ii) yn is-baragraff (c) hepgorer "neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol yn y drefn honno";

(d) hepgorer paragraff (11).

(6) Yn rheoliad 18(6)–

(a) hepgorer "a'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol"; a

(b) yn is-baragraff (a)(i) hepgorer "neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol".

(7) Yn rheoliad 21(6)–

(a) yn lle is-baragraff (c) rhodder–

"(c) dau gynrychiolydd o'r awdurdod y mae un ohonynt i fod yn berson a gyflogir neu a gymerwyd ymlaen gan yr awdurdod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg ac mae'r llall i fod yn weithiwr cymdeithasol,"; a

(b) hepgorer is-baragraff (e).

(8) Yn rheoliad 22 –

(a) ym mharagraff (3)(b) yn lle "cynrychiolydd o'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol" rhodder "gweithiwr cymdeithasol"; a

(b) ym mharagraff (5) ar ôl "yr awdurdod" mewnosoder "sy'n berson a gyflogir neu a gymerwyd ymlaen gan yr awdurdod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg".

(9) Yn rheoliad 23(7) ac (8) yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

(10) Yn rheoliad 24(1)(e) yn lle "awdurdod gwasanaethau cymdeithasol" rhodder "awdurdod lleol".

(11) Yn Rhan A a Rhan B o Atodlen 1 yn lle "ysgol sy'n cael ei chynnal (ysgol awdurdod addysg lleol), gan gynnwys ysgol arbennig sy'n cael ei chynnal gan yr awdurdod," rhodder "ysgol a gynhelir (gan awdurdod lleol) gan gynnwys ysgol arbennig a gynhelir gan awdurdod lleol".

(12) Yn Atodlen 2–

(a) yn Rhan 1, ym mharagraff 2 yn lle "Cyngor ar ran yr Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol" rhodder "Cyngor Gwaith Cymdeithasol";

(b) yn Rhan 6 ym mhennawd Atodiad D yn lle "yr Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol" rhodder "y Gweithiwr Cymdeithasol".

Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002

9.–(1) Diwygir Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002(12) fel a ganlyn.

(2) Yn nheitl y Rheoliadau yn lle "Awdurdodau Addysg Lleol" rhodder "Awdurdodau Lleol".

(3) Yn rheoliad 1(1) yn lle "Awdurdodau Addysg Lleol" rhodder "Awdurdodau Lleol".

(4) Yn rheoliad 1(2) hepgorer y diffiniad o "awdurdod gwasanaethau cymdeithasol".

(5) Yn rheoliad 2 yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

(6) Yn rheoliad 3–

(a) ym mharagraff (1) yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol";

(b) ym mharagraff (1)(a) yn lle "awdurdod gwasanaethau cymdeithasol" rhodder "unrhyw awdurdod lleol arall";

(c) ym mharagraff (4) yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol"; ac

(ch) ym mharagraff (4)(a) yn lle "awdurdod gwasanaethau cymdeithasol" rhodder "awdurdod lleol arall".

(7) Yn nheitl yr Atodlen yn lle "Awdurdodau Addysg Lleol" rhodder "Awdurdodau Lleol".

(8) Yn yr Atodlen yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol".

Rheoliadau Addysg (Athrawon a'u Benthyciadau Myfyrwyr) (Ad-dalu etc.) 2003

10.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Athrawon a'u Benthyciadau Myfyrwyr) (Ad-dalu etc.) 2003(13) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) yn lle "local education authority" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "local authority".

(3) Yn rheoliad 4(1)(b) yn lle "or a local education authority" rhodder "or with a local authority in connection with its education functions".

Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003

11.–(1) Diwygir Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 (14) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 1(3) a 2 yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

(3) Yn rheoliad 11 yn lle "gyllideb AALl" rhodder "gyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion".

Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003

12.–(1) Diwygir Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003(15) fel a ganlyn.

(2) Yn nheitl y Rheoliadau yn lle "Cyllidebau AALl" rhodder "Cyllidebau Addysg nad ydynt ar gyfer Ysgolion".

(3) Yn rheoliad 1(1) yn lle "Cyllidebau AALl" rhodder "Cyllidebau Addysg nad ydynt ar gyfer Ysgolion".

(4) Yn rheoliad 2 yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol".

(5) Yn rheoliad 4 yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd heblaw yn yr ail is-baragraff (a) ym mharagraff (2) rhodder "awdurdod lleol".

(6) Yn rheoliad 4(2) yn yr ail is-baragraff (a) yn lle "ar gyllideb AALl yr awdurdod addysg lleol" rhodder "ar gyllideb addysg awdurdod lleol nad yw ar gyfer ysgolion".

(7) Yn lle'r pennawd ar gyfer rheoliad 5 rhodder–

(8) Yn rheoliad 5(1)–

(a) yn lle "awdurdod addysg lleol" yn y lle cyntaf y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol"; a

(b) yn lle "ar gyllideb AALl awdurdod addysg lleol" rhodder "ar gyllideb addysg awdurdod lleol nad yw ar gyfer ysgolion".

(9) Yn rheoliad 6 yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

(10) Yn y pennawd i Atodlen 1 yn lle "CYLLIDEB AALl AWDURDOD ADDYSG LLEOL" rhodder "CYLLIDEB ADDYSG AWDURDOD LLEOL NAD YW AR GYFER YSGOLION".

(11) Yn Atodlen 1–

(a) ym mharagraff 18 yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol";

(b) ym mharagraff 19 yn lle "yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol" rhodder "mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg".

(12) Yn y pennawd i Atodlen 2 yn lle "AWDURDOD ADDYSG LLEOL" rhodder "AWDURDOD LLEOL".

(13) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 9, 10, 18 a 21 yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol".

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004

13.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004(16) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1)–

(a) yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd, heblaw yn y diffiniad o "Rhif AALl", rhodder "awdurdod lleol";

(b) hepgorer y diffiniad o "Rhif AALl"; ac

(c) mewnosoder yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor–

(3) Yn rheoliadau 3, 4, 5, 6 a 10 yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol".

(4) Ym mharagraff 8 o Atodlen 1 yn lle "AALl" rhodder "awdurdod".

Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004

14.–(1) Diwygir Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004(17) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o "Rheoliadau 2003" yn lle "Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003" rhodder "Rheoliadau Cyllidebau nad ydynt ar gyfer Ysgolion, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003".

(3) Yn rheoliadau 2, 4 i 8, 10 i 14, 16 i 22 ac yn yr Atodlen, yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd, rhodder "awdurdod lleol".

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004

15.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004(18) fel a ganlyn.

(2) Yn nheitl y Rheoliadau ac yn rheoliad 1(1) yn lle "AALl" rhodder "Awdurdod Lleol".

(3) Yn rheoliadau 2(2), 4, 5 a 6 ac yn yr Atodlen yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol".

(4) Ym mharagraff 9 o'r Atodlen yn lle "o gyllideb AALl yr awdurdod" rhodder "o gyllideb addysg yr awdurdod nad yw ar gyfer ysgolion".

Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005

16.–(1) Diwygir Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005(19) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliadau 3, 5, 6, 8 a 9(1), (2), (3) a (7)(a) yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol".

(3) Yn lle rheoliad 9(7)(b) rhodder–

"(b) yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg; neu".

(4) Yn rheoliadau 10 a 11 yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol".

(5) Yn lle rheoliad 12 rhodder–

"Llywodraethwyr awdurdod dros dro

12.–(1) "Llywodraethwr awdurdod dros dro" yw person a benodwyd gan awdurdod lleol yn aelod o gorff llywodraethu dros dro ar ysgol newydd.

(2) Mae person wedi ei ddatgymhwyso rhag cael ei benodi'n llywodraethwr awdurdod dros dro ar ysgol os yw'n gymwys i fod yn staff-lywodraethwr dros dro neu'n athro-lywodraethwr dros dro ar ysgol.".

(6) Yn rheoliadau 13, 15 16(1) a (3)(ch) yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol".

(7) Yn lle rheoliad 16(3)(d) rhodder–

"(d) yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg.".

(8) Yn rheoliadau 21, 26, 27, 30, 33, 34, 35, 36, 38, 39, 43 a 44 yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol".

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

17.–(1) Diwygir Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(20) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliadau 3(2)(c) a 4(2)(a) yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

(3) Yn lle rheoliad 4(2)(b), rhodder –

"(b) yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg;".

(4) Yn lle rheoliad 7, rhodder –

" Llywodraethwyr Awdurdod

7.–(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "llywodraethwr awdurdod" yw person a benodir yn llywodraethwr gan yr awdurdod lleol.

(2) Mae person wedi ei ddatgymhwyso rhag cael ei benodi neu rhag parhau i ddal swydd yn llywodraethwr awdurdod ar ysgol os yw'n gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr ar ysgol.".

(5) Yn rheoliadau 8(3), 9(1) a 10(2)(ch) yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

(6) Yn lle rheoliad 10(2)(d) rhodder–

"(d) yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â'i swyddogaethau addysg.".

(7) Yn y Tablau yn rheoliadau 13, 14 a 15 yn lle "Llywodraethwyr AALl" rhodder "Llywodraethwyr awdurdod".

(8) Yn rheoliad 15(4) a (5)(a) yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

(9) Yn y Tablau yn rheoliadau 16, 17, 18 a 19 yn lle "Llywodraethwyr AALl" rhodder "Llywodraethwyr awdurdod".

(10) Yn rheoliad 21(5) yn lle "llywodraethwr AALl" rhodder "llywodraethwr awdurdod".

(11) Yn y pennawd i reoliad 27 yn lle "AALl" rhodder "awdurdod".

(12) Yn rheoliad 27(1) yn lle "llywodraethwr AALl" rhodder "llywodraethwr awdurdod".

(13) Yn rheoliad 32 yn lle "awdurdodau addysg lleol" rhodder "awdurdodau lleol".

(14) Yn rheoliadau 34 i 37, 42, 45, 47, 51, 55 a 61 yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol ".

(15) Yn Atodlenni 1, 2 a 3 yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol ".

(16) Yn y Tabl yn Atodlen 6 yn lle "Llywodraethwr AALl" yn yr ail golofn rhodder "Llywodraethwr awdurdod".

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010

18.–(1) Diwygir Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010(21) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o "awdurdod lleol" yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol" ac yn lle "awdurdodau addysg lleol" rhodder "awdurdodau lleol".

(3) Yn rheoliadau 11(3)(b) a 17(2)(d) yn lle "fel awdurdod addysg lleol" rhodder "addysg".

Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010

19.–(1) Diwygir Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010(22) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 yn lle "Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003" rhodder "Rheoliadau Cyllidebau Addysg nad ydynt ar gyfer Ysgolion, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003" ac y lle "Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004" rhodder "Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol Awdurdod Lleol) (Cymru) 2004".

(3) Yn rheoliad 3(1) yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

(4) Yn y pennawd i Ran 2 yn lle "Cyllideb AALl" rhodder "Y Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion".

(5) Yn lle'r pennawd ar gyfer rheoliad 4 rhodder–

(6) Yn rheoliad 4(1) ac yn yr ail is-baragraff (a) yn rheoliad 6(2) yn lle "ar gyllideb AALl awdurdod lleol" rhodder "ar gyllideb addysg awdurdod lleol nad yw ar gyfer ysgolion".

(7) Yn y pennawd i Atodlen 1 yn lle "Cyllideb AAL yr Awdurdod Lleol" rhodder "Cyllideb Addysg yr Awdurdod Lleol nad yw ar gyfer Ysgolion".

(8) Ym mharagraff 20 o Atodlen 1 yn lle "yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol" rhodder "mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg".

(9) Ym mharagraff 9 o Atodlen 4 yn lle "o gyllideb AALl yr awdurdod" rhodder "o gyllideb addysg yr awdurdod nad yw ar gyfer ysgolion".

Erthygl 3

ATODLEN 2 Diwygio Is-ddeddfwriaeth nad yw ym maes Addysg

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990

1. Yn rheoliad 4(2) o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990(23) yn lle'r geiriau "which is a local education authority as defined in section 114 of the Education Act 1944, any functions with respect to education" rhodder "any education functions (within the meaning of section 579(1) of the Education Act 1996)".

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000

2.–(1) Diwygir rheoliad 6 o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000(24) fel a ganlyn.

(2) Yn lle paragraff (b) rhodder–

"(b) y swyddogaethau o dan adrannau 7 neu 8 o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986;".

(3) Ym mharagraff (ch) yn lle "awdurdodau addysg lleol" rhodder "awdurdodau lleol".

Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001

3.–(1) Diwygir Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001(25) fel a ganlyn.

(2) Yn erthygl 3(2)(ch)(i) yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001

4.–(1) Diwygir Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001(26) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 7(5)(ch) yn lle "awdurdod addysg lleol ar gyfer yr ardal y mae'n byw ynddi" rhodder "awdurdod lleol (os yw'n wahanol) ar gyfer yr ardal y mae'r plentyn yn byw ynddi os yw'r awdurdod hwnnw wedi arfer unrhyw swyddogaethau addysg mewn cysylltiad â'r plentyn".

Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001

5.–(1) Diwygir Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001(27) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o "athro neu athrawes" yn lle "Awdurdod Addysg Lleol" rhodder "awdurdod lleol".

Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001

6.–(1) Diwygir Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001(28) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 –

(a) mewnosoder yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor–

(b) yn y diffiniad o "pwyllgor trosolygu a chraffu addysg" yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol";

(c) hepgorer y diffiniad o "awdurdod addysg lleol".

(3) Yn rheoliadau 4 i 13 yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol".

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

7. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(29), ym mharagraff (b) o'r diffiniad o "awdurdod lleoli" yn lle is-baragraff (ii) rhodder-

"(ii) os yw'r plentyn yn cael ei letya mewn ysgol gymwys o dan drefniadau sydd wedi'u gwneud gan awdurdod lleol (boed wrth arfer swyddogaethau addysg o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 ai peidio), yr awdurdod lleol hwnnw,".

Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (Darpariaethau Cyffredinol a Gweithdrefn Geisiadau) 2002

8.–(1) Diwygir Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (Darpariaethau Cyffredinol a Gweithdrefn Geisiadau) 2002(30) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 7(1)(a)(v) yn lle "local education authority" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "local authority".

(3) Yn rheoliad 27(2) yn lle "local education authority" rhodder "local authority".

Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002

9. Yn rheoliad 3(1)(a)(i) o Reoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002(31) yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002

10. Yn erthygl 3(1)(a)(i) o Orchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002(32) yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

Gorchymyn Cysylltiadau Hiliol (Dyletswyddau Statudol) 2003

11.–(1) Diwygir Gorchymyn Cysylltiadau Hiliol (Dyletswyddau Statudol) 2003(33) fel a ganlyn.

(2) Yn erthygl 3(2)(b) yn lle "Local Education Authorities" rhodder "local authorities".

(3) Ar ddiwedd erthygl 3(4) mewnosoder "and the reference to "local authorities" is a reference to local authorities within the meaning of section 579(1) of the Education Act 1996".

Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 2004

12. Yn Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 2004(34) yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder "awdurdod lleol".

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

13.–(1) Diwygir rheoliad 36(4) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(35) fel a ganlyn.

(2) Ar ddiwedd is-baragraff (b) ychwaneger "a chynnwys yn yr hysbysiad i'r awdurdod lleol wybodaeth am hanes addysg y plentyn ac os yw'r plentyn wedi cael ei asesu neu'n debygol o gael ei asesu ar gyfer anghenion addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996".

(3) Hepgorer is-baragraff (c).

Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005

14.–(1) Diwygir Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005(36) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 hepgorer y diffiniad o "awdurdod addysg lleol".

(3) Yn rheoliad 5(1) hepgorer is-baragraff (dd).

(4) Yn lle rheoliad 8(4) rhodder–

"(4) Pan fydd paragraff (1) yn gymwys a'i bod yn ymddangos i'r awdurdod lleol–

(a) y gall fod angen darparu gwasanaethau ar gyfer y person yr asesir ei anghenion gan fwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; neu

(b) y gall fod angen darparu unrhyw wasanaethau ar gyfer y person hwnnw sy'n dod o fewn swyddogaethau addysg (o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996) awdurdod lleol arall,

rhaid i'r awdurdod lleol, fel rhan o'r asesiad, ymgynghori â'r bwrdd iechyd lleol hwnnw, yr Ymddiriedolaeth GIG honno, yr Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol honno neu'r awdurdod lleol hwnnw.".

(5) Yn rheoliad 10–

(a) ym mharagraff (3) yn lle "swyddogaethau awdurdod addysg lleol" rhodder "swyddogaethau addysg (o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996) awdurdod lleol arall" ac yn lle "neu awdurdod addysg lleol" rhodder "neu awdurdod lleol"; a

(b) ym mharagraff (5)(c) yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

(6) Yn rheoliad 13(2) yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol arall" ac yn lle "yr awdurdod addysg lleol" rhodder "yr awdurdod lleol arall".

Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005

15.–(1) Diwygir Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005(37) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 1(3) hepgorer y diffiniad o "awdurdod addysg lleol".

(3) Yn rheoliad 3(3) hepgorer is-baragraff (c).

(4) Yn rheoliad 6(1)(c) yn lle'r geiriau "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol arall".

(5) Yn rheoliad 11(3), yn lle'r geiriau "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol arall".

Rheoliadau Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol (Iechyd Cyhoeddus Deintyddol) (Cymru) 2006

16. Yn rheoliad 2(2)(b) o Reoliadau Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol (Iechyd Cyhoeddus Deintyddol) (Cymru) 2006(38) yn lle "local education authorities" rhodder "local authorities".

Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006

17.–(1) Diwygir rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006(39) fel a ganlyn.

(2) Yn lle'r diffiniad o "awdurdod" rhodder–

(3) Yn lle'r diffiniad o "ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol" rhodder–

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog)(Cymru) 2006

18.–(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006(40) fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 3, ym mharagraff 3(e) o Ran 1, ym mharagraff 3(dd) o Ran 2, ym mharagraff 3(ch) o Ran 3 ac ym mharagraff 3(dd) o Ran 4, yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006

19.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006(41) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliadau 4(1)(a) a 5 yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006

20.–(1) Diwygir Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006(42) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1)–

(a) yn y diffiniad o "Bwrdd" yn lle "awdurdod gwasanaethau plant" rhodder "awdurdod lleol" ac yn lle "awdurdodau gwasanaethau plant" rhodder "awdurdodau lleol";

(b) hepgorer y diffiniad o "awdurdod gwasanaethau plant";

(c) mewnosoder yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor–

(3) Yn rheoliadau 3(1)(e) a 5(1) a (2) yn lle "awdurdod gwasanaethau plant" rhodder "awdurdod lleol".

(4) Yn y pennawd i reoliad 7 yn lle "Awdurdodau Gwasanaethau Plant" rhodder "Awdurdodau Lleol".

(5) Yn rheoliad 7(1) a (2) yn lle "awdurdod gwasanaethau plant" rhodder "awdurdod lleol".

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007

21.–(1) Diwygir Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007(43) fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff 31(2) o Atodlen 5 yn lle "local education authority" rhodder "local authority (within the meaning of section 579(1) of the Education Act 1996)".

(3) Ym mharagraffau 1(1), 2(1) a 4 o Atodlen 8 yn lle "local education authority" rhodder "local authority (within the meaning of section 579(1) of the Education Act 1996)".

Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007

22.–(1) Diwygir Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007(44) fel a ganlyn.

(2) Yn lle rheoliad 6(1)(c), rhodder –

"(c) yr awdurdod lleol, os yw'n wahanol i'r awdurdod ardal,

(i) sy'n cynnal unrhyw ysgol y mae'r plentyn yn ddisgybl ynddi, neu y bwriedir iddo fod yn ddisgybl ynddi, neu

(ii) sy'n gwneud trefniadau i ddarparu addysg i'r plentyn nad yw mewn ysgol yn unol ag adran 19 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(iii) os yw'r plentyn yn ddisgybl mewn ysgol nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod lleol, sy'n awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir yr ysgol ynddi;".

Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007

23.–(1) Diwygir Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007(45) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 –

(a) yn y diffiniad o "awdurdod" yn lle "awdurdod gwasanaethau plant" rhodder "awdurdod lleol"; a

(b) yn lle'r diffiniad o "ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol" rhodder–

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008

24. Ym mharagraff 11 o Atodlen 3 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008(46) yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol (o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996)" .

Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008

25. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008(47) yn y diffiniad o "ceisydd" yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2009

26. Yn erthygl 2(2)(c) o Orchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2009(48) yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2009

27. Yn erthygl 3 o Orchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2009(49) yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli cyfeiriadau mewn rheoliadau a gorchmynion at awdurdodau addysg lleol ac awdurdodau gwasanaethau plant gan gyfeiriadau at awdurdodau lleol.

Mae integreiddio adrannau gwasanaethau plant ac adrannau addysg o fewn i awdurdodau lleol yn cael eu hadlewyrchu yn y newid hwn drwy ddefnyddio'r term awdurdod lleol (yn hytrach na chael y ddau derm awdurdod addysg lleol ac awdurdod gwasanaethau plant i gwmpasu'r un corff).

(1)

2006 p.40. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 162 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Diwygiwyd adran 162 gan adran 23 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr 2008 (mccc 2), gan baragraff 11 o'r Atodlen i Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5) a chan baragraff 20 o Atodlen 1 i Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1). Back [1]

(2)

O.S. 1994/651 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/417, 2001/3710 (Cy.306), 2002/808 (Cy.89), 2005/2929 (Cy.214). Back [2]

(3)

O.S. 1995/2090. Back [3]

(4)

Fel y'u cyhoeddwyd mae Rheoliadau Addysg (Gorchymyn Presenoldeb yn yr Ysgol) 1995 yn cynnwys dau reoliad gyda'r Rhif 1, a'r trydydd rheoliad yw'r rheoliad sy'n dwyn y Rhif 2. Back [4]

(5)

O.S. 1997/1969 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1585, 1999/1505, 2003/1779 (Cy.193), 2008/510 (Cy.46), 2008/1879. Back [5]

(6)

O.S. 1998/1943 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/2959 (Cy.277), 2009/828 (Cy.75). Back [6]

(7)

O.S. 2001/2709 (Cy.228) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/2544 (Cy.206). Back [7]

(8)

O.S. 2001/2678 (Cy.219) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2916 (Cy.213), 2006/173 (Cy.24). Back [8]

(9)

O.S. 2002/122 (Cy.16) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2913 (Cy.210). Back [9]

(10)

O.S. 2002/152 (Cy.20) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/3135, 2003/1717 (Cy.184). Back [10]

(11)

1970 p.42. Back [11]

(12)

O.S. 2002/157 (Cy.23) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2913 (Cy.210). Back [12]

(13)

O.S. 2003/1917 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3238 (Cy.243), 2005/3309. Back [13]

(14)

O.S. 2003/2909 (Cy.275) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2913 (Cy.210), 2005/3238 (Cy.243), 2006/5. Back [14]

(15)

O.S. 2003/3118 (Cy.296) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/696, 2005/2913 (Cy.210), 2005/3238 (Cy.243). Back [15]

(16)

O.S. 2004/1026 (Cy.123), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy.253), 2005/1396 (Cy.110), 2005/3239 (Cy.244), 2007/3563 (Cy.313). Back [16]

(17)

O.S. 2004/2506 (Cy.224) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2913 (Cy.210), 2005/3238 (Cy.243), 2008/1866 (Cy. 178). Back [17]

(18)

O.S. 2004/2507 (Cy.225). Back [18]

(19)

O.S. 2005/2912 (Cy.209). Back [19]

(20)

O.S. 2005/2914 (Cy.211) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3200 (Cy.236), 2006/873 (Cy.81), 2007/944 (Cy.80), 2009/2544 (Cy.206). Back [20]

(21)

O.S. 2010/638 (Cy.64). Back [21]

(22)

O.S. 2010/824 (Cy.87). Back [22]

(23)

O.S. 1990/1553 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/1398, 1993/1339, 1998/1918, 1999/500. Back [23]

(24)

O.S. 2000/2993 (Cy.193) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1390 (Cy.140), 2005/761 (Cy.65), 2008/2828. Back [24]

(25)

O.S. 2001/607 (Cy.30) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/696. Back [25]

(26)

O.S. 2001/2189 (Cy.151) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1855 (Cy.179), 2002/2935 (Cy.277), 2004/1732 (Cy.175). Back [26]

(27)

O.S. 2001/2278 (Cy.168) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2929 (Cy.214). Back [27]

(28)

O.S. 2001/3711 (Cy.307) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2913 (Cy.210). Back [28]

(29)

O.S. 2002/327 (Cy.40) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2622 (Cy.254), 2004/2414, 2005/774 (Cy.64), 2005/1541, 2005/2929, 2006/3251 (Cy.295), 2007/311 (Cy.28), 2009/2541 (Cy.205). Back [29]

(30)

O.S. 2002/1985 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/2683. Back [30]

(31)

O.S. 2002/2022 (Cy.206) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/943 (Cy.124), 2004/1827 (Cy.203), 2008/1879, 2010/193 (Cy.28). Back [31]

(32)

O.S. 2002/2023 (Cy.207) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/194 (Cy.29). Back [32]

(33)

O.S. 2003/3006 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2471, 2008/526. Back [33]

(34)

O.S. 2004/1576 (Cy.162) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3238 (Cy.243), 2006/173 (Cy.24). Back [34]

(35)

O.S. 2005/1313 (Cy.95) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/362 (Cy.48), 2009/1892, 2009/2541 (Cy. 205). Back [35]

(36)

O.S. 2005/1512 (Cy.116), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1879. Back [36]

(37)

O.S. 2005/1513 (Cy.117) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1879. Back [37]

(38)

O.S. 2006/487 (Cy.56). Back [38]

(39)

O.S. 2006/877 (Cy.82). Back [39]

(40)

O.S. 2006/1275 (Cy.121). Back [40]

(41)

O.S. 2006/1277 (Cy.122). Back [41]

(42)

O.S. 2006/1705 (Cy.167) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/912. Back [42]

(43)

O.S. 2007/236 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/1182, 2009/1357. Back [43]

(44)

O.S. 2007/310 (Cy.27). Back [44]

(45)

O.S. 2007/2316 (Cy.187). Back [45]

(46)

O.S. 2008/1848 (Cy.177). Back [46]

(47)

O.S. 2008/2141 (Cy.190) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/108 (Cy. 21). Back [47]

(48)

O.S. 2009/3050 (Cy. 267). Back [48]

(49)

O.S. 2009/3174 (Cy. 276) Back [49]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101142_we_1.html