BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 No. 1148 (Cy. 103)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101148_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010

Gwnaed

31 Mawrth 2010

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 162(5A) a 181(2) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(1).

Mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo(2).

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 a daw i rym ar y pymthegfed diwrnod ar hugain ar ôl y diwrnod y cafodd ei wneud.

Diwygio Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

2. Yn adran 24(1) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(3) yn y diffiniad o "awdurdod lleol" yn lle "awdurdod addysg lleol" rhodder "awdurdod lleol".

Diwygio Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

3.–(1) Diwygir Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009(4) fel a ganlyn.

(2) Yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man y gwelir y geiriau hynny rhodder "awdurdod lleol" ac yn lle "local education authority" ym mhob man y gwelir y geiriau hynny (gan gynnwys yn y darpariaethau newydd a fewnosodir yn Neddf Dysgu a Medrau 2000) rhodder "local authority".

(3) Yn adran 44 yn y man priodol rhodder–

Diwygio Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009

4.–(1) Diwygir Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009(5) fel a ganlyn.

(2) Yn adrannau 7 a 8 yn lle "local education authority" ym mhob man y gwelir y geiriau hynny rhodder "local authority".

(3) Yn adran 11 yn lle'r diffiniad o "awdurdod lleol" rhodder y canlynol–

Diwygio Mesur Addysg (Cymru) 2009

5.–(1) Diwygir Mesur Addysg (Cymru) 2009(6) fel a ganlyn.

(2) Yn lle "awdurdod addysg lleol" ym mhob man y gwelir y geiriau hynny rhodder "awdurdod lleol" ac yn lle "local education authority" ym mhob man y gwelir y geiriau hynny (gan gynnwys yn y darpariaethau newydd a fewnosodir yn Neddf Addysg 1996 ac yn Neddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995) rhodder "local authority".

(3) Yn adran 10 ar ôl is-adran (5) o'r adran 28IB newydd o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 ychwaneger y canlynol–

"(6) In this section, sections 28IC, 28ID and 28IE "local authority" has the meaning given by section 579(1) of the Education Act 1996.".

(4) Yn adran 19(1) yn lle "awdurdodau addysg lleol" rhodder "awdurdodau lleol".

Diwygio Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

6.–(1) Diwygir Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(7) fel a ganlyn.

(2) Hepgorer y geiriau "(awdurdodau gwasanaethau plant)" ym mhennawd adran 4.

(3) Yn adran 4 yn lle "children´s services authority" ym mhob man lle y gwelir y geiriau hynny rhodder "local authority".

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

31 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli cyfeiriadau at awdurdodau addysg lleol ac awdurdodau gwasanaethau plant â chyfeiriadau at awdurdodau lleol mewn darpariaethau ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009, Mesur Addysg (Cymru) 2009 a Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Mae integreiddio adrannau gwasanaethau cymdeithasol plant ac adrannau addysg mewn awdurdodau lleol yn cael ei adlewyrchu gan y newid hwn yn nefnydd y term awdurdod lleol (yn hytrach na chael y ddau derm, awdurdod addysg lleol ac awdurdod gwasanaethau plant i gyfeirio at yr un corff). Mae diwygiadau cyfatebol yn cael eu gwneud i ddarpariaethau mewn Deddfau sy'n gymwys i Gymru a Lloegr ill dwy yng Ngorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010, sy'n cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

(1)

2006 p.40. Mewnosodwyd adran 162(5A) a diwygiwyd adran 181(2) gan adran 23 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2), a diwygiwyd adran 162(5A) gan baragraff 11 o'r Atodlen i Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5) a chan baragraff 20 o Atodlen 1 i Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1). Back [1]

(2)

Yn unol ag adran 182A(1) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006. Back [2]

(3)

2008 mccc 2. Back [3]

(4)

2009 mccc 1. Back [4]

(5)

2009 mccc 3. Back [5]

(6)

2009 mccc 5. Back [6]

(7)

2010 mccc 1. Back [7]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101148_we_1.html