[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2010 No. 1329 (Cy. 112) (C. 81) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101329_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
21 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni ddywedir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac Atodlenni iddi.
2. 26 Ebrill 2010 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau canlynol ddod i rym o ran Cymru-
(a) adran 8(1) (darparu llety a chynnal a chadw i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol) i'r graddau y mae'n mewnosod yn Neddf 1989(2)–
(i) adran 22C(11), a
(ii) adran 22F;
(b) adran 8(2) ac Atodlen 1 i'r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 4 o'r Atodlen honno;
(c) adran 10(1) (swyddogion adolygu annibynnol) i'r graddau y mae'n mewnosod yn Neddf 1989, yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau–
(i) adran 25A(4), a
(ii) adran 25B(1)(b) a (d) a (2)(a);
(ch) adran 15 (dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau ymweliadau â phlant sy'n derbyn gofal ac eraill) i'r graddau y mae'n mewnosod yn Neddf 1989–
(i) yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau, adran 23ZA(3)(a), a
(ii) adran 23ZA(4);
(d) adran 16(1) (ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol) i'r graddau y mae'n mewnosod yn Neddf 1989–
(i) yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau, adran 23ZB(1)(a), a
(ii) adran 23ZB(9);
(dd) adran 20(3) (aelod o staff dynodedig ar gyfer disgyblion sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol mewn ysgol);
(e) adran 21(2) (hawl i daliad mewn perthynas ag addysg bellach) i'r graddau y mae'n mewnosod is-adran (5B) yn adran 23C o Ddeddf 1989(3);
(f) adran 22(3) a (5) (cymorth i ganlyn addysg neu hyfforddiant) i'r graddau y maent yn mewnosod adran 23E(1B) ac (1C) yn Neddf 1989;
(ff) adran 23(1) (estyn yr hawl i gael cynghorydd personol ac i gael cymorth mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant);
(g) adran 25(4) (seibiant oddi wrth ofalu am blant anabl) i'r graddau y mae'n mewnosod, yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau, is-baragraff (2) ym mharagraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989;
(ng) adran 27 (hysbysiad yn cyfyngu ar lety mewn sefydliadau penodol);
(h) adran 28 (apelau etc. ynghylch hysbysiadau o dan adran 22B o Ddeddf 2000(4));
(i) adran 29 (rhoi hysbysiad o faterion sy'n ymwneud â phersonau sy'n rhedeg neu'n rheoli cartrefi plant etc.) i'r graddau y mae'n mewnosod, yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau, adran 30A(3) a (4) yn Neddf 2000;
(j) adran 33 (ymchwil etc. i faterion sy'n gysylltiedig â swyddogaethau statudol penodol).
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Ebrill 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r pedwerydd Gorchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ("y Ddeddf"), sy'n dod â darpariaethau penodedig o'r Ddeddf i rym o ran Cymru.
Daw erthygl 2 o'r Gorchymyn â'r canlynol i rym ar 26 Ebrill 2010:
-� mae erthygl 2(a) a (b) yn dod â darpariaethau i rym sy'n diwygio pwerau gwneud rheoliadau'r awdurdod cenedlaethol priodol (Gweinidogion Cymru o ran Cymru) yn Neddf Plant 1989 ("Deddf 1989") ynghylch lletya a chynnal a chadw plant sy'n derbyn gofal;
-� mae erthygl 2(c) i (d) yn dod â darpariaethau i rym sy'n galluogi'r awdurdod cenedlaethol priodol i wneud rheoliadau mewn perthynas â phenodiad a swyddogaethau swyddogion adolygu annibynnol (is-baragraff (c)), ymweliadau gan gynrychiolwyr yr awdurdod lleol â phlant sy'n derbyn gofal (is-baragraff (ch)) ac ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol (is-baragraff (d));
-� mae erthygl 2(dd) yn dod ag adran 20(3) o'r Ddeddf i rym, sy'n darparu i'r awdurdod cenedlaethol priodol wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ddynodi aelod o staff â chyfrifoldeb dros hybu cyflawniadau addysgol disgyblion sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol mewn ysgol;
-� mae erthygl 2(e) yn dod â darpariaethau i rym sy'n galluogi'r awdurdod cenedlaethol priodol i wneud rheoliadau ynghylch hawliau i daliad o dan adran 23C(5B) o Ddeddf 1989;
-� mae erthygl 2(f) yn dod â darpariaethau i rym sy'n galluogi'r awdurdod cenedlaethol priodol i wneud rheoliadau ynghylch yr asesiadau sy'n ofynnol at ddibenion cynnig cymorth pellach i bobl sy'n gadael gofal o dan adrannau 23B(3) neu 23CA o Ddeddf 1989;
-� mae erthygl 2(ff) yn dod ag adran 23(1) o'r Ddeddf i rym, sy'n diwygio'r pŵer gwneud rheoliadau yn adran 28D(1) o Ddeddf 1989 fel y bydd rheoliadau o dan yr adran honno yn gallu ei gwneud yn ofynnol penodi cynghorydd personol i bobl ifanc benodol sydd o dan 25 oed;
-� Mae erthygl 2(g) yn dod â darpariaethau i rym sy'n galluogi'r awdurdod cenedlaethol priodol i wneud rheoliadau mewn perthynas â dyletswyddau'r awdurdod lleol sy'n ymwneud â seibiannau i ofalwyr plant anabl;
-� mae erthygl 2(ng) i (i) yn dod ag adrannau 27 i 29 o'r Ddeddf i rym. Mae'r adrannau hyn yn diwygio Deddf Safonau Gofal 2000 i roi pwerau a dyletswyddau ychwanegol i'r awdurdod cofrestru ynghylch safonau mewn sefyllfaoedd o ofal cymdeithasol i blant;
-� mae erthygl 2(j) yn dod ag adran 33 o'r Ddeddf i rym, sy'n gwneud darpariaeth ynghylch ymchwil a datganiadau gwybodaeth o dan Ddeddf 1989.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd â'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ("y Ddeddf") i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 8 (yn rhannol) ac Atodlen 2 | 31 Mawrth 2010 | 2010/749 (Cy.77) (C.51) |
Adran 30 | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy.64) (C.47) |
Adran 34 | 31 Mawrth 2010 | 2010/749 (Cy.77) (C.51) |
Adran 35 | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy.64) (C.47) |
Adran 36 | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy.175) (C.91) |
Adran 37 | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy.175) (C.91) |
Adran 38 | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy.175) (C.91) |
Adran 42 ac Atodlen 4 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy.64) (C.47) |
Adran 42 ac Atodlen 4 (yn rhannol) | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy.175) (C.91) |
Adran 42 ac Atodlen 4 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2010 | 2010/749 (Cy.77) (C.51) |
Daethpwyd â'r darpariaethau a ganlyn i rym o ran Cymru a Lloegr drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 18 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2010 | 2009/3354 (C.154) |
Adran 31 | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 (C.11) |
Adran 32 | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 (C.11) |
Daethpwyd ag amrywiol ddarpariaethau o'r Ddeddf i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol a ganlyn:
-� O.S. 2009/323 (C.15)
-� O.S. 2009/2273 (C.99)
Gweler hefyd adran 44(1) a (2) o'r Ddeddf am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 13 Tachwedd 2008 (dyddiad Cydsyniad Brenhinol).
2008 p.23 ("y Ddeddf "). Back [1]
Diffinnir "the 1989 Act" yn adran 41 o'r Ddeddf i olygu Deddf Plant 1989 (p.41). Back [2]
Mewnosodwyd adran 23C o Ddeddf Plant 1989 gan adran 2 o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35). Back [3]
Diffinnir "the 2000 Act" yn adran 41 o'r Ddeddf i olygu Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14). Back [4]