BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010 No. 1457 (Cy. 130) (C. 83)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101457_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010

Gwnaed

19 Mai 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 161(3) a (4) a 170(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y diwrnod penodedig

2. 21 Mai 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 ddod i rym–

(a) adran 140, i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 12;

(b) adran 166, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau a grybwyllir ym mharagraff (ch);

(c) Rhan 2 o Atodlen 12; ac

(ch) y diddymiadau sydd wedi'u cynnwys yn Rhan 4 o Atodlen 15 sy'n ymwneud ag adrannau 174 i 176 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 8 iddi(2).

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Mai 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 21 Mai 2010 ddarpariaethau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 ("y Ddeddf") sy'n ymwneud â chyllido gwariant ar wasanaethau fferyllol cymunedol a ddarperir fel rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Dyma'r prif newidiadau: yn gyntaf, y bydd cyllid ar gyfer gwasanaethau fferyllol cymunedol a oedd gynt wedi ei ddal yn ganolog yn dod yn rhan o'r dyraniadau a roddir i Fyrddau Iechyd Lleol; ac yn ail, y rhoddir pwerau i Weinidogion Cymru i ddynodi unrhyw elfen o'r gydnabyddiaeth a delir gan Fyrddau Iechyd Lleol ar gyfer gwasanaethau fferyllol cymunedol ac nad yw'n elfen sydd i'w phriodoli i gost cyffuriau. Mecanwaith yw dynodiad sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru reoli'r ffordd y dyrennir cyllido elfen ddynodedig rhwng Byrddau Iechyd Lleol.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

Nodyn am y gorchmynion cychwyn blaenorol

Cafodd darpariaethau canlynol y Ddeddf eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y ddarpariaeth Y dyddiad cychwyn O.S. rhif
a.148 19 Ebrill 2010 2010/989 (Cy.98)
a.147 6 Ebrill 2009 2009/631 (Cy.57)
a.166 (i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 5 o Atodlen 15) 6 Ebrill 2009 2009/631 (Cy.57)
Atodlen 13 6 Ebrill 2009 2009/631 (Cy.57)
Rhan 5 o Atodlen 15 6 Ebrill 2009 2009/631 (Cy.57)
(1)

2008 p.14. Back [1]

(2)

2006 p.42. Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101457_we_1.html