BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) 2010 No. 1461 (Cy. 133) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101461_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
19 Mai 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
22 Mai 2010
Yn dod i rym
5 Gorffennaf 2010
Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru (2).
Mae Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn hwn.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) 2010 a daw i rym ar 5 Gorffennaf 2010.
2. Mae Gweinidogion Cymru'n dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn–
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
19 Mai 2010
Erthygl 2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r cyfan o ddinas a sir Caerdydd ac eithrio–
(a) Traffordd yr M4 a'i slipffyrdd, gan gynnwys y slipffyrdd gogleddol a deheuol i Gyffordd 32 a'r gerbytffordd gylchdroi (A4054) o amgylch Cyffordd 32;
(b) yr A470, gan gynnwys ei slipffyrdd, o'r ffin â bwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, sydd oddeutu 240 metr i'r gogledd o gylchfan Ynys Bridge y B4262, hyd at ei chyffordd â Ffordd Pant-mawr;
(c) yr A48(M) a'r A48 o'r ffin â dinas Casnewydd, sydd oddeutu 800 metr i'r dwyrain o drosbont cyffordd Llaneirwg, hyd at drosbont Radyr Place, 470 metr i'r gorllewin o Gyfnewidfa Gabalfa, gan gynnwys yr holl slipffyrdd a'r cerbytffyrdd cylchredol yng nghyfnewidfa Ffordd Gyswllt Pentwyn (A4232) a chyfnewidfa Llanedern (A4161);
(ch) yr A4232 o Gyffordd 30 yr M4 gan gynnwys ei cherbytffordd gylchredol hyd at ei chyffordd â'r A48;
(d) yr A4161 o'i chyffordd â chyfnewidfa Pentwyn yr A48 hyd at ei chyffordd â'r A4232, gan gynnwys ei slipffyrdd i gylchfan Heol Casnewydd;
(dd) yr A4232 o'i chyffordd â'r A4161 hyd at ei chyffordd â chylchfan Lamby Way/ Rover Way;
(e) yr A4232, gan gynnwys ei slipffyrdd, o Gyffordd 33 yr M4 (gan gynnwys ei cherbytffordd gylchdroi) hyd at ei chyffordd â'r A4234, gan gynnwys cerbytffordd gylchredol Queen´s Gate a'r cyswllt â'r gylchfan yng Nghainc Neuadd y Sir;
(f) yr A4234 o'i chyffordd ag Adam Street hyd at ei chyffordd â chylchfan Neuadd y Sir, gan gynnwys y gyffordd ryngol â'r A4232 a Chainc Neuadd y Sir; ac
(ff) yr A4055 o, a chan gynnwys, cerbytffordd gylchredol cyfnewidfa Ferry Road y A4232 tua'r de a thua'r gorllewin am bellter o tua 575 metr, hyd at y ffin â bwrdeistref sirol Bro Morgannwg.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd i orfodi'r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn. Yn hytrach na thrwy'r heddlu neu wardeiniaid traffig mewn cyd-destun cyfraith trosedd, caiff y gyfraith hon ei gorfodi drwy gyfundrefn cyfraith sifil.