BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College (Diddymu) 2010 No. 1761 (Cy. 166)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101761_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College (Diddymu) 2010

Gwnaed

6 Gorffennaf 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Gorffennaf 2010

Yn dod i rym

1 Awst 2010

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru(2).

Yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf honno, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (Deeside College Further Education Corporation)(3) wedi cydsynio â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College(4).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College yn unol ag adran 27(7) o'r Ddeddf honno.

Gan hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College (Diddymu) 2010 a daw i rym ar 1 Awst 2010.

Diddymu a Throsglwyddo

2. Ar 1 Awst 2010 fe ddiddymir Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College a throsglwyddir ei eiddo, ei hawliau a'i rwymedigaethau i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (Deeside College Further Education Corporation), sef corff corfforaethol sy'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf â darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.

Trosglwyddo Staff

3. Mae adran 26(2), (3) a (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn gymwys i unrhyw berson a gyflogid gan Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College yn union cyn 1 Awst 2010 fel pe bai'r cyfeiriadau yn yr adran honno–

(a) at berson y mae'r adran honno'n gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson a gyflogid felly;

(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Awst 2010;

(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College; ac

(ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (Deeside College Further Education Corporation).

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

6 Gorffennaf 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i gynnal y sefydliad addysgol o'r enw Coleg Llysfasi College ac yn cael effaith o 1 Awst 2010. Mae'n darparu ar gyfer trosglwyddo'i eiddo, ei hawliau a'i rwymedigaethau i Gorfforaeth Addysg Bellach Glannau Dyfrdwy (Deeside College Further Education Corporation) ac yn sicrhau hawliau ei chyflogeion drwy gymhwyso, gydag addasiadau, adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13).

(1)

1992 p.13; diwygiwyd adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 gan erthygl 9 o Orchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 a pharagraffau 13 ac 16(a)-(c) o Atodlen 1 iddo (O.S. 2005/3238); gan adran 29 o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddi 2007 (p. 25) a pharagraffau 6 ac 8 o Atodlen 1 iddi; gan adran 30 o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddi 2007 ac Atodlen 2 iddi ond ar adeg gwneud y Gorchymyn hwn nid oedd y darpariaethau hynny wedi eu cychwyn; a chan erthygl 2 o Orchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 2010 a pharagraffau 18 ac 19 o Atodlen 1 iddo (O.S. 2010/1080). Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

Sefydlwyd gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1993 (O.S. 1993/97). Back [3]

(4)

Sefydlwyd gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/2097). Back [4]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101761_we_1.html