BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 2010 No. 1780 (Cy. 169) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101780_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
8 Gorffennaf 2010
Yn dod i rym
30 Gorffennaf 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Reoliad y Comisiwn (EC) 616/2009(2) a weithredir gan y Gorchymyn hwn gael effaith fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 2010. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Gorffennaf 2010.
2. Yn y Gorchymyn hwn:–
ystyr "Rheoliad y Comisiwn" ("Commission Regulation") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 616/2009 sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ynghylch cymeradwyo compartmentau dofednod a chompartmentau eraill ar gyfer adar caeth mewn perthynas â ffliw adar a mesurau bioddiogelwch ychwanegol i'w atal mewn compartmentau o'r fath, fel y diwygir y Gyfarwyddeb honno o bryd i'w gilydd;
ystyr "safle cynhyrchu" ("production site") yw mangre lle mae dofednod yn cael eu cadw at ddibenion bridio, magu, pesgi neu gynhyrchu wyau ac sy'n destun cais o dan erthygl 4; ac
ystyr "safle gweinyddol" ("administrative site") yw mangre lle y mae dogfennau neu gofnodion sy'n ymwneud â safle cynhyrchu yn cael eu cadw.
3. Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Comisiwn.
4. Rhaid i geisiadau ar gyfer cymeradwyaeth o gompartmentau gael eu gwneud ar y ffurflenni a ddarperir gan Weinidogion Cymru ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
5.–(1) Caiff arolygydd, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud â 'r Gorchymyn hwn–
(a) mynd i mewn i unrhyw fangre a gymeradwywyd yn gompartment o dan y Gorchymyn hwn ac i unrhyw safle gweinyddol sy'n cynnwys cofnodion sy'n berthnasol ar gyfer cymeradwyo safle yn gompartment;
(b) ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad ddangos neu gopïo unrhyw ddogfen neu gofnod;
(c) symud a dal gafael ar gopi o unrhyw ddogfen neu gofnod;
(ch) cael mynediad i, ac archwilio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chofnodion;
(d) pan fo cofnod yn cael ei gadw ar gyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnod fod ar gael mewn ffurf y gellir ei gymryd ymaith;
(dd) mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef neu unrhyw berson y mae'r arolygydd o'r farn ei fod yn angenrheidiol.
(2) Os yw'n ofynnol i berson wneud unrhyw beth i arolygydd sy'n gweithredu o dan baragraff (1) rhaid iddo, oni fydd ganddo achos rhesymol, wneud hynny'n ddi-oed.
(3) At ddibenion yr erthygl hon ystyr arolygydd yw unrhyw berson a gymeradwywyd yn arolygydd o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
6.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru arolygu pob safle cynhyrchu cyn eu cymeradwyo'n gompartment.
(2) Cyn gynted ag y bydd safleoedd cynhyrchu wedi cael eu cymeradwyo'n gompartmentau rhaid i Weinidogion Cymru ailarolygu'r safleoedd hynny ar ôl bylchau amser a benderfynwyd drwy asesiad o risg sy'n gysylltiedig â phob compartment.
(3) Pan fyddant yn arolygu'r safleoedd cynhyrchu caiff Gweinidogion Cymru hefyd arolygu safleoedd gweinyddol sy'n dal cofnodion sy'n berthnasol i gymeradwyo'r safleoedd cynhyrchu hyn yn gompartmentau.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Gorffennaf 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 616/2009 sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer cydnabod compartmentau dofednod sy'n bodloni safonau uchel mewn bioddiogelwch (OJ Rhif L 181, 14.7.2009, t. 16). Gan fod y cais am gydnabyddiaeth yn wirfoddol, yr unig gosb am fethiant i gydymffurfio â gofynion y Gorchymyn hwn yw tynnu'n ôl gymeradwyaeth o fangre fel compartment.
1981 p. 22. Mae swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Minister" a "the Ministers", i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru. Back [1]
OJ Rhif L181, 14.7.2009, t.16. Back [2]