BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gorseinion a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Abertawe (Diddymu) 2010 No. 1876 (Cy. 181) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101876_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
21 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
22 Gorffennaf 2010
Y n dod i rym
20 Awst 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 26(1)(b) a (5) a 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru(2).
Yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf honno, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe ("Gower College Swansea Further Education Corporation")(3) wedi cydsynio â throsglwyddoeiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gorseinion ("Gorseinion College Further Education Corporation")(4) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Abertawe ("Swansea College Further Education Corporation")(5).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Gorseinion (" Gorseinion College Further Education Corporation") a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Abertawe ("Swansea College Further Education Corporation"), yn unol ag adran 27(7) o'r Ddeddf honno.
Felly, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gorseinion a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Abertawe (Diddymu) 2010 a daw i rym ar 20 Awst 2010.
2. Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(6); ac
ystyr "yr Hen Gorfforaethau" ("the Old Corporations") yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gorseinion ("Gorseinion College Further Education Corporation") a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Abertawe ("Swansea College Further Education Corporation").
3. Ar 20 Awst 2010 diddymir pob un o'r Hen Gorfforaethau a throsglwyddir eu holl eiddo, eu hawliau a'u rhwymedigaethau yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf i Gorfforaeth Addysg Bell ach Coleg Gŵyr Abertawe ("Gower College Swansea Further Education Corporation"), sy'n gorff corfforaethol a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau a gwasanaethau addysgol.
4.–(1) Mae unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi gan y naill neu'r llall o'r Hen Gorfforaethau yn union cyn 20 Awst 2010 wedi ei ddynodi at ddibenion paragraff (2) yn unol ag adran 26(1)(b) a (5) o'r Ddeddf ("personau dynodedig").
(2) Mae adran 26 o'r Ddeddf yn gymwys i'r personau dynodedig fel petai'r cyfeiriadau yn is-adrannau (2), (3) a (4)–
(a) at berson y mae'r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson dynodedig;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 20 Awst 2010;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at yr Hen Gorfforaeth sy'n cyflogi'r person dynodedig yn union cyn 20 Awst 2010; ac
(ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe ("Gower College Swansea Further Education Corporation").
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
21 Gorffennaf 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r corfforaethau addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg Gorseinion ("Gorseinion College") a Choleg Abertawe ("Swansea College") a bydd y diddymu hwnnw yn cael ei effaith o 20 Awst 2010 ymlaen. Mae'n darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r naill gorfforaeth a'r llall i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe ("Gower College Swansea Further Education Corporation") ac yn sicrhau hawliau cyflogaeth cyflogeion y corfforaethau a ddiddymwyd drwy gymhwyso adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Effaith cymhwyso adran 26(2) yw cadw'r contractau cyflogaeth rhwng cyflogeion y corfforaethau a ddiddymwyd mewn perthynas â hawliau fel pe na bai newid o ran cyflogwr, er gwaethaf y ffaith mai Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe ("Gower College Swansea Further Education Corporation") fydd y cyflogwr newydd o 20Awst 2010 ymlaen.
1992 p.13; Diwygiwyd adran 26(1) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), paragraff 37(a) o Atodlen 30 ac Atodlen 31. Diwygiwyd adran 27 gan Orchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Dileu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238), paragraffau 13 a 16(a) – (c) o Atodlen 1; gan Orchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/1080), paragraffau 18 a 19(a) a (b) o Ran 1 o Atodlen 1; gan Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 (p. 25), paragraffau 6 a 8 o Atodlen 1; a chan Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007, Atodlen 2, ond ar adeg gwneud y Gorchymyn hwn nid oedd y diddymiadau perthnasol yn Atodlen 2 wedi'u cychwyn. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 26 a 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), paragraff 30 o Atodlen 11. Back [2]
Sefydlwyd gan Orchymyn Coleg Gŵyr Abertawe (Corffori) 2010 (O.S. 2010/1368 (Cy.118)). Back [3]
Sefydlwyd y gorfforaeth addysg bellach hon gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/2097) dan yr enw "Gorseinion College" ond mae wedi gweithredu dan yr enw Coleg Gorseinon yn ogystal â'r enw Gorseinon College. Back [4]
Sefydlwyd y gorfforaeth addysg bellach hon gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/2097) dan yr enw "Swansea College" ond mae wedi gweithredu dan yr enw Coleg Abertawe yn ogystal â'r enw Swansea College. Back [5]
1992 p.13. Back [6]