BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 35 (Cy.2)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol)
(Cymru) (Diwygio) 2005
|
Wedi'u gwneud |
11 Ionawr 2005 |
|
|
Yn dod i rym |
18 Ionawr 2005 |
|
Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r
Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(1) a (2), a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg
1996[1]
ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:
Enwi,
cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am
Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 18 Ionawr
2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn
perthynas â Chymru.
Diwygio Rheoliadau
2. - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am
Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003[3]
fel a ganlyn.
(2) Ar ddiwedd rheoliad 3,
ychwaneger y geiriau ", a hynny ar ffurf y gall peiriant ei
phrosesu".
(3) Yn Rhan 2 o'r
Atodlen -
(a) dileer y gair "a" ar ddiwedd paragraff 1(a);
(b) yn lle
paragraff 1(b), rhodder -
(c) ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau "Mewn perthynas â", yn lle'r geiriau
"cwrs neu weithgaredd dysgu arall", rhodder "gweithgaredd dysgu";
(ch)
dileer y gair "ac" ar ddiwedd paragraff 2(d); a
(d) ar ôl paragraff
2(dd), rhodder y paragraff a ganlyn -
" (e) pa un a yw'r disgybl yn parhau i astudio neu a yw wedi cwblhau neu
wedi tynnu yn ôl o'r gweithgaredd dysgu; ac
(f) os cwblhaodd neu os
tynnodd y disgybl yn ôl o'r gweithgaredd dysgu, y dyddiad y cwblhaodd neu y
tynnodd y disgybl yn ôl o'r gweithgaredd dysgu, a pha un a yw'r disgybl wedi
dechrau astudio gweithgaredd dysgu newydd.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D.
Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Ionawr
2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn
rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003, sy'n ei
gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ddarparu gwybodaeth
ragnodedig am y disgyblion sydd yn yr ysgol i'r awdurdod addysg lleol sy'n
cynnal yr ysgol, a hynny ar gais ysgrifenedig yr awdurdod.
Mae rheoliad 2
yn diwygio Rheoliadau 2003 drwy:
- ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ddarparu
gwybodaeth am ddisgyblion unigol i'r awdurdod addysg lleol sy'n ei chynnal, a
hynny ar ffurf y gall peiriant ei phrosesu; ac
- ymestyn rhychwant yr wybodaeth y caiff awdurdodau addysg lleol ofyn amdani
am ddisgyblion y chweched dosbarth.
Notes:
[1] 1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan
Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.44), adran 20, ac fe'i disodlwyd gan Ddeddf Safonau a
Fframwaith Ysgolion 1998 (1998 p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57
a 153. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1) o
Ddeddf 1996.back
[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
(Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] O.S. 2003/3237 (Cy.317).back
[4] 1998 p.38.back
English
version
ISBN 0 11 091054 0
| © Crown copyright 2005 |
Prepared 17 January 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050035w.html