BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2007 Rhif 2810 (Cy.237)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072810w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2810 (Cy.237)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2007

  Wedi'i wneud 25 Medi 2007 
  Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Medi 2007 
  Yn dod i rym 20 Hydref 2007 

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) and (3) and 42(6) and (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt[1], a hwythau o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, ar y cyd â'i swyddogaethau eraill, gyflawni'n briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn, ac ar ôl ymgynghori fel yr ymddengys iddynt sydd yn briodol yn unol ag adran 7(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2007 a daw i rym ar 20 Hydref 2007.

    
2. Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005[2] fel a ganlyn.

     3. —(1) Yn erthygl 2 yn y diffiniad o "y Gyfarwyddeb" ("the Directive") rhodder yn lle'r geiriau "89/48/EEC" y geiriau "2005/36/EC".

    (2) Yn erthygl 2 yn y diffiniad o "y Rheoliadau" ("the Regulations") rhodder yn lle'r geiriau "Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005" y geiriau "Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007.".


Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

25 Medi 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 ("Gorchymyn 2005") drwy roi yn lle'r cyfeiriad at Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48/EEC gyfeiriad at Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/36/EC.

Diwygir Gorchymyn 2005 hefyd drwy roi yn lle'r cyfeiriad at Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005 gyfeiriad at Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007.


Notes:

[1] 1998 p.30. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back

[2] O.S. 2005/36 (Cy.3).back



English version



ISBN 978 0 11 091633 0


 © Crown copyright 2007

Prepared 12 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072810w.html