BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 3173 (Cy.278)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2007
|
Gwnaed |
7 Tachwedd 2007 | |
|
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
8 Tachwedd 2007 | |
|
Yn dod i rym |
30 Tachwedd 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1].
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion yr adran honno o ran rheoli a rheoleiddio'r broses o ryddhau'n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a rheoli a rheoleiddio'u symudiadau trawsffiniol[2], o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy'n cael ei gynhyrchu neu ei fwydo i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd[3], o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[4] a mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd[5].
Bu ymgynghori agored a thryloyw yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[6] sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2007, deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2.
Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2005[7] wedi'u dirymu.
Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004
3.
—(1) Mae'r testun Saesneg o Reoliad 8 (arolygu, atafaelu a dal gafael ar fwyd anifeiliaid a amheuir) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004[8] wedi'i ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ym mharagraff (5), yn lle'r ymadrodd "Subject to paragraphs (5A), (5B) and (6)" rhodder yr ymadrodd "Subject to paragraph (6)".
(3) Mae paragraffau (5A) a (5B) wedi'u hepgor.
Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006
4.
Yn Atodlen 2 (diffiniad o gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol) i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006[9], mae paragraff (dd) wedi'i hepgor.
G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Tachwedd 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (O.S. 2005/1323 (Cy.97)), ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004 (O.S. 2004/3221 (Cy.277)) a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/590 (Cy.66)).
2.
Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2007/157/EC sy'n diddymu Penderfyniad 2005/317/EC ar fesurau brys ynglyn â'r organedd a addaswyd yn enetig anawdurdodedig Bt 10 mewn cynhyrchion indrawn. (OJ Rhif L68, 8.3.2007, t.8).
3.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir y byddant yn effeithiol o gwbl ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.
Notes:
[1]
1972 p.68.back
[2]
O.S. 2003/2901. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn a'r tri dynodiad arall y cyfeiriwyd atynt i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi.back
[3]
O.S. 2005/1971.back
[4]
O.S. 2005/2766.back
[5]
O.S. 2003/1246.back
[6]
OJ RhifL31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ar y dyddiad y gwnaed yr offeryn hwn gan Reoliad (EC) Rhif575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back
[7]
O.S. 2005/1323 (Cy.97).back
[8]
O.S. 2004/3221 (Cy.277). Cafodd y testun Saesneg o'r offeryn hwnnw ei ddiwygio gan O.S. 2005/1323 (Cy.97), ac mae'r Rheoliadau hyn yn awr yn dirymu'r diwygiadau hynny.back
[9]
O.S. 2006/590 (Cy.66).back
English version
ISBN
978 0 11 091661 3
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
19 November 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073173w.html